Ers ei sefydlu, bellach mae sawl math o Wica, a elwir yn draddodiadau, gan gynnwys Wica Gardneraidd ac Wica Alecsandraidd, sef y ddau brif draddodiad. Er hynny, nid oes gan Wica awdurdodaeth ganolog, ac o'r herwydd, weithiau ceir anghytuno ar gynifer o faterion pwysig. Mae rhai traddodiadau, fel Wica Draddodiadol Brydeinig, yn cadw'n dynn at linach Gardner.
Mae Wiciaid yn dathlu gweddau'r lleuad, a elwir yn esbatau, lle anrhydeddir y Dduwies, a gweddau'r haul sydd yn wyliau tymhorol, a elwir yn sabatau, lle anrhydeddir y Duw Corniog. Ceir testun y'i hystyrir yn sanctaidd gan gynifer o draddodiadau Wicaidd o'r enw'r Cyngor Wicaidd, ond nid ydy pob traddodiad yn ei ystyried yn sanctaidd. Mae Wica yn cynnwys ymarfer hudoliaeth a gwrachyddiaeth.
Er y gall barnau Wica ynghylch diwinyddiaeth amrywio o un traddodiad i'r llall, mae'r mwyafrif o Wiciaid yn credu mewn duw a duwies. Mae'r grefydd yn cynnwys theistiaid, anffyddwyr, ac agnosticiaid, lle creda rhai fod y duwiau yn bodoli yn wir, a chreda rhai eu bod yn debyg i archdeipiau Jwngaidd.[2] Mae'r grefydd hefyd yn cynnwys credoau pantheïstaidd, undduwaidd, deuolaidd, ac amldduwaidd.[2]
Yn ôl y gwrachod Janet a Stewart Farrar, a oedd yn credu mewn holldduwiaeth, deuoliaeth, ac animistiaeth, mae Wiciaid yn "credu bod yr holl gosmos yn fyw, yn gyfan gwbl ac ymhob man", ond "nad ydyw barn organig y cosmos yn gallu cael ei mynegi'n llawn, ac nid oes modd iddi fyw heb y cysyniad o Dduw a Duwies. Nid oes amlygiad heb bolareiddiad; felly ar y lefel greadigol uchaf, y lefel ddiwinyddol, rhaid i'r polareiddiad fod yn eglur ac yn rymus ar y cyfan, yn ogystal ag ystyried a lledaenu'i hunan drwy bob un lefel ficrogosmig."[3]
Y Duw a'r Dduwies
I'r mwyafrif o Wiciaid, gwelir y Duw a'r Dduwies yn bolareddau cyflenwol yn y bydysawd sy'n cydbwyso'i gilydd, ac o ganlyniad i hyn, cymharir hwy â'r cysyniad o in iang a geir yn Nhaoaeth.[4] O'r herwydd, dehonglir hwy yn "ymgorfforiadau o amlygiad mewn natur."[5] Mae rhai Wiciaid eraill yn credu mai symbolau o'r polareddau hyn ydyn nhw, tra bod eraill yn credu mai bodau diffuant sy'n bodoli'n annibynnol ydyn nhw. Fel arfer, rhoddir priodoleddau symbolaidd i'r ddau dduwdod hyn, gan gynrychioli'r Dduwies gyda'r Ddaear (h.y., Mam y Ddaear), ond hefyd weithiau fel y Lleuad, sy'n canmol y Duw, a gynrychiolir fel yr Haul.[6]
"Y mae'r Duwiau a Duwiesau'n bodoli. Nid fel pobl, ond fel mathau o bŵer. Yn gryno, gellid ei egluro bod y personoliad o fath arbenigol o bŵer cosmig ar ffurf Duw neu Dduwies, a gredwyd ynddynt gan gredwyr ac addolwyr yn ystod y canrifoedd blaenorol, yn adeiladu'r Duw-ddull neu Ddelwedd Dewiniaethol i mewn i realiti crynodol ar y Gwastadoedd Mewnol, sy'n wneud iddo yn fodd lle gallwch gysylltu â'r fath bŵer cosmig honno."
Saesneg gwreiddiol
"The Gods are real, not as persons, but as vehicles of power. Briefly, it may be explained that the personification of a particular type of cosmic power in the form of a God or Goddess, carried out by believers and worshippers over many centuries, builds that God-form or Magical Image into a potent reality on the Inner Planes, and makes it a means by which that type of cosmic power may be contacted."
Yn draddodiadol, gwelir y Duw fel y Duw Corniog, a gysylltir â natur, anial, rhywioldeb, hela, a'r cylchred bywyd.[8] Yn ôl y traddodiad, rhoddir enwau gwahanol iddo, gan gynnwys Cernunnos, Pan, Atho, a Karnayna. Er nad yw'r ffigwr hwn yn cyfateb i'r ffigwr traddodiadol Cristnogol o Satan, a welir fel endid sy'n ymroddedig i ddrwg o fewn Cristnogaeth, mae lleiafrif bach o Wiciaid, ynghyd â'r cyhuddiadau o dreialon gwrachod hanesyddol, yn cyfeirio at eu Duw Corniog gydag enwau fel Satan, megis "y Diafol"[9] neu fel "Lwsiffer", term Lladin sy'n golygu "cariwr golau".[10] Ar adegau eraill, gwelir y Duw fel y Dyn Gwyrdd,[11] ffigwr traddodiadol mewn celf a phensaernïaeth Ewropeaidd, a dehonglir nhw yn gysylltiedig â'r byd naturiol. Gwelir y Duw hefyd fel Duw Haul,[12] yn bennaf ar adeg Gŵyl Ganol yr Haf, neu heuldro'r haf. Cred arall am y Duw yw ei fod yn Frenin Derw a Brenin Celyn, sy'n rheoli dros y gwanwyn a'r haf, gyda'r llall yn rheoli dros yr hydref a'r gaeaf.[11]
Portreadir y Dduwies fel arfer fel Duwies Driphlyg, ac felly yn dduwies driphlyg sy'n cynnwys yr Wyryf, y Fam, a'r Hen Wrach. Mae gan bob un ohonyn nhw briodoleddau gwahanol, sef gwyryfdod, ffrwythlondeb, a challineb yn ôl eu trefn.[13] Gwelir hi hefyd fel Duwies Leuad,[14] a rhoddir yr enw Diana arni, enw'r dduwies Rufeinig hynafol. Mae rhai Wiciaid yn meddwl bod y Dduwies yn fwy pwysig na'r Duw a'i bod yn arbennig oherwydd ei bod yn cynnwys ac yn rhoi genedigaeth i bopeth. Gwelir y Duw fel y wreichionen o fywyd ac ysbrydoliaeth y tu mewn i'w hun, ei chariad a'i phlentyn ar yr un pryd.[15] Gwelir hyn yn fframwaith traddodiadol y cwfen.[16] Yn Wica Dianigaidd, yr unig dduwdod yw'r Dduwies, sy'n gysyniad a feirniadir gan aelodau o draddodiadau sy'n fwy egalitaraidd.
