- Erthygl am dref ym Mlaenau Gwent yw hon; am y dref yng Ngwynedd gweler: Blaenau Ffestiniog.
Tref fechan yng nghymuned Nantyglo a Blaenau, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Blaenau,[1] hefyd Y Blaenau (Saesneg: Blaina).[2] Saif ychydig i'r de o Nantyglo a Brynmawr ac i'r gogledd o Abertyleri ar bwys y plwyf hynafol o Aberystruth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Gwybodaeth arall
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 407 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 368 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 339 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.3% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[5]
Enwogion
Cyfeiriadau