Mae'n gastell i Iarll Powys a bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Caiff y gerddi Baróc eu cydnabod fel rhai o'r enghreifftiau gorau yng ngwledydd Prydain o fath Baróc. Maent yn cynnwys gerddi ffurfiol, parc ceirw, llawer o goed afal a thwnel o goed grawnwin.
Dywedir i'r Dywysoges Victoria ymweld â Chastell Powys gyda'i mam ym 1832.
Rhai o'r prif atyniadau
Amgueddfa Syr Clive
Mae'r amgueddfa hon yn cynnwys llawer iawn o arteffactau diddorol o India. Casglodd Edward Clive (a newidiodd ei enw'n ddiwedarach i "Herbert") yn y 18g, lawer o luniau enwog, dodrefn drudfawr o Ffrainc a Lloegr a llawer iawn o ddodrefn a cherfluniau o'r Eidal.[1] Mae'r casgliad hwn hefyd yn cynnwys tecstiliau, arfau, arteffactau efydd, darnau arian a sguthrod eliffantod. Agorwyd y rhan hon o'r castell yn 1987.[2]
Y gath Rufeinig
Yn y prif goridor, ceir cerflun dwy fil o flynyddoedd oed o gath a neidr. Mae'n dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf neu'r ail O.C. Mae cerfluniau Rhufeinig o gathod yn hynod brin. Credir mai dyma'r unig esiampl o'i fath drwy'r byd, sydd wedi goroesi. Ceir dau gerflun arall o gathod: y naill o Pompeii a'r llall yn Amgueddfa'r Fatican, ond mae'r ddau yma'n wahanol gan eu bont yn darlunio cath yn ymosod ar dderyn.
Credir i Clive brynu'r darn marmor hwn yn anrheg i'w wraig pan ymwelodd â'r Eidal yn 1774. Mwyngloddiwyd y darn marmor o Ynys Thasos a cheir ynddo lawer o grisialau mawr, a oedd yn gwneud y gwaith o'i greu'n llawer anoddach.