Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Armenia (Armeneg: Հայաստանի ֆուտբոլի ազգային հավաքական Hayastani futboli azgayin havakakan) yn cynrychioli Armenia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Armenia (FFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFA yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Hyd at 1992 roedd chwaraewr o Armenia yn cynrychioli'r Undeb Sofietaidd ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Armenia'n aelod o FIFA ac UEFA, ym 1992[1].
Hyd at 2024 dydy Cymru erioed wedi curo Armenia. Mae'r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd dair gwaith; dwy gêm gyfartal, ac un buddugoliaeth i Armenia.
Cafwyd dwy gêm gyfartal yn 2001; 2-2 yn Yerevan, a 0-0 yn Stadiwm y Mileniwm.
Ym mis Mehefin 2023 fe gollodd Cymru 4-2 yn erbyn Armenia, gyda'r chwaraewr ganol-cae Lucas Zelarayán yn serennu i'r ymwelwyr.[2]
|published=