Dyfeisiwyd y cysyniad o grefydd sy'n credu mewn Duw Corniog a Duwies gan Eifftydd o'r enw Margaret Murray yn ystod y 1920au. Credai, yn sgil ei theorïau ei hun ynglŷn â threialon gwrachod yn Ewrop Ddiweddar Gynnar, fod yr addolwyd duw a duwies, ond y Duw Corniog yn bennaf, gan gwlt y gwrachod ers i orllewin Ewrop ildio i Gristnogaeth. Erbyn hyn, gwrthodir y ddamcaniaeth hon yn fawr iawn, ond roedd Gardner yn gefnogwr o'r ddamcaniaeth, a chredai mai parhad o gwlt y gwrachod hanesyddol hynny oedd Wica, ac felly roedd y Duw Corniog a'r Dduwies yn dduw a duwies hynafol Ynysoedd Prydain.[17] Gwrthbrofwyd y datganiad hwn gan ysgolheictod diweddar, ond er hynny, addolwyd casgliad o wahanol dduwiau corniog a duwiesau mamol hyd a lled Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnodau canoloesol cynnar a hynafol.[18]
Pantheistiaeth, Amldduwiaeth, ac Animistiaeth
Mae llawer o Wiciaid yn meddwl mai dim ond dau agwedd o'r un Duwdod yw'r Duw a'r Dduwies, a welir yn aml fel duwdod pantheistiol, trwy hynny'n amgylchynu popeth yn y bydysawd o fewn ei ddiwinyddiaeth. Yn ei ysgrifeniadau cyhoeddus, cyfeiriodd Gardner at yr endid hwn fel y Prif Symudydd, ond datganodd ei fod yn adnabyddadwy o hyd,[19] er o fewn defodau ei draddodiad, Wica Gardneraidd, cyfeirir ato fel y Dryghten,[20] sy'n golygu "arglwydd" mewn Hen Saesneg yn wreiddiol. Ers hynny, rhoddwyd llawer o enwau eraill arno gan wahanol Wiciaid; "The One" gan Scott Cunningham er enghraifft.[21]
Yn ogystal â phantheistiaeth a deuoliaeth, mae llawer o Wiciaid yn derbyn y cysyniad o amldduwiaeth, trwy hynny'n credu bod llawer o wahanol dduwiau a duwiesau yn bodoli. Mae rhai yn derbyn barn yr ocwltiwrDion Fortune, fod "pob un duw yn un duw, ac mae pob un dduwies yn un dduwies" — hynny yw, bod duwiau a duwiesau o bob un diwylliant, yn ôl eu trefn, yn agweddau o'r un uwch Dduw ac uwch Dduwies. Gyda'r farn hon, gall Wiciad edrych ar y Dduwies Almaenig Ēostre, y Dduwies Hindŵaidd Kali, a'r Forwyn Fair fel amlygiadau'r un Dduwies oruchaf, ac yn yr un modd, y Duw Celtaidd Cernunnos, y Duw Groegaidd hynafol Dionysus, ac Yahweh (o Judo-Gristnogaeth) fel amlygiadau'r un Duw goruchaf. Mae dynesfa amldduwiol fwy caeth yn meddwl mai endidau arbennig yw'r gwahanol dduwiau a duwiesau, gwahanol mewn eu hawliau eu hunain. Mae Janet Farrar a Gavin Bone wedi cynosod bod Wica yn dyfod yn fwy amldduwiol wrth iddi aeddfedu, gan dueddu cynnwys safbwynt Paganaidd mwy traddodiadol.[22] Mae rhai Wiciaid yn synio'r nid personoliaethau llythrennol yw'r duwiau a'r duwiesau, ond yn archfathau trosiadol, trwy hynny'n caniatáu iddynt fod yn anffyddwyr mewn ffordd.[23] Honnwyd y fath farn gan Archoffeiriades Vivianne Crowley, a oedd yn seicolegydd ac yn ystyried y Duwiau a Duwiesau Wicaidd i fod yn Archfathau Jungaidd a oedd yn bodoli o fewn y meddwl isymwybodol a wysir yn ystod defod. Oherwydd hyn, dywedodd, "Mae'r Dduwies a'r Duw yn amlygu eu hunain inni ar ffurf breuddwyd a gweledigaeth."[24]
Yn hanfodol, crefydd fewnfodol yw Wica, ac i raddau, mae'r syniad hwn hefyd yn cynnwys elfennau o animistiaeth. Cred sy'n ganolog i Wica yw'r Dduwies a'r Duw yn gallu amlygu eu hunain mewn ffurf bersonol, fel arfer trwy gyrff yr Archoffeiriades a'r Archoffeiriad sy'n perfformio defodau megis Tynnu'r Lleuad i lawr neu Dynnu'r Haul i lawr.
Yr ôl-fywyd
Mae'r gred yn yr ôl-fywyd yn amrywio o Wicaid i Wicaid,[25] er bod ailymgnawdoliad yn ddysgeidiaeth draddodiadol sy'n dyddio'n ôl i Gwfen y Fforest Newydd yn y 1930au. Dywedodd Raymond Buckland, yr Archoffeiriad dylanwadol, fod enaid dynol yn ailymgnawdoli i mewn i'r un rhywogaeth dros sawl bywyd er mwyn dysgu gwersi ac ymestyn yn ysbrydol,[26] ond nid yw'r gred hon yn gyffredinol, gan fod llawer o Wiciaid yn credu y gall enaid ailymgnawdoli i mewn i wahanol rywogaethau. Serch hynny, mae gan Wiciaid ddywediad poblogaidd: "unwaith yn wrach, wastad yn wrach," sy'n dangos y gred mai ailymgnawdoliadau o wrachod blaenorol yw Wiciaid.[27]
Fel arfer, mae Wiciaid sy'n credu mewn ailymgnawdoli yn credu bod yr enaid yn gorwedd rhwng ailymgnawdoliadau yn yr Arallfyd neu Wlad yr Haf, sydd â'r enw "ecstasi'r Dduwies" yn ôl Gardner.[28] Mae llawer o Wiciaid yn credu yn y gallu i gysylltu ag ysbrydion sy'n preswylio yn yr Arallfyd drwy gyfryngwyr ysbryd a byrddau wiji, yn bennaf ar adeg Nos Galan Gaeaf/Samhain, er bod eraill yn anghytuno â'r arfer hwn, megis yr Archoffeiriad Alex Sanders, a ddywedodd "bu iddynt farw; boed iddynt fod mewn heddwch".[29] Ymddengys fod y gred hon wedi cael ei dylanwadu arni gan ysbrydegaeth, a oedd yn boblogaidd iawn ar yr adeg pan ymddangosodd Wica, ac roedd profiad o ysbrydegaeth gan Gardner ac Wiciaid cynnar eraill megis Buckland a Sanders.[30]
Er gwaethaf tipyn o gred ynddo, felly, nid yw Wica yn rhoi pwyslais ar ôl-fywyd, gan ganolbwyntio'n hytrach ar fywyd cyfredol; fel sylwodd yr hanesydd Ronald Hutton, "ymddengys mai safle greddfol llawer [o Wiciaid] yw os ydych yn gwneud y gorau o'r bywyd cyfredol, wedyn bydd y bywyd nesaf, fwy neu lai, yn elwa o'r broses hon, ac o ganlyniad y dylai bwysleisio ar y presennol".[31]
Hud a Dewiniaeth
Mae llawer o Wiciaid yn credu mewn dewiniaeth, grym a ellir ei drin gan ymarfer hud neu swyngyfaredd. Gelwir hud yn "magick" yn Saesneg, gair a fathwyd gan yr ocwltiwr dylanwadol Aleister Crowley, er bod y sillafiad hwn yn fwy cyffredin i grefydd Crowley Thelema nag i Wica. Yn wir, mae llawer o Wiciaid yn cytuno â'r diffiniad o ddewiniaeth a hud a gynigwyd gan ddewiniaid seremonïol,[32] megis Aleister Crowley, a ddywedodd "y wyddoniaeth a chrefft o beri newid i ddigwydd wrth gyd-fynd ag ewyllys yw dewiniaeth." Dywedodd dewin seremonïol arall o'r enw MacGregor Mathers, "y wyddoniaeth o reoli'r grymoedd cudd o natur yw dewiniaeth."[32] Mae llawer o Wiciaid yn credu mai peth naturiol yw dewiniaeth, a gamddeallir hyd yn hyn gan wyddoniaeth gyfoes,[32] ac o ganlyniad nid yw Wiciaid yn edrych arno fel peth goruwchnaturiol, ond fel rhan yr "uwch bwerau sy'n preswylio mewn natur" yn ôl Leo Martello.[33] Mae rhai o Wiciaid yn credu mai gwneud defnydd llawn o'r pum synnwyr er mwyn cyflawni canlyniadau rhyfedd yw dewiniaeth.[33] Mae rhai o Wiciaid eraill yn dweud nid ydynt yn gwybod sut mae dewiniaeth a hud yn gweithio, dim ond yn credu ei bod yn bodoli oherwydd gwelont ddewiniaeth a hud yn gweithio.[34]
"Y pwynt [o hud o fewn Dewiniaeth] yw gwneud i'r byd "ystwyth" ystwytho yn ôl eich ewyllys... Oddieithr eich bod perchen ffydd gref yn eich pwerau a'ch gallu i weithredu'r swyn, ni fyddwch yn cyflawni'r angerdd llosg o'ch ewyllys a dychymyg sy'n angenrheidiol i wneud i'r ddewiniaeth weithio."
