Credir y lleolwyd caer RufeinigVaris yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr. Gorweddai ar Fryn Polyn efallai, ger y dref. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yn Llanelwy, ar diriogaeth y Deceangli.
Dywedir fod Cyndeyrn Sant, esgobYstrad Clud yn yr Hen Ogledd (canolbarth Yr Alban heddiw), wedi sefydlu clas yn Llanelwy tua'r flwyddyn 560. Pan ddychwelodd y sant i'r Alban gadawodd y clas yng ngofal ei ddisgybl Asaph (neu 'Asa'), ac mae'r enw Saesneg yn dod o'r cysylltiad hwnnw.
Mae eglwys y plwyf yn hynafol hefyd. Fe'i codwyd ar ddiwedd y 13g a'i chysegru i'r seintiau Pawl a Chyndeyrn, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith presennol yn dyddio o'r 15g.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.