Pentref yng nghymuned Llanhiledd, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Swffryd[1][2] (hefyd: Craig Swffryd).[3] Mae'n gorwedd yn ne eithaf y sir yn union am y ffin sirol rhwng Blaenau Gwent a Chaerffili, tua 2 filltir i'r dwyrain o bentref Crymlyn. Mae'n rhan o gymuned a phlwyf Llanhiledd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[4][5]
Rhed y ffordd B4471 trwy'r pentref, gan ei gysylltu ag Aber-bîg.
Cyfeiriadau