Pentrefan yng nghymuned Llanhiledd, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw St Illtyd.[1] (Ymddengys nad oes enw Cymraeg.)[2] Saif yn agos at Aber-bîg ar y ffordd fynyddig rhwng Pont-y-pŵl ac Abertyleri ym Mlaenau Gwent. Gorwedda tua 1,200 troedfedd uwchben lefel y môr. NP13 2AY yw ei gôd post. Cyn 1974 safodd o fewn ffiniau hynafol Sir Fynwy.
Mae wedi'i lleoli 1.26 milltir (2.03 km) i'r de o Abertyleri a 10.56 (16.99 km) i'r gogledd o Gasnewydd. Mae'r B4471 yn agos at y pentref.
Yn 2011, poblogaeth y gymuned ehangach, yn cynnwys Aber-bîg a Llanhiledd, oedd 4,797.[3]
Daearyddiaeth
Mae bythynnod, ffermydd a hen ffermydd, tafarn a hen dafarn, hen fwyngloddiau a cheunant a throsglwyddydd teledu i'w gweld yn ac o gwmpas y pentrefan.
Mae sawl ymdrech wedi'i wneud i agor mwynglawdd tywodfaen yn yr ardal gerllaw ers 2006. Roedd rhain yn amhoblogaidd iawn.[4]
Hanes
Mae'r pentrefan mwyaf adnabyddus am Eglwys Sant Illtyd, a godwyd, yn ôl pob tebyg, yn y 3g gan fynachod Sistersaidd o Lanfihangel Llantarnam. Mae haneswyr yn credu iddi gael ei hadeiladu ar adfeilion eglwys o gyfnod cynharach - tua 863 OC. Ni chafodd yr egwys ei henwi ar ôl St Illtyd tan tua 1754.
Cyfeiria Llyfr Du Caerfyrddin at "Llan Heledd" neu "Llan Helet" (Heledd oedd chweched neu seithfed tywysoges Powys). Yn ôl yr hanesydd T.D. Breverton, yn ystod yr 16eg a'r 17eg ganrif, enw plwyf Llanhiledd oedd Llanheledd Forwyn ac mae'r cysgeriad hyn wedi parhau yn enw'r lle.
Hyd 1911, St Illtyd oedd eglwys plwyf Llanhiledd, sydd nawr yn Esgobaeth Mynwy, a pharhaodd fel addoly tan 1975. Ers hynny, mae'r eglwys wedi'i gadael yn wag. Mae'r mynwent ar gau ar gyfer claddedigaethau, ond mae'n parhau yng ngofal yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd yr adeilad ei ddatgyseru ym 1985 oherwydd ei chyflwr pydredig, ond adnewyddwyd hi fel heneb hanesyddol ym 1990. Heddiw, mae Ffrindiau St Illtyd[5] yn gofalu am adeilad yr eglwys gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Trafnidiaeth
Mae'r pentrefan wedi'i lleoli 1.8 milltir o orsaf reilffordd Llanhiledd, lle mae trenau'n teithio rhwng Glynebwy a Chaerdydd Canolog. Mae yna gynlluniau i ddechrau gawasnaethau i Gasnewydd ym mis Rhagfyr 2021.
Yng nghanol Brynithel, tua milltir i ffwrdd o St Illtyd, mae preswylwyr yn cael eu gwasanaethu gan fws rhwng Chwe Chloch ac Abertyleri. Mae arhosfan y Clwb Rygbi yn darparu cysylltiadau gan Stagecoach yn Ne Cymru:[6]
- 62 (Glynebwy-Cwmbrân)
- X15 (Casnewydd-Bryn-mawr)
- X1 (Cwmbrân-Bryn-mawr a Pont-y-pŵl)
- 95B (Trecelyn)
Llywodraeth
Mae'r pentrefan yn cael ei gwasanaethu gan ward etholiadol Llanhiledd. Mae Norman Lee Parsons (annibynnwr), Hedley McCarthy (Llafur), a Joanne Collins (annibynnwr), yn ei gynrychioli.[7]
Alun Davies (Llafur) yw Aelod o'r Senedd yr ardal[8], a Nick Smith (Llafur) yw ei Aelod Seneddol.[9]
Cyfeiriadau