Afon ym Maldwyn, Powys yw Afon Twymyn. Mae'n tarddu yn y bryniau tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bumlumon ac yn llifo i Afon Dyfi ger Glantwymyn.
Wrth lifo o'r bryniau mae'r afon yn ffurfio ceunant lle ceir hen weithfeydd plwm Dylife. Mae'n llifo dan Bont Dolgadfan ac yn llifo ar gwrs gogleddol i'w chymer ag Afon Iaen ger Llanbrynmair.
Lleolir adfeilion Castell Tafolwern, a adwaenir fel 'Yr Hen Domen' heddiw, ar gymer afonydd Twymyn ac Iaen, ar gyrion Llanbrynmair.
Mae'n troi i gyfeiriad y gorllewin wedyn ac yn llifo i afon Dyfi tua hanner milltir i'r gogledd o Lantwymyn.
Gweler hefyd