Pentref bychan yng nghymuned Llanhiledd, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Aber-bîg neu Aberbîg[1] (Saesneg: Aberbeeg).[2] Bu'n gymuned lofaol tan yn ddiweddar. Mae pentrefi ar bwys Aber-bîg yn cynnwys Llanhiledd a Chwe Chloch.
Caeodd orsaf reilffordd Aber-bîg ar 30 Ebrill 1962. Er i'r rheilffordd gael ei hailagor, mae'r trên yn rhedeg drwyddi unwaith eto, ond nid yw'n aros.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Cyfeiriadau