Ond nid yw'n hawdd diffinio'r rhanbarthau answyddogol hyn yn foddhaol, a hynny yn bennaf am eu bod yn rhanbarthau heb statws swyddogol ac felly heb ffiniau cydnabyddiedig (gwahanol yw'r sefyllfa yn Lloegr a gwledydd eraill, sydd â rhanbarthau swyddogol).
Mae Gorllewin Cymru yn enwedig yn rhanbarth annelwig iawn. Gellid ei gymryd yn llythrennol i olygu'r cyfan o orllewin Cymru, o Fôn i Benfro, a dyna'r rhanbarth a geir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn ei Strategaeth Cynllun Un ar gyfer "Gorllewin Cymru a'r Cymoedd", er enghraifft. Yn nhermau daearyddol pur, yr hyn a olygir gan "Gorllewin Cymru" gan amlaf yw de-orllewin Cymru yn hytrach na'r Gorllewin go iawn. Yn yr un modd mae "De Cymru" fel rhanbarth yn cyfeirio mewn gwirionedd at dde-ddwyrain y wlad, sef Morgannwg a Gwent.
Byddai rhai pobl yn dadlau dros rannu'r wlad yn ddau ranbarth mawr yn unig, sef Gogledd a De gyda llinell o Aberystwyth i'r Gororau yn eu gwahanu. Cynllun arall yw Gogledd, Canolbarth a De. Ar seiliau hanesyddol a ieithyddol mae rhai pobl yn cynnig cynllun arall sy'n ymrannu'r wlad yn ddau ranbarth, sef y Gorllewin (gweler uchod) a'r Dwyrain.
O fewn y rhanbarthau traddodiadol ceir israniadau pwysig a gellid dadlau fod Gogledd Cymru, er enghraifft, yn ymrannu'n ddau ranbarth, sef Gogledd-orllewin Cymru a Gogledd-ddwyrain Cymru (cf. Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy neu'r Berfeddwlad yn yr Oesoedd Canol; siroedd cadwedig Gwynedd a Chlwyd). Yn ogystal â bod yn unedau daearyddol mae'r ddau isranbarth hynny yn rhanbarthau diwylliannol hefyd, gyda gwahaniaethau mewn iaith (yn nhafodeithiau'r Gymraeg ac yn y defnydd neu ddiffyg defnydd ohoni).