Llywodraeth leol yng Nghymru

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

I bwrpas llywodraeth leol, rhennir Cymru yn 22 o awdurdodau unedol (ers 1 Ebrill 1996). O fewn yr haen uchaf hwn, ceir sawl math o sir sefː sir, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd (gyda statws sirol).[1] Yn aml gelwir nhw o dan un enw - sir, er bod hyn yn dechnegol anghywir. Cynrychiolir yr awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r siroedd hyn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae cynghorau etholedig yr awdurdodau hyn yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethauː addysg, gwaith cymdeithasol, cadwraeth yr amgylchedd a thraffyrdd.

O dan yr haen hwn ceir cynghorau cymuned; dirprwyir rhai cyfrifoldebau iddynt hwy ee torri gwair, parciau lleol.

Fe benodir Arglwydd Raglaw gan Frenhines y DU, i'w chynrychioli yn yr wyth Sir cadwedig sef yr ardaloedd cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru at ddibenion seremonïol Rhaglawiaeth a Siryfiaeth.

Yn Ebrill 2013 cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru am gynnal Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda'r bwriad o dorri'r nifer o siroedd o 22 i tua 12.

Dinasoedd

Saith dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â statws dinas, mae gan gymunedau Bangor, Llanelwy a Thyddewi statws dinas a gadarnheir gan freintlythyrau.

Yn hanesyddol roedd Llanelwy yn ddinas, gan iddi fod yn ganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas yn Encyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.[2]

Ar 14 Mawrth 2012, fodd bynnag, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Llanelwy yn ennill statws dinas. Ymgeisiodd sawl tref, a dewiswyd Llanelwy "i gydnabod ei chyfoeth o hanes, ei chyfraniad diwylliannol a’i statws metropolitan fel canolbwynt ar gyfer technoleg, masnach a busnes."[3]

Enillodd Wrecsam gystadleuaeth i gael statws dinas yn 2022. Roedd hyn yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a gwobrwyd 8 tref ar draws y DU. Cafodd Wrecsam ei wneud yn ddinas yn swyddogol ar 1 Medi 2022.[4]

Awdurdodau unedol

  1. Abertawe
  2. Castell-Nedd Port Talbot
  3. Pen-y-bont ar Ogwr
  4. Bro Morgannwg
  5. Caerdydd
  6. Casnewydd
  7. Rhondda Cynon Taf
  8. Merthyr Tudful
  9. Caerffili
  10. Torfaen
  11. Blaenau Gwent

Cymunedau

Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru.

Siroedd cadwedig

Pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1974 diddymwyd yr hen siroedd gweinyddol a chreuwyd wyth sir newydd yn eu lle. O'r siroedd hyn, mae Powys a Gwynedd yn dal i fodoli ond gyda newidiadau i'w ffiniau, yn enwedig yn achos Gwynedd a chollodd Ynys Môn ac a welodd yr ardaloedd gogledd-ddwyreiniol yn mynd yn rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy. Mae siroedd 1974-1996 yn cael eu disgrifio'n swyddogol fel siroedd cadwedig ar gyfer rhai pwrpasau seremonïol ond heb unrhyw ran mewn llywodraeth leol.

Dyma'r siroedd:

Hanes "Siroedd" Cymru

Erbyn 1066 roedd Lloegr gyfan wedi cael ei rhannu'n siroedd, ond nid oedd gan Gymru siroedd tan y 13g. Aberteifi a Chaerfyrddin a sefydlwyd yn gyntaf a hynny yn y 1240au. Ym 1284 rhannwyd "Tywysogaeth Gwynedd" yn dair sir: Môn, Caernarfon a Meirionnydd. Gellir edrych ar y drefn newydd hon felly fel trefn Seisnig a fwriwyd ar Gymru wedi syrthio'ryn ystod blynyddoedd olaf y Tywysog Llywelyn II. Cyn diwedd y ganrif roedd y Fflint hithau wedi'i chlensio'n sir a olygai fod bron i hanner tiriogaeth Cymru o dan reolaeth coron Lloegr. Y Mers oedd yn weddill, a chafwyd gwared a nhw trwy ddefnyddio y Ddeddf Uno1536 gan greu Sir Benfro, Sir Drefaldwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Forgannwg, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy. Dyna gyfanswm o 13 sir. Y mwyaf oedd Sir Gaerfyrddin (246,168ha) a Sir y Fflint (65,975ha). Cawsant eu mapio gan John Speed ac eraill ac fe'u derbyniwyd yn frwd gan y Boneddigion.

Yn 1974 diddymwyd yr 13 sir. Yn eu lle sefydlwyd y siroedd cadwedig uchod.

NUTS gan Eurostat

O fewn Eurostats yr Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth(Nomenclature of Territorial Units for Statistics, NUTS), ystyrir Cymru yn rhanbarth lefel-1, gyda'r côd "UKL", ac a isrennir fel a ganlyn:

NUTS 1 Côd NUTS 2 Côd NUTS 3 Côd
Cymru UKL Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru UKL1 Ynys Môn UKL11
Gwynedd UKL12
Conwy a Sir Ddinbych UKL13
De-orllewin Cymru (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro) UKL14
Cymoedd Canol (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf) UKL15
Cymoedd Gwent (Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen) UKL16
Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-nedd Port Talbot UKL17
Abertawe UKL18
Dwyrain Cymru UKL2 Sir Fynwy a Chasnewydd UKL21
Caerdydd a Bro Morgannwg UKL22
Sir y Fflint a Wrecsam UKL23
Powys UKL24

Heddluoedd a gwasanaethau tân

Heddluoedd

Ceir pedwar heddlu yng Nghymru:

  1. Heddlu Gogledd Cymru
  2. Heddlu Dyfed-Powys
  3. Heddlu De Cymru
  4. Heddlu Gwent

Gwasanaethau tân ac achub

Ceir tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru:

  1. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  2. Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  3. Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Local Government (Wales) Act 1994
  2. Beckett, J V (2005). City Status in the British isles, 1830 - 2002. Aldershot: Ashgate Publishing, tud. 133 - 135. ISBN 0754650677
  3. Gwefan www.gov.uk; adalwyd 6 Ionawr 2014
  4. Wrexham officially becomes Wales' seventh city after Platinum Jubilee award (en) , WalesOnline, 1 Medi 2022.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!