Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 7.1% o boblogaeth yr ardal yn gallu siarad Cymraeg. Yn ôl pob sgil, mae 170 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 156 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 137 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Roedd 9.4% yn medru'r Gymraeg yn 2001.[5]
Damwain yng Nglofa'r Chwe Chloch
Ar 28 Mehefin1960 cafwyd ffrwydriad a laddodd 45 o weithwyr. Bellach, trowyd y fan yn ardal gelf, i gofio am y rhai a laddwyd. Cynlluniwyd y gwaith gan Sebastian Boyesen. Mae'r gofeb hefyd yn symbol o lowyr eraill a fu farw mewn ffrwydriadau tebyg drwy Dde Cymru.