Tref wledig a chymuned yng ngorllewin Powys, Cymru, yw Rhaeadr Gwy[1] (Saesneg: Rhayader). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Gwy tua 20 milltir o'i tharddiad ar fynydd Pumlumon.
Lleolir y dref ar groesffordd yr A470 a'r B4574 yng nghanolbarth Cymru, 13 milltir i'r gogledd o Llanfair-ym-Muallt. Disgrifir y B4574, sef y ffordd fynyddig i Aberystwyth, gan yr AA, fel "un o'r deg gyrfeydd mwyaf golygfaol yn y byd".[2][3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[5]
Hanes
Mae'n debygol mai Rhaeadr Gwy oedd canolfan weinyddol cwmwd Gwerthrynion yn yr Oesoedd Canol. Ceir cyfeiriadau at Gastell Rhaeadr Gwy ym Mrut y Tywysogion, ond dim ond olion un o'r ffosydd sydd i'w gweld ar y safle heddiw.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Rhaeadr Gwy (pob oed) (2,088) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhaeadr Gwy) (238) |
|
11.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhaeadr Gwy) (1175) |
|
56.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhaeadr Gwy) (409) |
|
41.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
5% |
Oriel
-
Bistro'r Strand
-
Yr Hen Swan, gyda'i simne cam
-
Simne'r Hen Swan
-
Canol y dre a'r gofeb rhyfel: y cloc
-
Golyfa i'r de o ganol y dref
-
Llun manwl
-
Y Ddraig Goch yn trechu'r eryr Almaenig
-
Cloc y dref - golyfa i'r dwyrain o'r canol
-
Afon Gwy i'r de o'r dref
-
Cychwyn llwybr seiclo Cwm Elan
Cyfeiriadau