Diweddarwyd 27 Mehefin 2012.
Tîm pêl-droed Cenedlaethol Denmarc yw enw'r tîm sy'n cynrychioli Denmarc mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Undeb Pêl-droed Denmarc (Dansk Boldspil-Union).
Denmarc oedd enillwyd 1906 o'r Intercalated Games ac enillwyr medal arian yn Gemau Olympaidd 1908 ac 1912. Serch hynny, ni wnaethant fynd drwyddo i gystadlu yn y Cwpan Pêl-droed nes 1986, er iddynt ennill medal arian arall yn Gemau Olympaidd 1960.
Ers 1983 mae'r tîm wedi cystadlu'n gyson ar y lefel uchaf. Yr uchafbwynt oedd ennill Cwpan Ewrop yn 1992 gan guro'r enillwyr blaenorol, yr Iseldiroedd, yn y rownd gyn-derfynol a'r Almaen yn y rownd derfynol. Enillont hefyd Cwpan y Cyd-ffederasiwn yn 1995, gan guro'r Ariannin yn y ffeinal. Ei canlyniad gorau yng Nghwpan y Byd oedd yn 1998, pan gollasant yn agos iawn i Brasil (3-2) yn y chwarteri. Aeth Denmarc i'r ail-rownd yn 1986, 2002 a 2018.