Pentref bychan, heb fod fawr mwy nag amlwd, yn rhan isaf Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yw'r Cwm ( ynganiad ). Mae'r Cwm yn blwyf eglwysig hynafol hefyd (cyfeiriad grid SJ066774). Mae'n rhan o gymuned Tremeirchion, Cwm a'r Waun.
Saif y pentreflan ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd tua milltir a hanner i'r de o bentref Diserth, tair milltir i'r dwyrain o dref Rhuddlan. Fel mae ei enw yn awgrymu, mae'r pentref yn gorwedd mewn cwm bychan ar lethrau gorllewinol Bryniau Clwyd. Mae lôn yn rhedeg trwy'r cwm drosodd i gyfeiriad Treffynnon.
Pentref gwledig bychan gwasgaredig yw Cwm. Mae rhan isaf y pentref yn glwstwr o dai ar y ffordd sy'n cysylltu Diserth a Rhuallt i'r de. Mae'r eglwys hynafol yn gysegredig i'r Seintiau Mael a Sulien. Ceir carnedd (tumulus) gynhanesyddol ar y bryn i'r de a bryngaer fechan ar y bryn i'r gogledd.
Credir mai yn nhrefgordd ganoloesol Hiraddug, yn y plwyf y ganed a magwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan James Davies (Ceidwadwyr).[2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth Cwm, Sir Ddinbych (pob oed) (378) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwm, Sir Ddinbych) (99) |
|
27.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwm, Sir Ddinbych) (248) |
|
65.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cwm, Sir Ddinbych) (43) |
|
30.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
5% |
Cyfeiriadau