Iaith glasurol India yw y Sansgrit. Defnyddir y Sansgrit fel iaith litwrgïaidd yn Hindŵaeth, Bwdhaeth a Jainiaeth. Mae hi'n rhan o'r deulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd, ac felly yn perthyn i nifer o ieithoedd eraill, megis y Gymraeg. Llenyddiaeth Sansgrit yw un o'r rhai hynaf yn y byd. Mae yna dri amrywiad hysbys, sef y Fedeg (neu Sansgrit Fedig), y Sansgrit Clasurol a'r Sansgrit Arwrol.