Saesneg gwreiddiol
"The point [of magic in Witchcraft] is to make the "bendable" world bend to your will... Unless you possess a rock-firm faith in your own powers and in the operability of your spell, you will not achieve the burning intensity of will and imagination which is requisite to make the magic work."
Mae Wiciaid yn castio swynion yn ystod arferiadau defodol (a gynhelir yn aml o fewn cylch sanctaidd) mewn cais i ddod â newid go iawn ar y byd ffisegol. Mae swynion cyffredin yn cynnwys swynion i iacháu pobl, swynion ynglŷn â chariad a ffrwythlondeb, neu i atal dylanwadau negyddol ar bobl.[36] Cyfeiriwyd llawer o Wiciaid cynnar, megis Alex Sanders, Doreen Valiente, a Sybil Leek, at eu hud eu hunain fel "dewiniaeth wen", mewn cyferbyniad â "dewiniaeth ddu", drwg a Sataniaeth. Defnyddiodd Sanders derminoleg debygol megis "llwybr y llaw chwith" er mwyn disgrifio dewiniaeth faleisus, a "llwybr y llaw dde" er mwyn disgrifio dewiniaeth a wnaethpwyd gyda bwriadau da;[37] terminoleg a fathwyd gydag ocwltiwr o'r enw Madame Blavatsky yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bellach, mae rhai o Wiciaid diweddar wedi peidio â defnyddio'r dicotomïau o ddewiniaeth wen-ddu a llwybr y llawr chwith-dde, gan ddadlau na ddylai'r lliw du fod ag unrhyw gysylltiadau drwg.[38]
Ym 1985, dywedodd yr ysgolheigion Rodney Stark a William Bainbridge fod Wica "wedi adweithio i seciwlareiddiad gyda phlymiad byrbwyll yn ôl i mewn i ddewiniaeth" a'i fod yn grefydd adweithiol a fydd yn marw'n fuan. Beirniadwyd y farn hon yn hallt ym 1999 gan yr hanesydd Ronald Hutton, a ddywedodd fod "llawer [o Wiciaid] â swyddi ar fin ymyl dorri [o ddiwylliant gwyddonol], megis technoleg gyfrifiadurol."[30]
"Bide the Wiccan laws ye must, in perfect love and perfect trust...
Mind the Threefold Law ye should - three times bad and three times good...
Eight words the Wiccan Rede fulfill - an it harm none, do what ye will."
Nid oes cod moesol neu ddogma a ddilynir yn slafaidd gan Wiciaid o urhyw draddodiad, serch hynny, mae'r mwyafrif yn dilyn cod moesol o'r enw'r Cyngor Wicaidd, sy'n datgan "os nad yw'n brifo neb, gwnewch yr hyn a fynnwch." Dehonglir hyn fel arfer fel datganiad o'r rhyddid i weithredu, gyda'r angen i gymryd cyfrifioldeb am yr hyn sy'n dilyn o ganlyniad i'ch gweithredoedd a lleihau'r niwed i'ch hunan a phobl eraill.[40] Mae'r Gyfraith o Ddychweliad Triphlyg yn elfen gyffredin arall o foesoldeb Wica, sy'n dweud, "yr hyn a anfonir allan gennych, naill ai'n garedig neu'n faleisus, fydd yn dychwelyd atoch deirgwaith cryfach," neu gyda grym cyfartal ar lefel y corff, y meddwl, a'r ysbryd - syniad sy'n debyg i syniad y dwyrain o garma. Cyflwynwyd y Cyngor Wicaidd a'r Gyfraith o Ddychweliad Triphlyg i mewn i Wica gan Gerald Gardner, a dderbynnir gan draddodiadau Gardneraidd a thraddodiadau tebyg.
Mae llawer o Wiciaid hefyd yn ceisio byw wrth set o wyth rhinwedd a soniwyd amdanyn nhw o fewn Siars y Dduwies gan Doreen Valiente,[41] sef digrifiwch, parchedigaeth, anrhydedd, gostyngeiddrwydd, cryfder, prydferthwch, pŵer, a thosturi. Yn y gerdd, trefnwyd y rhinweddau mewn parau o gyferbyniadau cyflenwol, gan adlewyrchu deuoliaeth sy'n gyffredin mewn athroniaeth Wicaidd. Mae rhai Wiciaid â llinach hefyd yn sylwi fod set o Gyfreithiau Wicaidd ar gael, a elwir Cyfreithiau'r Grefft neu Ardanes, gyda 30 ohonyn nhw'n bodoli o fewn traddodiad Gardner, a gyda 161 o fewn traddodiad Sanders. Dadleuodd Valiente, y crëwyd y tri-deg rheol hyn gan Gardner ei hun mewn iaith ffug-hynafaidd fel y sgil gynnyrch o groesdynnu mewnol o fewn ei Gwfen Coed Briced.[42][43] Crëwyd y rheolau eraill fel ychwanegiadau hwyr gan Alex Sanders yn ystod y 1960au.
Er i Gardner ddangos tueddiadau negyddol i gyfunrywioldeb ar y cychwyn, gan ddweud ei fod yn dyfod â "rheg y dduwies",[44] fe'i derbynnir yn gyffredinol ymhob un traddodiad Wicaidd erbyn hyn, gyda rhai grwpiau, megis y Minoan Brotherhood (Brawdoliaeth y Minoaid), yn canolbwyntio eu hathroniaeth o'i gwmpas.[45] Yn ogystal â hyn, roedd cymeriadau pwysig, gwahanol o fewn Wica, pobl megis Alex Sanders ac Eddie Buczynsky, yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol, a hynny ar goedd.
