Gweithredir yr orsaf gan gwmni Trafnidiaeth Cymru. Adnabyddwyd yr orsaf fel Cardiff General hyd at 7 Mai 1973.[1] Fe'i lleolir ger Stadiwm y Mileniwm yn Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas, ac mae'n un o ddwy brif orsaf y ddinas honno; y llall yw gorsaf Heol y Frenhines) sy'n gwasanaethu trenau lleol yn unig. Ceir hefyd 20 gorsaf maestrefol o fewn ardal y ddinas.
Mae'r holl orsaf, gan gynnwys y Tŵr Dŵr ger platfform 0, wedi ei restru fel adeilad Gradd II.
Hanes
Agorwyd yr orsaf gan South Wales Railway yn 1850. Ail-adeiladwyd hi gan y cwmni a'i olynodd, y Great Western Railway, yn 1932 ac mae hyn wedi'i gerfio ar flaen yr adeilad. Cyfunwyd yr orsaf faestrefol 1893Cardiff Riverside gyda'r brif orsaf yn 1940, ond ni ddefnyddwyd y platfform hwnnw ar gyfer teithwyr ers yr 1960au.[2]
Lleoliad yr orsaf
Mae dwy fynedfa i'r orsaf, un ar Sgwâr Canolog, o Wood Street, gyferbyn a Gorsaf Bysiau Caerdydd Canolog lle ceir dwy reng o dacsis. Hon yw'r fynedfa i brif ran yr orsaf lle mae'r cyfleusterau'n cynnwys:
Mae'r fynedfa arall yng nghefn yr adeilad, yn Heol Eglwys Fair (Tresillian Way), ble mae maes parcio'r orsaf hefyd i'w gael. Mae cledrau'r rheilfford uwchben y tanlwybr, sy'n rhedeg o un fynedfa i'r llall. Ceir grisiau a lifftiau ar y platfform. Mae angen tocyn dilys o bob pen y tanlwybr er mwyn cael mynd at y platfform.
Mae saith platfform ar dair ynys, 1/2, 3/4 a 6/7 (nid oes Platfform 5, roedd bae gynt yn y pen gorllewin rhwng platfform 3 a 4), gyda phlatfform ochr, mae grisiau ar wahân yn arwain at Blatfform 0, o ben gorllewinol neuadd y brif fynedfa.
Rhennir platforms 3 a 4 yn 'a' a 'b' er mwyn dal dau trenau lleol neu un tren pellter-hir. Yn wahanol i Birmingham, nid oes gan y rhain signalau ar wahân, ac nid yw'n anarferol i'r platfform eraill gael eu defnyddio ar gyfer mwy na un tren lleol ar yr un amser.
Cyhoeddiadau
Mae mwyafrif y cyhoeddiadau llafar yn yr orsaf yn cael eu gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg: