Y tîm sydd yn cynrychioli Liechtenstein yn y byd pêl-droed yw tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein (Almaeneg: Liechtensteinische Fussballnationalmannschaf) ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein (LFV), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFV yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, (UEFA). Cynhaliwyd gêm gyntaf y tîm n 1981; gêm answyddogol yn erbyn tîm genedlaethol Malta yn Seoul, a'r sgôr oedd 1-1. Daeth eu gêm swyddogol gyntaf yn 1983 yn erbyn y Swistir, gyda Liechtenstein yn colli 0-1. Enilliad fwyaf Liechtenstein oedd 4-0 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Lwcsembwrg ar 13 Hydref 2004, mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan FIFA y Byd. Dyma oedd buddugoliaeth oddi cartref gyntaf erioed a'r fuddugoliaeth gyntaf mewn unrhyw gêm rhagbrofol i Gwpan y Byd. Y sgôr waethaf i Liechtenstein ddioddef oedd colli 11-1 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Macedonia yn 1996 mewn gêm ragbrofol i Gwpan y Byd 1998. Dyma hefyd oedd buddugoliaeth orau Macedonia.
Mae rhai o chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn dal i chwarae i unig dîm broffesiynol y wlad, FC Vaduz, ond bydd eraill yn chwarae y tu allan i'r Dywysogaeth.
Nid yw Liechtenstein erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.
Hanes
Mae Liechtenstein yn newydd-ddyfodiaid i bêl-droed ryngwladol a heb gystadlu ar gyfer unrhyw gystadleuaeth ryngwladol nes gemau rhagbrofol at Euro 1996 UEFA. Llwyddasant i synnu pawb wrth ddal tîm Gweriniaeth Iwerddon i gêm gyfartal ddisgor, 0-0 ar 3 Mehefin 1995. Ar 14 Hydref 1998 fe guron nhw Azerbaijan, 2-1 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2000 UEFA.
Ers hynny, mae presenoldeb rhia chwaraewyr ar y safon uwch medis Mario Frick wedi gweld datblygiad yn y tîm cenedlaethol. Mae tîm y brifddinas, FC Vaduz, hefyd yn chwarae yn uwchgynghrair y Swistir sy'n hwb i'r tîm cenedlaethol. Maent wedi curo Lwcsembwrg ddwy waith a chael gemau cyfartal yn erbyn Slofacia a Phortiwgal yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006 UEFA gan orffen yr ymgyrch ar 8 pwynt.
Record Liechtenstein yn erbyn pob Gwlad
Record Cwpan y Byd
Blwyddyn
|
Rownd
|
Safle
|
E
|
GG
|
C
|
GS
|
GE
|
1930 to 1994 |
Heb Gystadlu |
- |
- |
- |
- |
- |
-
|
1998 |
Heb fynd drwyddo |
6ed, olaf (qualifying) |
0 |
0 |
10 |
3 |
52
|
2002 |
Heb fynd drwyddo |
5ed, olaf (qualifying) |
0 |
0 |
8 |
0 |
23
|
2006 |
Heb fynd drwyddo |
6ed o 7 (qualifying) |
2 |
2 |
8 |
13 |
23
|
2010 |
Heb fynd drwyddo |
6ed, olaf (qualifying) |
0 |
2 |
8 |
2 |
23
|
2014 |
Heb fynd drwyddo |
6ed, olaf (qualifying) |
0 |
2 |
8 |
4 |
25
|
2018 |
Heb fynd drwyddo |
6ed, olaf (qualifying) |
0 |
0 |
6 |
1 |
24
|
Cyfanswm
|
|
0/21
|
2
|
6
|
48
|
23
|
170
|
Record Pencampwriaeth Ewrop
Blwyddyn
|
Rownd
|
Safle
|
E
|
GG
|
C
|
GS
|
GE
|
1960 to 1992 |
Heb gystadlu |
- |
- |
- |
- |
- |
-
|
1996 |
Heb fynd drwyddo |
6ed, olaf (qualifying) |
0 |
1 |
9 |
1 |
40
|
2000 |
Heb fynd drwyddo |
6ed, olaf (qualifying) |
1 |
1 |
8 |
2 |
39
|
2004 |
Heb fynd drwyddo |
5th, olaf (qualifying) |
0 |
1 |
7 |
2 |
22
|
2008 |
Heb fynd drwyddo |
7fed, olaf (qualifying) |
2 |
1 |
9 |
9 |
32
|
2012 |
Heb fynd drwyddo |
5ed, olaf (qualifying) |
1 |
1 |
6 |
3 |
17
|
2016 |
Heb fynd drwyddo |
5ed o 6 (qualifying) |
1 |
2 |
7 |
2 |
26
|
Cyfanswm
|
|
0/15
|
5
|
7
|
46
|
19
|
176
|
Mewn llenyddiaeth
Yn sgil aflwyddiant cyson y tîm, penderfynodd yr llenor Saesneg, Charlie Connelly, ddilyn ymgyrch cystdlu yng Nghwpan y Byd 2002. Cyhoeddwyd ei brofiadau yn ei lyfr Stamping Grounds: Liechtenstein's Quest for the World Cup. Collodd Liechtenstein pob un gêm heb sgorio'r un gôl.
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
- ↑ Garin, Erik. "Liechtenstein – International Results". RSSSF. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2010.