Y Pum Elfen
O fewn rhai traddodiadau, mae cred yn y pum elfen glasurol, er mai annhebyg ŷnt i hen Roeg, fe'i gwelir yn elfennau symbolaidd yn hytrach na llythrennol; hynny yw, maent yn cynrychioli agweddau o fater. Caiff y pum elfen hyn eu harddeisyf yn ystod llawer o ddefodau hudol, megis wrth gysegru cylch hudol: Aer, Tân, Dŵr a Daear, yn ogystal ag Ether (neu Ysbryd) yw'r pum elfen.[46] Dyfeisiwyd gwahanol gydweddiadau er mwyn egluro cysyniad y pum elfen; er enghraifft, mae Ann-Marie Gallagher yn defnyddio cysyniad o goeden, a wneir o Ddaear (gyda mater y pridd a phlanhigyn), Dŵr (sudd a lleithder), Tân (drwy ffotosynthesis) ac Aer (gan greu ocsigen o garbon deuocsid), a gyfunwyd gyda'r Ysbryd.[47]
Yn draddodiadol o fewn Wica Gardneraidd, mae pob un elfen wedi cael ei chysylltu â phwynt cardinal y cwmpawd; Aer â'r dwyrain, Tân â'r de, Dŵr â'r gorllewin, Daear â'r gogledd, ac Ysbryd â'r canol.[47] Sut bynnag, datganodd rhai Wiciaid, megis Frederic Lamond, fod y set o bwyntiau cardinal hyn yn gallu cael eu defnyddio'n unig yn ne Lloegr, lle datblygwyd Wica, a fydd yn rhaid i Wiciaid eraill bennu cyfarwyddiadau eu hunain yn ôl eu traddodiadau eu hunain, er enghraifft, dylai pobl sy'n byw ar arfordir y dwyrain o Ogledd America arddeisyf Dŵr yn y dwyrain yn hytrach na'r gorllewin oherwydd bod y corff anferth o ddŵr, y Môr Iwerydd, i'w dwyrain iddyn nhw.[48] Mae traddodiadau Wicaidd eraill wedi cysylltu'r elfennau gyda gwahanol bwyntiau cardinal; cymdeithaswyd Clan Tubal Cain Robert Cochrane y Ddaear gyda'r de, Tân gyda'r dwyrain, Dŵr gyda'r gorllewin a'r Aer gyda'r gogledd,[49] a rheolir bob un elfen gan wahanol dduw neu dduwies sy'n blant i'r Duw Corniog a'r Dduwies. Symboleiddir y pum elfen gyda'r pum pwynt y pentagram, y symbol mwyaf ddefnyddir o fewn Wica.[50]
Ymarferiadau
Sylwodd yr Arch Offeiriades ac ymchwiliwr Neo-baganaidd Margot Adler, y diffiniwyd defod fel "dull o atgyfannu unigolion a grwpiau i mewn i'r cosmos, ac i glymu gweithgareddau o fywyd dyddiol i mewn â'u harwyddocâd - a anghofiwyd amdano'n aml". Dywedodd hefyd nad yw dathliadau a defodau newid byd o fewn Wica yn "brofion sych, ailadroddus, wedi'u ffurfioli", ond yn cael eu perfformio gyda'r un pwrpas o beri profiad crefyddol o fewn eu cyfraniadau.[51] Sylwodd fod llawer o Wiciaid yn ofalus ynghylch bodolaeth y duwiau a'r duwiesau a'r ôl-fywyd ayyb, ond maent yn weithredol o fewn y Grefft heblaw hyn, oherwydd eu profion defodol. Dywedodd Glenna Turner, "Rwy'n dwli ar fytholeg, breuddwydion, a chelf weledigaethol. Y lle mae pob un o'r pethau hyn yn ffitio â'i gilydd yw'r Grefft - harddwch, pasiantri, cerddoriaeth, dawnsio, canu, a breuddwydio."[52]
Datganodd Aidan Kelly, Archoffeiriad a hanesydd y Grefft, fod ymarferiadau a phrofion o fewn Wica yn fwyfwy pwysig na'r credoau, gan ddweud "[bod Wica] yn grefydd o ddefod yn hytrach nag yn ddiwinyddiaeth. Mae'r ddefod yn gyntaf; mae'r fytholeg yn ail. Ac wrth gymryd agwedd mai mythau'r Grefft yw'r 'gwir hanes' yn y ffordd mae ffwndamentaliaid yn edrych ar chwedleuon o Genesis yn swnio'n wallgof."[53] Dyma'r rheswm yn ôl Adler: "mae'n eironig, oherwydd wrth ystyried y datganiadau i gyd sydd yn erbyn Dewiniaeth fel bygythiad, un o'r unig safbwyntiau crefyddol yw'r Grefft sy'n hollol gydnaws gyda gwyddoniaeth ddiweddar, gan ganiatáu sgeptigaeth ynghylch ei haelodau, mythau, a defodau eu hun hyd yn oed."[54]
Mae llawer o ddefodau o fewn Wica a ddefnyddir wrth ddathlu'r Gwyliau, addoli'r duwiau a duwiesau a gweithio hud a dewiniaeth. Cynhelir y defodau hyn ar leuad lawn fer arfer, neu ar y lleuad newydd weithiau, a elwir yn Esbat. O fewn defodau nodweddiadol, mae'r cwfen yn ymgynnull o fewn cylch hudol a gastiwyd a phurwyd yn ddefodol. Mae castio'r cylch yn cynnwys arddeisyfiad y "Gwarcheidwaid" o'r pwyntiau cardinal, ochr yn ochr gyda'i elfennau clasurol priodol; Aer, Tân, Dŵr, a Daear. Unwaith i'r cylch gael ei gastio, gellir perfformio defod dymhorol, gweddïo, a gweithio hud a dewiniaeth. Mae'r defodau hyn yn cynnwys set arbennig o offer hudol fel arfer. Mae'r rhai hyn yn gallu cynnwys cyllell a elwir yn athamé, hudlath, pentagl a charegl, ac mae offer eraill yn cynnwys ysgubell, crochan, canhwyllau, arogldarth a llafn crwm a adnabyddir fel bolein. Mae Allor yn bresennol yn y cylch fel arfer, sy'n dal offer defodol a osodir arno, ac weithiau arddangosir cynrychiolaethau'r Duw a'r Dduwies.[55] Cyn mynd i mewn i'r cylch, mae rhai traddodiadau'n ymprydio am ddiwrnod, a/neu ymdrochi yn ddefodol. Wedi i ddefod orffen, diolchir i Duw a'r Dduwies, a'r Gwarcheidwaid, a chaeir y Cylch.
Mae rhai traddodiadau, yn enwedig Wica Gardneraidd, yn ymarfer wrth fod yn noeth, hefyd a elwir yn skyclad. Ni wyddys o le mae'r term yn dod, ond mae rhai'n dweud ei fod yn tarddu o linell yn Aradia, or the Gospel of the Witches, record o ddewiniaeth Eidalaidd a ysgrifennwyd gan Charles Leland.[56] Mae traddodiadau eraill yn gwisgo gynau gyda chordiau a glymwyd o gwmpas y wast neu ddillad normal y stryd. O fewn rhai traddodiadau, perfformir dewiniaeth ryw defodol ar ffurf y Ddefod Fawr, lle mae'r Archoffeiriaid a'r Archoffeiriades yn arddeisyf i'r Duw a'r Dduwies eu perchenogi cyn perfformio cyfathrach rywiol er mwyn codi egni hudol i'w ddefnyddio i weithio swynion. O fewn rhai achosion, perfformir y Ddefod Fawr "mewn tocyn", trwy hynny'n symbolaidd yn unig, gan ddefnyddio athamé er mwyn cynrychioli'r pidyn a charegl er mwyn cynrychioli'r wain.[57]
Mae Wiciaid yn dathlu wyth gŵyl dymhorol o'r enw Gwyliau (Saesneg: Sabbats). Cyfeirir atynt i gyd fel Rhod y Flwyddyn.[58] Mae llawer o Wiciaid, megis Wiciaid Gardneraidd a llawer o Wiciaid eclectig yn dathlu'r wyth Gŵyl, ond o fewn grwpiau a thraddodiadau eraill, yn enwedig y rhai sy'n disgrifio eu hunain fel "Dewiniaeth Draddodiadol", megis y Clan o Tubal Cain, fe ddethlir pedair gŵyl yn unig, ac mae'r grŵp Ros an Bucca o Gernyw, yn achos prin iawn gan ei fod yn dathlu chwe gŵyl yn unig.[59] Y pedair gŵyl sy'n gyffredin i bob un o'r grwpiau hyn yw'r dyddiau chwarter croes, a gyfeirir atynt weithiau fel Gwyliau Mawr neu Wyliau Tân, a dechreuasant fel gwyliau a ddathlwyd gan y CeltiaidIwerddon a gwledydd Celtaidd eraill.[60] Yn ôl llyfrau Margaret Murray, The Witch-Cult in Western Europe (1921) a The God of the Witches (1933), mae'r pedair gŵyl hyn wedi goroesi Cristyddiaeth (Christianisation) a dathlwyd gyda chrefydd-ddewiniaeth y Paganiaid. Ar ôl hynny, pan ddatblygwyd Wica yn gyntaf yn y 1930au hyd at y 1960au, penderfynodd llawer o'r grwpiau cynnar hyn, megis grŵp Robert Cochrane, Clan o Tubal Cain, a chwfen Gerald Gardner, Cwfen Coed Briged, i ddathlu'r pedair Gŵyl hyn a ddisgrifiwyd gan Murray. Defnyddiodd Gardner yr enwau Saesneg ar eu cyfer, gan ddweud, "the four great Sabbats are Candlemass [sic], May Eve, Lammas, and Halloween; the equinoxes and solstices are celebrated also."[61]
Adnabyddir y pedair gŵyl eraill a ddethlir gan Wiciaid fel "Gwyliau Bach", sy'n cynnwys yr heuldroadau a'r cyhydnosau, a dathlwyd hwy yn y lle cyntaf ym 1958 gan aelodau Cwfen Coed Briceg.[62] Ar ôl hynny, dathlwyd hwy gan ddilynwyr eraill o draddodiad Gardner, a chan draddodiadau eraill megis Wica Alecsandraidd ac Wica Dianigaidd o'r diwedd. Daeth enwau'r gwyliau o wyliau amldduwiol y Celtiaid a Phaganiaeth yr Almaen. Serch hynny, nid yw'r gwyliau'n ail-adeiladol mewn natur, ac nad ydynt yn debyg i'w cymheiriaid hanesyddol, ond y maent yn dangos fod rhai pethau'n gyffredin rhwng y grwpiau.
Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed. Cynaeafu o ffrwyth.
Defodau newid byd
Mae llawer o ddefodau newid byd (rites of passage) o fewn Wica. Efallai'r ddefod fwyaf pwysig yw'r ddefod ynydu, sy'n ffordd o ddyfod yn Wicaid wrth ymuno â'r Grefft. O fewn traddodiadau o Wica Draddodiadol Prydain, ceir llinach ynydu sy'n mynd yr holl ffordd nôl i Gerald Gardner, a ddywedodd y cafodd ei ynydu i mewn i'r Gwfen y Fforest Newydd; serch hynny, nid oes tystiolaeth am fodolaeth y cwfen hwn.[65] Dywedodd Gardner fod yn rhaid i berson aros am y cyfnod traddodiadol o "flwyddyn a diwrnod" rhwng ynydiadau, ond fe dorrodd y rheol hon yn aml. O fewn Wica Draddodiadol Prydain, caiff y person ei ynydu i mewn i'r radd gyntaf i ddechrau. I symud ymlaen i'r ail radd, mae'n rhaid iddo gael ynydiad arall. Yn yr ynydiad hwn, mae'n rhaid i'r person enwi a disgrifio'r defnyddiau o'r offer hudol.[66]
Yn y ddefod ynydu, fe roddir enw crefft i'r person hefyd.[66] Wrth gael ynydu i mewn i'r ail radd, gall Wicaid ynydu pobl eraill, neu sefydlu cwfen hanner-ymreolaethol ei hun.[66] Y drydedd radd yw'r radd uchaf o fewn Wica Draddodiadol Prydain, sy'n cynnwys cydgyfranogi yn y Ddefod Fawr, naill ai mewn ffordd symbolaidd neu go iawn, yn ogystal â fflangellu defodol.[67] Wrth gael ei ynydu i mewn i'r drydedd radd, gall Wicaid sefydlu cwfen ei hun sy'n hollol annibynnol.[67]
Mae'r system hon yn unigryw i Wica Draddodiadol Prydain a thraddodiadau sy'n seiliedig arni. Nid yw'r un system gan Grefft Cochrane, oherwydd nad yw'r traddodiad hwnnw'n dilyn Wica Draddodiadol Prydain, ond traddodiad sy'n seiliedig ar ddysgeidiaethau Robert Cochrane. Mae gan y traddodiad hwn gyfnod o nofis ac initiate. Mae rhai Wiciaid unig hefyd yn ymarfer defodau hunan-gysegru i ddyfod yn Wiciad. Y ddefod hunan-gysegru gyntaf a gyhoeddwyd oedd yn llyfr Paul Huson, Mastering Witchcraft (1970). Yn y llyfr, roedd yn rhaid i'r person ddatgan Gweddi'r Arglwydd tuag yn ôl fel symbol o herfeiddiad yn erbyn cyfnod helfa'r gwrachod hanesyddol.[68] Cyhoeddwyd defodau hunan-gysegru mwy Paganaidd erbyn i'r llyfr hwnnw gael ei gyhoeddi, a ddyluniwyd ar gyfer Wiciaid unig gan awduron fel Doreen Valiente, Scott Cunningham, a Silver Ravenwolf.
Mae llaw-glymu yn ddathliad arall a ddethlir gan Wiciaid, sy'n debyg i briodas Gristnogol. Mae rhai Wiciaid yn ymarfer "priodas arbrawf" am flwyddyn a diwrnod, gyda rhai traddodiadau yn cynnal y dathliad ar Lugnasad; hwn oedd y cyfnod traddodiadol ar gyfer arbrofi'r briodas. Adduned gyffredin Wicaidd yw "tra bo cariad", yn lle'r adduned Gristionogol draddodiadol o "hyd nes i farwolaeth ein rhannu".[69] Digwyddodd y briodas Wicaidd gyntaf ym 1960 rhwng Frederic Lamond a'i wraig gyntaf, Gillian, aelodau o Gwfen Bricket Wood.[70]
Weithiau, ymglymir babanod o deulu Wicaidd mewn defod o'r enw Bedydd Wicaidd, sy'n debyg i'r ddefod Gristnogol o fedyddio. Pwrpas y ddefod hon yw cyflwyno'r baban i'r Duw a'r Dduwies.
Nid oes unrhyw destun sanctaidd penodol o fewn Wica, megis y Beibl neu'r Qur'an, er bod rhai traddodiadau yn meddwl bod rhai ysgrythurau a thestunau'n bwysig ac yn ddylanwadau ar eu credoau a'u hymarferiadau. Defnyddiodd Gardner lyfr a oedd yn cynnwys llawer o wahanol destunau o fewn ei gwfennau, sef Llyfr y Cysgodion, ac addasodd ac ychwanegodd ato'n aml iawn. Yn ei Lyfr y Cysgodion, ceir testunau o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y llyfr Aradia, or the Gospel of the Witches (1899) gan Charles Godfrey Leland, ac ysgrifeniadau ocwltiwr yr 20fed canrif gan Aleister Crowley. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth a gyfansoddwyd gan Gardner a'i Archoffeiriades Doreen Valiente, megis Siars y Dduwies.
"Nid yw Llyfr y Cysgodion yn Feibl neu Qur'an. Mae'n llyfr personol sy'n cynnwys swynion sydd wedi'u gweithio i'w berchennog. Yr wyf yn rhoi fy llyfr ichi i'w gopïo er mwyn ichi gychwyn arni: wrth ichi ennill profiad, hepgorwch swynion sydd ddim yn gweithio ichi a disodlwch swynion gyda'r hyn eich bod yn eu hysgrifennu'ch hunan."
Saesneg gwreiddiol
"The Book of Shadows is not a Bible or Quran. It is a personal cookbook of spells that have worked for the owner. I am giving you mine to copy to get you started: as you gain experience discard those spells that don’t work for you and substitute those that you have thought of yourselves."
