Mae afon Tawe yn llifo heibio i'r pentref sy'n gorwedd yn y cwm rhwng bryniau Carreg Goch a Bryn Bugeiliaid, yn y Fforest Fawr. Ar bwys y pentref ceir ogofâu enwog Dan yr Ogof. Ar y mynydd-dir fymryn tu allan i'r pentref ceir llinelliad o feini hirion y Saith Maen sy'n dyddio o Oes yr Efydd.
Mae Craig-y-nos yn adnabyddus ym myd cerddoriaeth fel cartref y gantores opera byd-enwog Adelina Patti (1843-1919) "Brenhines y Gân". Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Graig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America. Cafodd y ffug-gastell ei adeiladau yn 1842 mewn efelychiad o gestyll barwnaidd yr Alban. Daeth yn enwog am ei erddi gwych. Pan ymddeolodd dan bwysau o'r byd opera cyfyngodd ei pherfformiadau i gyngherddau preifat yn y theatr fach a gododd ar dir Craig-y-nos.