Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Rasa (Saesneg: Rassau).[1] Poblogaeth Rasa yw 3,234 yn ôl cyfrifiad 2011. O ganlyniad i wahaniaeth mewn oedran ac uchder rhannau'r pentref, clywch drigolion gyfeirio at naill ai "Hen Rasa" a "Rasa Newydd" neu "Rasa Isaf" a "Rasa Uchaf". Saif yng Nglyn Ebwy.
Yn ôl Cyfrifiad y DU 1991, dim ond 107, neu 3.1%, o breswylwyr Rasa (tair oed a throsodd) oedd yn gallu siarad Cymraeg. Fodd bynnag, roedd 281, neu 8.8%, o breswylwyr y pentref (tair oed a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001.
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 7.3% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 228 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 225 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 189 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg.[4]
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.