Yn debyg i ddefnydd o'r grimwar a ddefnyddir gan swynwyr seremonïol,[72] roedd y llyfr yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i berfformio defodau a swynion, yn ogystal â barddoniaeth grefyddol a siantiau megis Eko Eko Azarak i'w defnyddio o fewn defodau. Bwriad gwreiddiol Gardner oedd y bydd pob un copi arall y Llyfr yn wahanol, oherwydd y byddai myfyriwr yn copïo'r Llyfr gan ei Archoffeiriad/es, ond yn newid y rhannau nad oedd yn effeithiol. Mae pob un copi o'r Llyfr yn unfath â'r fersiwn a gopïwyd gan yr Archoffeiriades Monique Wilson o Gardner ymysg llawer o Wrachod Gardneraidd heddiw, yn enwedig yn y Taleithiau Unedig, heb ddim byd wedi'i newid. Yn wreiddiol, yr oedd yn rhaid iddynt gadw'r Llyfr yn gyfrinach rhag pobl nad oedd yn perchen ar Wica Draddodiadol Prydain, ond cyhoeddwyd darnau o'r Llyfr gan awduron fel Charles Cardell, Lady Sheba, Janet Farrar, a Stewart Farrar.[73][74]
Heddiw, mae ymlynwyr nad yw'n perchen ar draddodiadau Wica Draddodiadol Prydain hefyd yn derbyn y cysyniad o'r Llyfr, gyda llawer o Wiciaid unig yn cadw fersiynau eu hunain, weithiau gan gynnwys deunydd o Lyfr y Cysgodion Gardneraidd a gyhoeddwyd yn barod. O fewn traddodiadau eraill, sut bynnag, ni ysgrifennir ymarferiadau byth i lawr, gan olygu nad oes angen Llyfr y Cysgodion.
O fewn traddodiadau Dewiniaeth Draddodiadol, defnyddir gwahanol ffurfiau o lenyddiaeth. Er enghraifft, o fewn Traddodiad 1734, defnyddir erthyglau a ysgrifennwyd gan Robert Cochrane, yn ogystal â'r llythyrau a ysgrifennwyd ganddo fe at Joseph Wilson, Robert Graves[75] ac eraill[76] i Joseph Wilson, sy'n cynnwys cyfarwyddyd cyfriniol.
Symbolau
Defnyddir symbolau amrywiol gan Wiciaid, sy'n debyg i ddefnydd y croeslun gan Gristnogion neu Seren Dafydd gan Iddewon. Y pentagl yw'r symbol mwyaf nodedig a ddefnyddir gan Wiciaid, sydd â phum pwynt, gyda phob un pwynt yn cynrychioli un o'r pum elfen glasurol (daear, aer, tân, dŵr, ac ysbryd/ether). Mae'n cynrychioli hefyd y syniad mai dyn, gyda'i bum ychwanegiad, yw microcosm o'r bydysawd. Mae symbolau eraill a ddefnyddir yn cynnwys y tricwetra a symbol y Lleuad driphlyg o'r Dduwies Driphlyg.
Yn y 1950au hyd at y 1970au, pan gynhwyswyd y mudiad Wicaidd o grwpiau â llinach yn bennaf megis Wica Gardneraidd, awgrymir "traddodiad" y trosglwyddo gwybodaeth drwy "linach ynydu" (sef rhaeadru gwybodaeth o un i'r llall). Sut bynnag, wrth i fwy a mwy o grwpiau fel hyn ddod yn gyhoeddus, ac fel arfer yn cael eu sefydlu gan bobl heb linach ynydu blaenorol, daeth y term yn gyfystyr am enwad crefyddol o fewn i Wica. Mae llawer o'r math hyn o draddodiadau[77][78] ac mae yna lawer o ymarferwyr unig yn ogystal â'r grwpiau hyn sydd am ymochri'u hunain gydag unrhyw linach benodol, gan ddewis i weithio ar eu pennau eu hunain. Mae yna hefyd gwfennau sydd wedi'u ffurfio ond nad ynt am ddilyn traddodiad penodol, gan ddewis eu dylanwadau ac arferion gydag eclectigiaeth.
Mae traddodiadau sydd â llinach yn ôl i Gerald Gardner yn cynnwys Wica Wica Gardneraidd, Alecsandraidd ac Algardaidd; oherwydd eu hanes uniad, cyfeirir atyn nhw fel arfer fel Wica Draddodiadol Prydain, yn enwedig yng Ngogledd America. Mae traddodiadau eraill yn olrhain eu llinach yn ôl i wahanol ffigurau, hyd yn oed os dylanwedir ar eu credoau ac ymarferiadau gan Gardner mewn ffordd fawr neu fach. Mae'r traddodiadau hyn yn cynnwys Crefft Cochrane a Thraddodiad 1734, gyda'r ddau ohonyn nhw'n dechrau gyda Robert Cochrane; y Traddodiad Feri, sefydlwyd gan Victor Anderson a Gwydion Pendderwen; ac Wica Dianigaidd, sefydlwyd gan Zsuzsanna Budapest. Mae'n well gan rai o'r grwpiau hyn alw eu hunain yn Wrachod, trwy hynny yn gwahaniaethu eu hunain o draddodiadau Wica Draddodiadol Prydain, sy'n defnyddio'r ansoddair Wicaidd yn hytrach.
Mae Wiciaid Traddodiadol Prydain yn mynnu os yw rhywun am fod yn aelod o'r traddodiad hwnnw, yna mae'n rhaid iddo gael seremoni ynydu a berfformir gan berson â llinach yn y traddodiad hwnnw yn barod. Mae rhai grwpiau eraill yn mynnu hyn hefyd. O ganlyniad, gall pob un Wiciaid Traddodiadol Prydain olrhain llinach uniongyrchol yn ôl i Gardner. Dyw traddodiadau eraill ddim yn meddwl bod hyn yn angenrheidiol.
Cwfennau ac Wiciaid Unig
Trefnir Wica draddodiadol i mewn i gwfennau gydag Archoffeiriaid ac Archoffeiriadesau wedi'u hynydu. Mae cwfennau'n ymreolaethol, ac fel arfer mae Archoffeiriad ac Archoffeiriades yn eu rheoli mewn partneriaeth gyda'i gilydd. Fel arfer maen nhw wedi mynd trwy'r system raddio o'r radd gyntaf, yr ail radd, y drydedd radd, gydag ynydiadau ar eu diwedd. Ambell waith mae'r ail radd yn unig gan yr Archoffeiriad ac Archoffeiriades. Maen nhw'n cael cymorth a chefnogaeth o'r cwfen rhiant wrth iddyn nhw sefydlu cwfen eu hunain. Fel arfer perfformir ynydiadau a hyfforddiant Offeiriad ac Offeiriades newydd o fewn amgylchedd y cylch hudol, ond dyw hyn ddim yn rheol wedi'i osod mewn carreg.
Yn ôl Wica Gardneraidd, mae'n rhaid i gwfen fod ag un ar ddeuddeg aelod, sydd fel arfer y rhif darged, er ond dyw hyn ddim yn rheol wedi'i osod mewn carreg bellach.[26] Mae llawer o gwfennau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn llawer bach, er galle nhw estyn y cwfen i Wiciaid eraill sy'n mynychu defodau "agored." Pan yw cwfennau'n tyfu'r tu hwnt i'u niferoedd delfrydol, maen nhw'n rhannu i mewn i gwfennau eraill, ond yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd a gweithio fel grŵp mawr weithiau. "Gwigfa" yw'r enw am grwpiau sydd yn gwneud hyn.
