Map yn dangos canlyniadau'r etholiad, yn ôl plaid yr AS etholwyd o bob etholaeth
Cafodd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024 ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024.[3] Penderfynodd cyfansoddiad Tŷ'r Cyffredin, sy'n penderfynu Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig. Daeth newidiadau ffiniau newydd i rym, y newidiadau cyntaf o'u cymharu ers etholiad cyffredinol 2010
Dyddiad yr etholiad
Roedd rhaid i'r etholiad ddigwydd cyn 28 Ionawr 2025. Ym mis Ionawr 2024, dywedodd y Prif Weinidog mai "Fy rhagdybiaeth weithredol yw y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal yn ail hanner y flwyddyn". Byddai rhaid fod wedi diddymu'r Senedd erbyn 17 Rhagfyr 2024 fodd bynnag, ond roedd hyn yn annhebygol yn ôl dadansoddwyr oherwydd nifer isel a bleidleisiodd yn ystod cyfnod y Nadolig.
Roedd awgrym y byddai'r Prif Weinidog yn galw'r etholiad yn yr Hydref, er mwyn gadael i'r sefyllfa economaidd wella, gyda chwyddiant a chyfraddau llog yn disgyn. Er hynny, cyhoeddodd Rishi Sunak ar 22 Mai 2024 y byddai etholiad o fewn 6 wythnos ar 4 Gorffennaf.
Arolygon barn
Yn y Deyrnas Unedig
Cyfeiriadau
↑"StackPath". Institute for Government. 20 Rhagfyr 2019.
↑Am nad yw aelodau Sinn Féin yn cymryd eu seddi a nid yw'r Llefarydd a Dirprwy Lefarydd yn pleidleisio mae'r nifer o ASau sydd angen ar gyfer mwyafrif, mewn gwirionedd, ychydig yn llai.[1]
↑Nid yw'r ffigwr yn cynnwys Lindsay Hoyle, llefarydd Tŷ'r cyffredin, a gafodd ei gynnwys yng nghyfanswm seddi Llafur gan rai cyfryngau. Drwy gonfensiwn, mae'r llefarydd yn diddymu unrhyw gysylltiadau pleidiol wedi cael eu hethol fel llefarydd.