Mae Crefft Cochrane yn draddodiad o ddewiniaeth neo-baganaidd a darddodd o gredau ac ymarferion Robert Cochrane. Fe'i hystyrir yn ffurf ar Wica gan rai pobl.
Mae aelodau cwfennau Cochrane yn addoli Duw Corniog a Duwies Driphlyg ill dau. Mae'r Dduwies yn Dduwies Wen, term a gymerid o gerdd Robert Graves, The White Goddess.[1] Mae hi hefyd yn cael ei chynrychioli gan driawd o dair mam neu dair chwaer â nodweddion tebyg i'r Norniau.[1]
Yng Nghrefft Cochrane, cysylltir y Duw â thân, yr isfyd ac amser. Mae'r Duw yn "afr-dduw o dân, crefft, is-hudion, ffrwythlondeb a marwolaeth". Adnabyddir y Duw gan sawl enw, megis Tubal Cain, Bendigeidfran fab Llŷr, ac Herne.[1]
Credodd Cochrane, yn debyg i Gardner, mewn bodolaeth y tu hwnt i'r Duw a'r Dduwies, sef y Duwdod, er y cyfeiriodd ef at y duwdod hwn yn "y Dduwies Gudd". Cyfeiriodd ef hefyd ato'n "Wirionedd".[1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 The Roebuck in the Thicket: An Anthology of the Robert Cochrane Witchcraft Tradition
Pennawd Un.