Cyn cael mynediad ac ynydiad i mewn i gwfen penodol, mae'n rhaid aros o leiaf blwyddyn a diwrnod. Fel arfer gwneir cwrs o astudiaeth yn ystod y cyfnod hwn. O fewn rhai cwfennau, perfformir defod "gysegru" weithiau yn ystod y cyfnod hwn, rhywbryd cyn yr ynydiad go iawn. Mae hyn yn gadael i'r person fynychu rhai defodau ar sail brawf. Mae rhai Wiciaid unig yn dewis i astudio am flwyddyn a diwrnod cyn hunan-gysegru eu hunain i'r grefydd.
Mewn cyferbyniad, mae Wiciaid Eclectig fel arfer yn ymarferwyr unig. Mae rhai o'r ymarferwyr hyn yn mynychu casgliadau a digwyddiadau cymunedol eraill, ond yn cadw eu hymarferiadau ysbrydol (Gwyliau, Defodau'r Lleuad, swyn-gastio, addoli, gwaith hudol, ayyb.) am adeg pan eu bod ar eu pennau eu hunain. Mae Wiciaid Eclectig yn gor-rifo Wiciaid â llinach, ac fel arfer mae eu hymarferiadau yn amrywio'n fwy na Wiciaid â llinach.[79]
Bu farw Gardner ym 1964, ond parhaodd y Grefft i dyfu heb osteg er gwaethaf cyffrogarwch a phortreadau negyddol o fewn tabloidau Prydain. Tyfodd Wica gyda thraddodiadau newydd a sefydlwyd gan bobl megis Robert Cochrane, Sybil Leek, ac Alex Sanders, sylfaenydd Wica Alecsandraidd, a seilir ar Wica Gardneraidd gyda phwyslais ar ddewiniaeth seremonïol. Lledaenodd Wica Alecsandraidd yn gyflym a chafodd lawer o sylw oddi wrth y papurau a theledu. Tua'r un pryd, defnyddid y term "Wica" yn fwy ymestynnol i ddisgrifio "dewiniaeth", a lledaenodd y ffydd i wledydd eraill fel Awstralia a'r Taleithiau Unedig.
Yn ystod y 1990au, ymhlith llawer o bobl sydd wedi hunan-ynydu eu hunain i mewn i'r Grefft, dechreuodd y cyfryngau i archwilio "dewiniaeth", a dechreusant i greu ffilmiau fel The Craft a chyfresau teledu fel Charmed. O ganlyniad, cyflwynwyd llawer o bobl ifanc i'r syniad o ddewiniaeth grefyddol. Ar ôl hynny, darparwyd gwybodaeth ar y rhyngrwyd gan awduron fel Silver Ravenwolf, ond beirniadwyd y symudiad hwn gan grwpiau traddodiadol ac unigolion Wicaidd. Mewn ymateb i'r ffordd y portreadwyd Wica yn drendi, eclectig, a chyda dylanwad gan fudiadau'r Oes Newydd, trodd lawer o wrachod i draddodiadau cyn-Gardneraidd, ac i draddodiadau cydymgeiswyr Gardner fel Cardell a Cochrane, a dechreusant i ddisgrifio eu hunain fel dilynwyr o "ddewiniaeth draddodiadol", megis Cultus Sabbati gan Andrew Chumbley a chwfen Cernywaidd o'r enw Ros an Bucca.
Derbyniwyd y term Wica (hefyd "Wicca") gan y cyhoedd pan gyfeiriodd at y grefydd ei hun yn y 1960au a 1970au. Cyn hynny, defnyddiwyd y term "Dewiniaeth" fel arfer. Tra seilir y term cyfredol o wicca ar Hen Saesneg, a gyfeiriodd at swyngyfareddwyr/dewiniaid benywaidd yn unig, nid yw neb yn gwybod pwy a fathodd y term gyda'i briflythyren, ond dyfalir mai Charles Cardell oedd e, oherwydd defnyddiodd Cardell y term "Wiccen" yn ystod y 1950au.
Demograffeg
Ni ŵyr neb y niferoedd gwirioneddol o Wiciaid sydd yn y byd, a nodir ei fod yn anodd sefydlu'r niferoedd o bobl sy'n aelodau o draddodiadau Neo-baganaidd, oherwydd y strwythur anhrefnus sydd ganddynt.[84] Wedi dweud hynny, mae Adherents.com, gwefan annibynnol sy'n arbenigo mewn casglu bras-amcan y niferoedde led led y byd, yn dyfynnu dros drideg ffynhonnell sy'n amcangyfrif y niferodd o bobl sy'n Wiciaid (o Unol Daleithiau America a'r DU yn bennaf). Gyda'r amcangyfrifon hyn, maen nhw wedi canfod canolrif o tua 800,000 aelod.[85] Yn Unol Daleithiau America, cynhaliwyd ceisiadau at ganfod ffigur, ac amcangyfrifodd Arolwg Adnabod Crefyddol America (2001) fod 134,000 yn adnabod eu hunain fel Wiciaid - cymharer hwn gyda 8,000 ym 1990.[86] Mae Wiciaid hefyd yn gyfran arwyddocaol o grwpiau gwahanol o fewn gwlad benodol; er enghraifft, y ffydd ddi-Gristnogol mwyaf a ymarferir yn Awyrlu Unol Daleithiau America yw Wica, oherwydd bod 1,434 o bobl wedi dweud eu bod yn Wiciaid.[87]
"Dyn Caucasian yn ei bedwardegau, neu ddynes yn ei thridegau yw'r Wicaid gyffredinol. Mae addysg gweddol dda ganddo, ac nid yw'n ennill llawer ond nid yw'n gor-ganolbwyntio ar bethau daearol ychwaith. Yn ôl demograffwyr, mae'n dod o'r dosbarth canol-isaf."
Saesneg gwreiddiol
"[The average Wiccan is] a man in his forties, or a woman in her thirties, Caucasian, reasonably well educated, not earning much but probably not too concerned about material things, someone that demographers would call lower middle class."
