Pentref bychan yng nghymuned Llanbryn-mair, Powys, Cymru, yw Bontdolgadfan[1] (hefyd Bont Dolgadfan).[2] Saif yn ardal Maldwyn tua 2 filltir i'r de o bentref Llanbryn-mair. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanbryn-mair.[3]
Enwir y pentref ar ôl pont hynafol ar afon Twymyn sy'n dwyn y ffordd B4518 Llanbryn-mair—Llanidloes dros yr afon honno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[5]
Cyfeiriadau