Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
Yn 2006 roedd 884 o bobl yng Nghymru (0.03% o'r boblogaeth) yn derbyn triniaeth am HIV/AIDS, tra yn 2002 roedd y ffigur dim ond yn 468; tybir fod y cynnydd hwn yn adlewyrchu diagnosau newydd ond hefyd mwy o achosion o oroesiad oherwydd triniaeth well. Mae cyffredinrwydd HIV/AIDS ar ei uchaf yng nghanolfannau trefol De Cymru ac ar hyd arfordir y Gogledd.[1]
Cynyddodd nifer yr achosion o syffilis heintus o 49 yn 2005 i 73 yn 2006; roedd y mwyafrif o achosion ymysg dynion sy'n cael rhyw gyda dynion, ond gwelir cynnydd graddol yng nghyfrannedd yr achosion lle drosglwyddir yr haint yn heterorywiol, o 22% yn 2002 i 41% yn 2006.[1]
Ystadegau cyffredinol
Darganfu arolwg o 800 o bobl gan S4C yn 2001 y canlynol:[2]
- taw'r nifer cyfartalog o bartneriaid rhywiol mae pobl yng Nghymru wedi cael yw naw
- dywedodd hanner eu bod yn ymarfer rhyw diogel (roedd y ffigur hwn yn 60% ar gyfer pobl oed 18–24)
- bod cyfathrach rywiol yng Nghymru yn para 23.5 munud ar gyfartaledd
- bod dau berson o bob pump yng Nghymru wedi bod yn anffyddlon
- bod traean o bobl yng Nghymru wedi cael rhyw gyda chydweithiwr/cydweithwraig
- dywedodd 59% o bobl yng Nghymru bod rhyw yn rhan bwysig o'u bywydau
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
---|
|
|
---|
Cyffredinol | |
---|
Rhanbarthau a lleoliadau | |
---|
Tirffurfiau | |
---|
Bywyd gwyllt | |
---|
|
|
|
|