Cynhyrchodd amaethyddiaeth yng Nghymru amcangyfrif Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o £457 miliwn yn 2017. Roedd hyn yn cynrychioli 0.8% o gyfanswm GVA Cymru ar gyfer y flwyddyn honno a 4% o gyfanswm GVA y DU ar gyfer amaethyddiaeth. Mae amaethyddiaeth yn cynrychioli canran uwch o economi Cymru nag y mae i'r DU ar y cyfan (0.6%). Syrthiodd GVA amaethyddol Cymru 82% rhwng 1995 a 2006 oherwydd y gwaharddiad ar allforio cig eidion a gwartheg oherwydd yr argyfwng BSE. Roedd cyfanswm yr incwm o ffermio yng Nghymru yn 2017 oddeutu £276 miliwn.[1]
Yn 2017, amcangyfrifwyd bod 10,600 o siaradwyr Cymraeg o fewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, sy'n 43% o gyfanswm holl weithlu'r genedl. Mewn cymhariaeth, mae 27% o weithwyr y sector addysg yn siarad Cymraeg a 17% ar draws pob sector.
Nawdd i wella'r amgylchedd
Bu nifer o fentrau dros y blynyddoedd i helpu ffermwyr i arallgyfeirio a ffermio mwy cynaladwy a chyfeillgar i'r amgylchedd. Roedd cynllun 'Tir Cymen' yn gynllun a oedd yn anelu at warchod tirweddau traddodiadol ac fe'i dilynwyd gan 'Tir Gofal', a oedd yn annog creu pyllau a gwlyptiroedd, plannu coetir a gwarchod gwrychoedd. Y cynllun diweddaraf yw 'Glastir', sy'n cynnig cefnogaeth ariannol i gyfranogwyr, gyda'r nodau penodol o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gwella rheolaeth dŵr a chynnal a gwella bioamrywiaeth.
Termau amaethyddol
Ymadroddion am anifail benyw mewn gwres, sy'n ysu i genehdlu:
Buwch yn gofyn tarw
Caseg yn gofyn march / stalwyn
Gast yn cwna
Example 1
Buwch yn gofyn tarw
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[2] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14g) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[3]
Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13g: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.
Caseg yn gofyn stalwyn
Ceir cryn amrywiaeth yn yr eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa caseg pan fo hi mewn gwres ag angen stalwyn. Yng Ngogledd Cymru dywedir ei bod yn 'gofyn stalwyn' neu'n 'marchio' ('marchu' mewn rhai ardaloedd). Ym Nyffryn tanat, Powys, dywedir ei bod 'yn marchu' ac 'ym Mrycheiniog, mae'r gaseg 'yn marcha'. Yng ngogledd Maldwyn, defnyddir 'gofyn stalwyn/march/ceffyl', ac mae hyn yn dangos fod cryn amrywiaeth oddi fewn i un ardal fechan.
Yn yr hen Sir Fflint, dywedir fod y gaseg 'eisiau stalwyn', yr un patrwm a chyda tharw - 'eisiau tarw' ddywedir hefyd. Ceir 'mofyn march' ym Morgannwg a de-orllewin Brycheiniog, ac maent hwythau'n cadw i'r un patrwm ac a wnant gyda tharw - 'mofyn tarw' a ddywedant. Ond ceir gair anghyffredin yn ardal Aberangell, Llanbrynmair a Chaerwys ym Maldwyn: 'yn wynedd', a fersiwn o'r term hwn a ddefnyddir yn ne Ceredigion a de Penfro: 'yn wynen' neu 'yn wyner'. Mewn un lle yng Nghwm Llynfell (Gorllewin Morgannwg) ceir amrywiad arall: 'yn wynad'.
Gast yn cwna
Ceir amrywiaeth o dermau i ddisgrifio gast sy'n ysu i genhedlu, ond ddim cymaint ac a geir wrth ddisgrifio buwch neu geffyl. Fel gyda'r ddau anifail arall, mae afon Dyfi'n ffin eitha pendant rhwng y gwahanol dermau; dywedir fod gast yn 'cwna' i'r gogledd o'r Ddyfi. Yn rhyfeddol, dyma hefyd a ddywedir yn ne Brycheiniog, ym Morgannwg ac yng Ngwent hefyd.
Yn yr hen Sir Fflint a dwyrain Maldwyn dywedir fod gast 'yn hel cŵn'. Yng nghanol Maldwyn ceir ynys sy'n dra gwahanol ei thafodiaith (eto, fel gyda'u hymadroddion am gaseg 'yn wyned' a'u buwch 'eisiau tarw'), dywedir fod yr ast 'yn cyneica' neu 'yn gynhaig'. Fel yn y Saesneg, mae geist Ceredigion a Chaerfyrddin 'yn boeth' a geist Penfro a chymoedd y Gwendraeth 'yn dwym'