Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Lwcsembwrg (Lwcsembwrgeg: Lëtzebuergesch Foussballnationalequipe) yn cynrychioli Lwcsembwrg yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Lwcsembwrg (Lwcsembwrgeg: Fédération luxembourgeoise de football) (FLF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FLF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Nid yw Lwcsembwrg erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.