Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Montenegro (Montenegreg: Fudbalska reprezentacija Crne Gore; Yr Wyddor Gyrilig: Фудбалска репрезентација Црне Горе) yn cynrychioli Montenegro yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Montenegro (Montenegreg: Fudbalski savez Crne Gore; Yr Wyddor Gyrilig: Фудбалски савез Црне Горе) (FSCG), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FSCG yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Ffurfiwyd y FSCG ym 1945[1] ond hyd nes 1992 roedd chwaraewr o Montenegro yn cynrychioli Iwgoslafia. Wedi diddymiad Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia parhaodd Montenegro yn rhan o Serbia a Montenegro gyda chwaraewyr pêl-droed y wlad yn cynrychioli Serbia a Montenegro hyd nes i Montenegro sicrhau annibyniaeth yn 2006.
Daeth Montenegro yn aelodau o FIFA ac UEFA yn 2007 gan chwarae eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn erbyn Hwngari ar 24 Mawrth 2007.[1]
Nid yw Montenegro erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.
|published=