Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Treffynnon (Saesneg: Holywell). Saif yn agos i lan orllewinol Glannau Dyfrdwy ar briffordd yr A5026, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gogledd a'r Wyddgrug i'r de, tua 5 milltir o dref Y Fflint. Mae'r hen dref yn gorwedd ar un o lethrau is Mynydd Helygain. Mae'r dref yn enwog fel lleoliad Ffynnon Gwenffrewi a'i chapel, sy'n ganolfan pererindod i Gatholigion ac eraill ers canrifoedd lawer.
Yn ôl traddodiad roedd Gwenffrewi (neu Gwenfrewi) yn nith i Sant Beuno. Syrthiodd tywysog o'r enw Caradog mewn cariad â hi ond gwrthododd y forwyn ei dderbyn. Ceisiodd Caradog dreisio Wenffrewi ac yna dorrodd ei phen. Daeth Beuno heibio a rhoi pen Gwenffrewi yn ôl ar ei chorff, trwy wyrth, a ffrydiodd ffynnon o'r ddaear lle syrthiasai pen y santes. Byth ers hynny mae'r ffynnon wedi bod yn gyrchfa i bererinion.
Mae adeiladau Ffynnon Wenffrewi heddiw yn dyddio i 1490-1500 pan gafodd ei godi gan yr Arglwyddes Margaret Beaufort, mam Harri Tudur. Mae'n adeilad deniadol iawn. Delir dŵr y ffynnon mewn llestr ar siâp seren ac mae saith piler paneledig yn codi ohono i'r to siâp gwyntyll gan ffurfio rhodfa oddi amgylch y ffynnon. Mae'r pererinion yn cymryd dŵr i ffwrdd o'r ffynnon, sy'n byrlymu'n gryf, mewn poteli i'w yfed nes ymlaen neu yn y man.[3]
Ger y ffynnon ceir capel y ffynnon, sy'n dyddio i'r 15g. Cafodd ei atgyweirio yn 1967.
Y tu ôl i gapel y ffynnon ceir eglwys y plwyf, a gysegrir i'r apostol Sant Iago. Credir ei bod yn sefyll ar safle adeilad llawer cynharach ar safle'r eglwys a godwyd gan Sant Beuno yn y 7g. Mae'r tŵr yn dyddio i'r 14g ond mae gweddill yr adeilad yn perthyn i ddiwedd y 18g.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.