- Am leoedd eraill o'r enw "Tal-y-bont", gweler Tal-y-bont (gwahaniaethu).
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Tal-y-bont ar Wysg[1] (Saesneg: Talybont-on-Usk).[2] Saif ychydig i'r gorllewin o Afon Wysg, a bob ochr i Gamlas Aberhonddu a'r Fenni. Ar un adeg roedd y pentref yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân; mae'n awr yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ganed y bardd ac awdur Roland Mathias yma.
Heblaw pentref Tal-y-bont ar Wysg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llansantffraed, lle mae'r bardd Henry Vaughan wedi ei gladdu, a Llanddeti. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 743.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Tal-y-bont ar Wysg (pob oed) (719) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tal-y-bont ar Wysg) (117) |
|
16.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tal-y-bont ar Wysg) (415) |
|
57.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tal-y-bont ar Wysg) (93) |
|
29.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau