Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Abertyleri[1] (Saesneg: Abertillery). Saif y dref 16 milltir i'r Gogledd-orllewin o Gasnewydd, ar y Great Western Railway yn wreiddiol. Cododd ei phoblogaeth yn dra chyflym yn ystod y cyfnod o ddatblygu mwyngloddio yn Ne Cymru, gyda 10,846 o breswylwyr yn ôl Cyfrifiad 1891 ac wedyn i 21,945 ddeng mlynedd diweddarach. Yn gorwedd yn yr ardal fwyngloddio fynyddig o'r hen siroedd o Sir Fynwy a Sir Forgannwg, yng nghwm Ebwy Fach, roedd y preswylwyr fel arfer yn gweithio yn y glofeydd, gwaith haearn, a gwaith tunplat.
Mae sawl ysgol gynradd fach, ysgol uwchradd, a chanol tref traddodiadol gan Abertyleri. Heddiw, mae poblogaeth o 11,528 ganddi, ac yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg; mae 297 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 263 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 247 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[2]
Yn 2003, roedd tai rhataf y Deyrnas Unedig yn Abertyleri yn ôl arolwg y Halifax, gyda phris cyfartalog o £37,872.[3] Yn boblogaidd oherwydd ei golygfeydd gwledig, mae'r ardaloedd o Aber-bîg, Llanhiledd, Cwmtyleri, a Chwe Chloch ar ei phwys.
Mae'r enw'n ymddangos gyntaf mewn argraffiad ym 1779, a tharddiad y gair yw "Aber" (ceg afon) ac enw'r afon fechan "Teleri" a ymddangosodd gyntaf ym 1332. Mae'r gair hwnnw hefyd yn air cyfansawdd, sef "tŷ" ac "Eleri" (enw person).[4]
Roedd coedwig enfawr gerllaw'r dref ers talwm o'r enw Glyn Teleri, ond Cwmtyleri ydy'r enw sydd bellach ar yr ardal hon.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Abertyleri (pob oed) (11,601) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abertyleri) (801) |
|
7.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abertyleri) (10441) |
|
90% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abertyleri) (2,228) |
|
43.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau