Tynnu'r Lleuad i Lawr (defod)

Mae Tynnu'r Lleuad i Lawr (hefyd a elwir Tynnu'r Dduwies i Lawr) yn ddefod ganolog i Wica. Yn ystod y ddefod hon, mae Arch Offeiriades y Cwfen yn mynd i mewn i berlewyg ac yn sianeli egni'r Dduwies, a symboleiddir gyda'r lleuad, a siarad gyda llais y Dduwies. Yn ystod ei pherlewyg, mae'r Arch Offeiriades yn siarad ac yn actio fel y Dduwies.

Y ddefod mewn hanes

Gall unigolion berfformio'r ddefod hefyd, a berfformir fel arfer mewn cylch hudol, gan berfformio'r ddefod o dan olau'r lleuad lawn, gan fabwysiadu safiad y Dduwies (y ddwy fraith i fyny, cledrau at y wybren, gyda'r corff a breichiau'n ffurfio siâp 'Y') a datgan Siars y Dduwies neu siant(iau).

Honnir bod yr enw yn dod o lun o ddwy fenyw a'r lleuad ar ffiol o Hen Roeg, yn dyddio'n ôl i'r 2g C.C.C.[1]

Cyfeiriadau

  1. Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today, Margot Adler, Viking Press 1979; argraffiad diwygiedig, Beacon Press 1987, a Penguin Books 1997 ISBN 0-14-019536-X. Plate #1.

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!