Enw crefyddol a roddir i ymarferwyr o Wica a ffurfiau o ddewiniaethNeo-baganaidd yw 'enw crefft, hefyd a elwir yn enw dewiniaethol. Mabwysiadir enwau crefft fel ffordd o ddiogelu preifatrwydd ymarferwyr hefyd (yn enwedig ar gyfer y rhai sydd "yn y closed ysgubell"), fel dangosiad o ymroddiad crefyddol, neu fel rhan o ddefod ynydu. Nid yw'r syniad o ddefnyddio enw amgen fel cais i ddatblygu persona gwahanol yn gyfyngedig i Neo-baganiaid: mabwysiadwyd Samuel Clemens yr enw Mark Twain, a gellir ei gymharu â mabwysiadu enw dewiniaethol.[1] Cyn Neo-baganiaeth, ymddengys y defnyddiwyd ffugenwau eraill gan ysgrifenwyr o grimwarau, megis Llyfr Abramelin, a briodolir i RabiYaakov Moelin.[2]
Mewn ffurfiau traddodiadol o Wica, megis Wica Gardneraidd neu Alecsandraidd, mabwysiadir enwau crefft oherwydd eu symbolaeth yn bennaf, ac fel arfer nid ydynt yn cael eu dadlennu i bobl sydd ddim yn aelodau o'r cwfen. Mae rhai Wiciaid yn defnyddio dau enw - un ar gyfer y cyhoedd cyffredin (neu'r gymuned Neo-baganaidd), a'r llall gyda'u cyd-gwfennwyr.[3] Gall Wiciaid sydd am osgoi gwahaniaethu crefyddol drwy guddio'r enw dewiniaethol ddefnyddio'r enw wrth ddeillio â'r wasg.
Enwau unigolion enwogion
Mae enwau dewiniaethol ar gyfer rhai Wiciaid enwogion a gwrachod Neo-baganaidd eraill yn cynnwys:
↑Heselton, Philip, Gerald Gardner and the Cauldron of Inspiration: An Investigation into the Sources of Gardnerian Witchcraft (2003). Capall Bann Publishing. ISBN 1861631642
↑Robert Muller, The Private Life of A Witch, The Daily Mail, Dydd Llun, 3 Tachwedd 1958. Ar gael ymaArchifwyd 2010-09-05 yn y Peiriant Wayback
↑Philip Heselton, Barbara Vickers - Gardner's First Initiate? Cyhoeddwyd yn gyntaf yn The Cauldron Mai 2006, ar gael yma[dolen farw]. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2008.
McFarland, Phoenix. The Complete Book of Magical Names (2002), Llewellyn. ISBN 1-56718-251-8
Seims, Melissa. A Wica Family Tree. (Shows initiatory relationship and craft names of several early members of the Wica (sic). Available hereArchifwyd 2013-07-22 yn y Peiriant Wayback.)