Mae Margot Adler (ganwyd 16 Ebrill 1946; m. 28 Gorffennaf 2014) yn awdures, newyddiadurwr, darlithydd, Offeiriedais Wicaidd a newyddiadurwr y radio a gohebydd ar gyfer National Public Radio (NPR).[1]
Bywyd cynnar
Ganwyd yn Little Rock, Arkansas, tyfodd Adler yn bennaf yn Ninas Efrog Newydd. Ystyrir ei thaid, Alfred Adler, i fod yn dad seicoleg yr unigolyn.
Addysg
Cafodd Adler radd faglor y celfyddydau yng ngwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Califfornia, Berkeley a gradd feistr gan Ysgol Raddio Newyddiaduriaeth Prifysgol Columbia yn Efrog Newydd ym 1970. Roedd hi'n Gyd-Nieman ym Mhrifysgol Harvard ym 1982.
Newyddiaduriaeth a'r radio
Gweithiodd Adler yn gyntaf i WBAI, FM 99.5, allfa Radio Pacifica yn Ninas Efrog Newydd. Creodd hi'r sioeau siarad Hour of the Wolf ym 1972 (dal i fyw gan Jim Freund) ac Unstuck in Time.
Neo-baganiaeth
Ysgrifennodd Adler Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today,[2] llyfr o 1979 ynglŷn â Neo-baganiaeth a gafodd eu addasu yn 2006.[3] Ystyrir y llyfr i fod yn drobwynt gyda chylchoedd Neo-baganaidd Americanaidd, am ei fod yn cynnig gwybodaeth am y grefydd yn y Taleithiau Unedig, ac am lawer o flynyddoedd roedd hwn yr unig lyfr cyflwyniadol oedd ar gael i gymunedau Neo-baganaidd yn America. Cyhoeddwyd ei hail lyfr, Heretic's Heart: A Journey Through Spirit and Revolution, ym 1997 gan Beacon Press. Mae Alder yn offeiriedais Wicaidd yn nhraddodiad Gardneraidd, hynafwraig yng Nghyfamod y Dduwies, ac yn cydgyfranogi'r gymuned ffydd Cyffredinolwr Undodaidd.
Llyfryddiaeth
Disgyddiaeth
Cyfweliadau
Cyfeiriadu
- Vale, V. and John Sulak (2001). Modern Pagans. San Francisco: Re/Search Publications. ISBN 1-889307-10-6
Dolenni allanol