Pentref yng nghymuned Llanbadarn Fawr, Powys, yw Y Groes (Saesneg: Crossgates), sydd 55 milltir (88.5 km) o Gaerdydd. Saif yng nghymuned Llanbadarn Fawr, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Llandrindod, ac ar groesfan y priffyrdd A44 ac A483.
Ceir tafarn, gwesty ac ysgol gynradd yma, ac mae gorsaf reilffordd Penybont fymryn i'r dwyrain o'r pentref.
Cynrychiolaeth etholaethol
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfeiriadau