Bathiad diweddar wedi'i seilio ar y gair Saesneghomosexuality (o'r Roeghom (yr un peth) a'r Lladinsex (rhyw) yw "cyfunrywioldeb". Yn yr un modd ceir "anghyfunrywioldeb" i ddisgrifio pen arall y sbectrwm cyfeiriadedd rhywiol, er bod y term "heterorywioldeb" yn fwy cyffredin. Term Cymraeg llawer hŷn yw gwrywgydiaeth a chafodd ei ddefnyddio gan yr Esgob William Morgan ym Meibl Cymraeg 1588.[3] Er y rhan "gwryw" o'r gair, mewn nifer o gyd-destunau mae'n cyfeirio at weithredoedd a serchiadau rhywiol rhwng menywod yn ogystal â dynion. Mae nifer yn ffafrio cyfunrywioldeb fel term Cymraeg mwy modern, tra bo eraill yn cysylltu'r fath air ag hen agweddau meddygol tuag at gyfunrywioldeb fel afiechyd meddwl.[4] "Hoyw" yw'r term poblogaidd, anffurfiol i gyfeirio at gyfunrywioldeb, yn enwedig cyfunrywioldeb rhwng dynion, er ei fod yn gamgyfieithad o'r gair Saesneggay: tan yn ddiweddar bu'r gair yn gyfystyr â "sionc" neu "bywiog".[5] Mae'r term "lesbiaidd" pob amser yn dynodi cyfunrywioldeb rhwng menywod. Termau mantell yw LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) a LHDT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol). Mae'r gair queer, oedd yn arfer cael ei ystyried yn sarhaus, wedi cael ei adfer gan bobl LHDT yn negawdau diweddar fel term positif.