Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Trallwng[1] (Saesneg: Welshpool;[2] cyn 1835 Pool). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.
Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.[3] Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.