Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofenia (Slofeneg: Slovenska nogometna reprezentanca) yn cynrychioli Slofenia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Slofenia (Slofeneg: Nogometna zveza Slovenije) (NZS) , corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r NZS yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd nes 1992 roedd chwaraewr o Slofenia yn cynrychioli Iwgoslafia ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Slofenia yn aelodau o FIFA ac UEFA ym 1994[1].
Llwyddodd Slofenia i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2002 a 2010 ac Ewro 2004.
|published=