Yn y Deyrnas Unedig, nid oes modd i rifau'r cyfrifiad gael eu dadansoddi'n gywir o ran traddodiadau o dan y pennawd o "Paganiaeth", oherwydd anogodd ymgyrch a ddechreuwyd gan y Ffederasiwn Paganaidd cyn y Cyfrifiad 2001 Wiciaid, Paganiaid, Derwyddon ac eraill i ddefnyddio'r un term o 'Bagan' er mwyn uchafu'r niferoedd. Am y tro cyntaf, roedd pobl yn gallu ysgrifennu tadogaeth ni ymdriniwyd â hi gan y rhestr dicio o grefyddau cyffredin, a datganodd cyfanswm o 42,262 bobl o Gymru, yr Alban, a Lloegr i fod yn Baganiaid wrth ddefnyddio'r dull hwn. Ni ddadansoddwyd y ffigurau hyn yn syth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond cawsant eu rhyddhau ar ôl cais iddynt gan Ffederasiwn Paganaidd, cangen yr Alban.[89]
Daeth Wica i sylw'r cyhoedd mewn gwlad Gristionogol, ac ers ei dechrau mae hi wedi dioddef gwrthwynebydd gan grwpiau Cristionogol a chan papurau tabloid poblogaidd megis News of the World. Mae rhai grwpiau Cristionogol yn dweud mai ffurf o Sataniaeth yw Wica, er gwaethaf gwahaniaethau pwysig rhwng y ddwy grefydd hyn,[90] megis diffyg ffigwr Satanaidd o fewn ei diwinyddiaeth. Oherwydd y cyhuddiadau negyddol hyn, mae llawer o Wiciaid yn ymarfer y traddodiad yn gyfrinachol, gan guddio'u crefydd oherwydd ofn erledigaeth. Mae rhai pobl, hefyd, wedi cyhuddo Wica o fod yn wrth-Gristionogol, sy'n ddatganiad a wrthodir gan Wiciaid fel Doreen Valiente, a ddywedodd tra bod llawer o Wiciaid yn edmygu Iesu, "nid oes llawer o barch am athrawiaethau'r eglwysi gan Wiciaid, a ystyrir ganddynt yn ddogma gwneud".[91]
Yn yr Unol Daleithiau, mae nifer o benderfyniadau cyfreithiol wedi gwella a dilysu statws Wica, yn enwedig Dettmer v. Landon ym 1985. Fodd bynnag, mae Wiciaid wedi dod ar draws gelyniaeth gan rai gwleidyddion a sefydliadau Cristnogol,[92][93][94] gan gynnwys cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush, a ddywedodd nad yw'n creu mai crefydd yw Wica.[95]
Yn ôl hanes Wica a roddwyd gan Gerald Gardner, mae Wica yn goroesi o gwlt y wrach Ewropeaidd a erlidiwyd yn ystod y treialon gwrachod. Mae ymchwiliadau ysgolheigaidd modern wedi datgelu, fodd bynnag, bod y treialon hyn yn sylweddol llai nag y hawliwyd gan Gardner, ac yn anaml ar gais awdurdodau crefyddol.[96] Amharchir damcaniaethau o gwlt y wrach pan-Ewropeaidd wedi'i drefnu, yn ogystal â threialon tyrfa, yn fawr iawn, ond mae'n dal yn gyffredin i Wiciaid gydymdeimlo gyda dioddefwyr y treialon gwrachod.[97]
Mae rhai wedi dweud mai cangen y symudiad Oes Newydd yw Wica, cais a wrthodir yn ffyrnig gan y rhan fwyaf o Wiciaid a hefyd gan haneswyr fel Ronald Hutton, sy'n nodi bod Wica yn rhagflaenu symudiad yr Oes Newydd, a hefyd ei bod gwahaniaethu mawr rhyngddynt o ran athroniaeth cyffredinol.[98]
↑ 2.02.1Doyle White, Ethan (2016). Wicca: History, Belief, and Community in Modern Pagan Witchcraft. Brighton: Sussex Academic Press. tt. 86–87. ISBN978-1-84519-754-4.
↑Farrar, Janet a Farrar, Stewart. (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 2-3.
↑Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity (yn en). Llundain: Robert Hale. ISBN 0709028008
↑Pearson, Joanne; Roberts, Richard H; Samuel, Geoffrey (Rhagfyr 1998). Nature Religion Today: Paganism in the Modern World (yn en). Caeredin: Gwag Prifysgol Caeredin. ISBN 0-748-61057-X. URL. OCLC39533917
↑Ravenwolf, Silver (1998). Teen Witch: Wicca for a New Generation (yn en). Llewellyn
↑Gardner, Gerald (1959). The Meaning of Witchcraft (yn en). Aquarian
↑Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
↑Howard, Michael (2009). Modern Wicca. Woodbury, Minnesota: Llewellyn. Tud 266-267
↑Howard, Michael (2009). Modern Wicca. Woodbury, Minnesota: Llewellyn. Tudalen 271.
↑ 11.011.1Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
↑Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
↑Farrar, Janet a Farrar, Stewart. (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 29-37.
↑Farrar, Janet a Farrar, Stewart. (1987). The Witches' Goddess: The Feminine Principle of Divinity. Llundain: Robert Hale. Tudalen 38-44.
↑Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1989). The Witches' God: Lord of the Dance. Llundain: Robert Hale. ISBN 0709033192
↑Farrar, Janet; a Gavin Bone (Ionawr 2004). Progressive Witchcraft: Spirituality, Mysteries, and Training in Modern Wicca. Franklin Lakes, New Jersey, yr Unol Daleithiau: New Age Books. ISBN 1564147193. OCLC53223741
↑Adler, Margot (1979). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Boston, yr Unol Daleithiau: Beacon Press. ISBN 0-8070-3237-9. OCLC6918454
↑The Wicca Bible gan Anne-Marie Gallagher, Godsfield, Tudalennau 34 hyd at 39
↑ 26.026.1Buckland, Raymond (1986). Buckland's Complete Book of Witchcraft. Saint Paul, Minnesota, yr Unol Daleithiau: Llewellyn, tud. 17, 18, 53. ISBN 0-87542-050-8. URL. OCLC14167961
↑Valiente, Doreen (1973). An ABC of Witchcraft Past and Present. Hale, tud. Cyflwyniad
↑Hutton, Ronald (1999). Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press, tud. 392
↑Hutton, Ronald [1999] (2005-05-24). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Dinas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press. ISBN 0198207441. OCLC41452625
↑Adler, Margot [1986] (2006). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America Today. Penguin
↑Zell-Ravenheart, Oberon; Zell-Ravenheart, Morning Glory (2006). Creating Circles & Ceremonies. Franklin Lakes, New Jersey, yr Unol Daleithiau: New Page Books. ISBN 1564148645. URL
↑ 47.047.1Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Gallagher2005
↑Lamond, Frederic R (2004). Fifty Years of Wicca. Lloegr: Green Magic. ISBN 0954723015
↑Valiente, Doreen (1989). The Rebirth of Witchcraft. Llundain: Hale. Tudalen 124.
↑Valiente, Doreen [1973] (1988). An ABC of Witchcraft Past and Present. Custer, Washington, yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing. ISBN 0-919345-77-8
↑Adler, Margot (2005 [1979]). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 164
↑Adler, Margot [1979] (2005). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin
↑Adler, Margot [1979] (2005). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 173
↑Adler, Margot [1979] (2005). Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-worshippers and Other Pagans in America. Penguin, tud. 174
↑Crowley, Vivianne. Wicca: The Old Religion in the New Age (1989) Llundain: The Aquarian Press. ISBN 0-85030-737-6
↑Farrar, Janet; Farrar, Stewart (1984). The Witches' Way: Principles, Rituals and Beliefs of Modern Witchcraft. Phoenix Publishing, tud. 156 hyd at 174. ISBN 0919345719
↑Huson, Paul (1970). Mastering Witchcraft: A Practical Guide for Witches, Warlocks and Covens. Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Putnum, tud. 22–23. OCLC79263
↑Gallagher, Anne-Marie. (2005). The Wicca Bible: The Definitive Guide to Magic and the Craft. Llundain: Godsfield Press. Tudalen 370.
↑Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft. Oxford, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Oxford University Press, tud. 325. ISBN 0198207441
↑Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Tudalen 14. Green Magic.
↑Crowley, Vivianne (1989). Wicca: The Old Religion in the New Age. Llundain: Aquarian Press, tud. 14 a 15. ISBN 0-85030-737-6
↑Cochrane, Robert; Michael Howard and Evan John Jones (2003). The Robert Cochrane Letters: An Insight into Modern Traditional Witchcraft. Lloegr: Capall Bann Publishing. ISBN 1861632215
↑Heselton, Philip (Tachwedd 2001). Wiccan Roots: Gerald Gardner and the Modern Witchcraft Revival. Freshfields, Chieveley, Berkshire: Capall Bann Pub.. ISBN 1861631103. OCLC46955899
Gweler hefyd Nevill Drury. "Why Does Aleister Crowley Still Matter?" argraffiad Richard Metzger. Book of Lies: The Disinformation Guide to Magick and the Occult. Disinformation Books, 2003.
↑Bourne, Lois (1998). Dancing With Witches. Hale. Tudalen 51.
↑Heselton, Philip (2003). Gerald Gardner and the Cauldron of Inspiration. Capall Bann. Tudalen 254.
↑Holzer, Hans (1972). The New Pagans. Garden City, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau: Doubleday. OCLC281240