Mae'r erthygl hon yn disgrifio llyfr traddodiadol mewn Wica; am ddefnyddiau eraill, gweler Book of Shadows.
Llyfr sy'n cynnwys cyfarwyddiadau a thestunau crefyddol ar sut i gynnal defodau hudol yw Llyfr y Cysgodion. Mae'r llyfr yn perthyn i'r traddodiad Neo-baganaidd o Wica, gyda'i darddiadau yn y Traddodiad Gardneraidd. Crëwyd Llyfr y Cysgodion cyntaf gan Wiciad o'r enw Gerald Gardner rhywbryd yn y 1940au hwyr neu 1950au cynnar. Defnyddiai ef y Llyfr gyntaf yn ei Gwfen Bricket Wood ac wedyn mewn cwfenni dilynol a sefydlwyd ganddo. Defnyddir y Llyfr mewn traddodiadau Wicaidd eraill, megis Wica Alecsandraidd, ac ers y 1970au ymlaen, mae ymarferwyr nad ydynt dilyn Wica Gadneraidd nag Alecsandraidd yn cadw Llyfr y Cysgodion hefyd.
Yn y dyddiau cynnar pan oedd y rhan helaeth o ymarferwyr Wica yn aelodau o gwfenni, "dim ond un copi [o'r Llyfr] oedd yn bodoli er defnydd y cwfen cyfan, a gadwyd gan yr archoffeiriades neu'r archoffeiriad. Erbyn hyn, mae'r rheol honno yn annichonadwy, ac mae'n gyffredin i bob Gwrach gadw llyfr eu hun."[1] Yn Wica Draddodiadol Prydain, defnyddir copïau o Lyfr y Cysgodion gwreiddiol a ysgrifennwyd gan Gerald Gardner â chymorth ei Archoffeiriades Doreen Valiente, ynghyd â newidiadau ac ychwanegiadau ers hynny, gan ddilynwyr Wica. Er ymdrechion i gadw cynnwys y Llyfr hwn yn gyfrinachol, mae wedi cael ei gyhoeddi gan sawl person megis Charles Cardell, Lady Sheba, a Janet a Stewart Farrar. Mewn traddodiadau Wicaidd eraill ac ymhlith ymarferwyr eraill, mae fersiynau eraill wedi cael eu hysgrifennu sy'n annibynnol i Lyfr gwreiddiol Gardner.
Erbyn hyn, mae sawl enwad a thraddodiad yn defnyddio Llyfr y Cysgodion. Yn draddodiadol, "dinistrir llyfr cysgodion Gwrach ar ei marwolaeth."[2] Mae'r cysyniad o'r Llyfr Cysgodion yn boblogaidd yn y cyfryngau, megis y gyfres deledu Americanaidd Charmed.
Hanes
Tarddiadau
Cyflwynodd Gardner Lyfr y Cysgodion i aelodau newydd ei gwfen yn y 1950au. Dywedodd mai llyfr coginio o swynion ydoedd (neu "lyfr cyfrin" fel yn nhraddodiad y dyn hysbys a ddisgrifir gan Kate Bosse-Griffiths yn ei llyfr Byd y Dyn Hysbys). Gellid copïo Llyfr y Cysgodion ac ychwanegu neu dynnu cynnwys yn ôl yr angen. Dywedai fod yr arfer o gadw'r fath lyfr yn un hynafol. Yn ôl y traddodiad, dywedai Gardner y dyler llosgi'r llyfr ar ôl i'r perchennog farw.
Ni soniai Gardner am "Lyfr y Cysgodion" yn ei nofel High Magic's Aid (1949) sy'n llyfr am wrachod y canol oesoedd. Dywedai Doreen Valiente (Archoffeiriades Gardner) nad oedd Gardner wedi dyfeisio'r syniad o "Lyfr y Cysgodion" bryd hynny, ond ffurfiai ef y term ar ôl iddo ysgrifennu ei nofel.
Dywedai hi y daeth Gardner o hyd i'r term mewn cylchgrawn o'r enw The Occult Observer (Cyfrol I, Rhifyn 3, 1949). Roedd hysbyseb yn y rhifyn, yn ei hôl, am nofel Gardner, High Magic's Aid, ac wrth ei ochr roedd erthygl o'r enw "Llyf y Cysgodion" gan Mir Bashir. Roedd yr erthygl dan sylw yn sôn am lawlyfr darogan Sansgrit hynafol, a eglurodd sut mae rhagweld pethau drwy edrych ar gysgod rhywun.[3] Tybiodd Valiente y cymerodd Gardner y term hwn am ei lyfr swynion.
Darganfuwyd llawysgrif a rwymwyd mewn lledr yn llawysgrifen Gardner o'r enw Ye Booke of Ye Art Magical (mae Ronald Hutton yn dweud mai Ye Bok oedd yr enw arno, ond Ye Booke yn ôl Valiente) ymysg ei bapurau ar ôl iddo farw. Ymddengys mai drafft cyntaf o Lyfr y Cysgodion Gardner ydoedd, gydag adrannau ynglŷn â defodau'r OTO a ddyfeisiwyd gan yr ocwltwr Aleister Crowley[4]. Cafodd Gardner afael ar y defodau hyn ym 1946, wrth iddo brynu siarter oddi wrth Crowley yn rhoi'r hawl iddo berfformio defodau'r OTO.