Aradia, or the Gospel of the Witches

Aradia, or the Gospel of the Witches
Tudalen flaen yr argraffiad gwreiddiol a gyhoeddwyd ym 1899
Math o gyfrwnggwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurCharles Godfrey Leland
CyhoeddwrDavid Nutt
GwladY Deyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddiGorffennaf 1899 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1897 Edit this on Wikidata
GenreLlên gwerin, Dewiniaeth
CymeriadauAradia Edit this on Wikidata
Prif bwncllên gwerin, gwrachyddiaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Llyf a ysgrifennwyd ym 1899 gan Charles Godfrey Leland yw Aradia, or the Gospel of the Witches ("Aradia, neu Efengyl y Gwrachod"). Cais yw'r llyfr i bortreadu credoau a defodau traddodiad o wrachyddiadthna grefyddol gudd yn Nhoscana, Yr Eidal. Dywedodd Leland fod y traddodiad hwnnw wedi goroesi am ganrifoedd nes iddo gael ei ddarganfod yn y 1890au, ond mae ysgolheigion wedi dadlau geirwiredd y datganiad hwn. Serch hynny, daeth y llyfr yn un o destunau sylfaenol yn Wica a Stregheria, mudiadagwrachyddiaeth h Neo-baganaidd.

Mae'r llyfr ei hun yn gyfansawdd, am fod rhai darnau yn gyfieithiadau gan Leland o'r llawysgrif Eidaleg wreiddiol (y Vangelo, sef 'efengyl') i'r Saesneg. Dywedodd Leland ei fod wedi cael y llawysgrif oddi wrth rywun a oedd yn ymarfer gwrachyddiaeth yr Eidal, gwraig o'r enw "Maddalena" yn ôl Leland. Daw gweddill y cynnwys yn sgil ymchwil Leland ar lên gwerin a thraddodiadau'r Eidal, gan gynnwys deunyddiau eraill gan Maddalena. Roedd Leland yn ymwybodol o fodolaeth y Vangelo ers 1886, ond aeth un ar ddeg mlynedd heibio cyn iddo gael copi o'r llyfr oddi wrth Maddalena. Wedi cyfieithu a golygu'r cynnwys, roedd yn ddwy flynedd ychwanegol cyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi. Mae ei bymtheg pennawd yn portreadu tarddiadau, credoau, defodau, a swynion y traddodiad gwrachyddiaeth Baganaidd Eidalaidd. Y dduwies Aradia yw prif gymeriad y grefydd honno, a ddaeth i'r Ddaear i addysgu gwrachyddiaeth i'r werin bobl er mwyn iddyn nhw wrthwynebu eu gormeswyr ffiwdal a'r Eglwys Gatholig Rufeinig.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!