Cyfrannodd Cymru yn sylweddol at y Rhyfel Byd Cyntaf mewn sawl ffordd. Er enghraifft, o safbwynt milwyr, arweinyddiaeth y rhyfel, ac o ran y gweithlu a'r economi. Gwirfoddolodd llawer iawn o Gymry i ymladd yn y rhyfel. Yn nhermau canrannol, recriwtiwyd mwy o Gymry na Saeson, Albanwyr neu Wyddelod, ac ymladdodd milwyr o Gymru yn rhai o frwydrau mwyaf ffyrnig y rhyfel megis y Somme, Coed Mametz, Ypres a Brwydr Passchendaele.
Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru’r Llynges Brydeinig ac fe wnaeth gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru gyfraniad enfawr at ymdrech y rhyfel. Arweiniwyd yr ymgyrch ryfel gan y Cymro, David Lloyd George, y Prif Weinidog rhwng 1916 a 1918. Penderfynodd Lloyd George ddilyn polisi rhyfel diarbed wrth ymladd y rhyfel. Golygai hyn bod pawb yn y gymdeithas yn gorfod cyfrannu tuag yr ymdrech ryfel mewn ryw ffordd neu'i gilydd, naill ai ar y Ffrynt Cartref neu drwy ymladd. Bu ei ddawn fel arweinydd ac areithiwr oedd yn medru codi morâl ac ysbryd y bobl yn elfen allweddol ym muddugoliaeth Prydain.
Effeithiwyd ar bob agwedd ar gymdeithas, economi a diwylliant Cymru wrth i’r wlad golli cenhedlaeth gyfan o’i phobl, gyda’r niferoedd a gollodd eu bywydau - yn ddynion a merched - yn cyrraedd tua 40,000 yn y Rhyfel Mawr.[1]
Saethodd gŵr ifanc o Serbia o’r enw Gavrilo Princip Arch-ddug Awstria, Franz Ferdinand, yn Sarajevo ar 28 Mehefin 1914. Defnyddiodd Awstria-Hwngari’r digwyddiad hwn fel esgus i gyhoeddi rhyfel ar Serbia fis yn ddiweddarach. Er i lofruddiaeth Franz Ferdinand sbarduno'r Rhyfel Mawr, nid dyna'r unig reswm. Gwahaniaethau dros bolisi tramor rhwng prif bwerau'r byd oedd achos sylfaenol y rhyfel.
Ar ddechrau’r 20g roedd gan nifer o wledydd Ewrop gytundebau gyda gwledydd eraill i’w hamddiffyn pe bai ymosodiad ar eu gwlad. Dyma felly sut gwnaeth un digwyddiad arwain at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth i Awstria-Hwngari gyhoeddi rhyfel yn erbyn Serbia, daeth Rwsia i amddiffyn Serbia ac yn sgil hynny ymunodd Prydain a Ffrainc yn y rhyfel oherwydd bod ganddynt gytundeb gyda Rwsia. Ymunodd yr Almaen yn y rhyfel gan fod ganddi gytundeb i amddiffyn Awstria-Hwngari mewn argyfwng.
Trodd y rhyfel Ewropeaidd yn rhyfel byd eang oherwydd bod gan gymaint o wledydd Ewrop ymerodraethau eu hunain. Ymerodraeth yw casgliad o wledydd sy’n cael eu rheoli gan un brenin/brenhines neu reolwr. Wrth i wledydd o bob cornel o’r byd oedd yn rhan o ymerodraethau gwahanol ymuno â’r ymladd, datblygodd rhyfel byd-eang. Dyma rhai o wledydd Ymerodraeth Prydain a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf:
Roedd llawer o bobl wedi meddwl y byddai’n rhyfel byr ac y byddai ‘drosodd erbyn y Nadolig’ ond fe barodd y rhyfel am bedair blynedd. Roedd yn rhyfel hir a chafodd miliynau o bobl eu lladd:
Nid saethu Archddug Franz Ferdinand oedd unig reswm y gwledydd hyn i gyhoeddi rhyfel ar ei gilydd. Roedd tensiwn wedi bod rhwng rhai o wledydd Ewrop ers blynyddoedd. Rhai o brif achosion y tensiwn oedd:
Y cefndryd brenhinol – roedd rheolwyr brenhinol yr Almaen, Prydain a Rwsia yn perthyn i’w gilydd. Roedd Kaiser Wilhelm II o’r Almaen, y Brenin Siôr o Brydain a Tsar Nicholas II o Rwsia yn gefndryd gan mai’r Frenhines Fictoria oedd eu mam-gu. Roedd y tri chefnder yn benaethiaid ar filiynau o bobl, nid yn unig o fewn eu gwledydd eu hunain, ond hefyd fel rhan o’u hymerodraethau. Yn 1914, roedd Siôr V yn bennaeth gwladwriaeth ar tua 400 miliwn o bobl oddi mewn i Ymerodraeth Prydain. Achosodd hyn genfigen a drwgdybiaeth rhwng y tri gan greu perthynas anodd a chystadleuol rhyngddynt.
Cenedlaetholdeb – roedd cenedlaetholdeb yn tyfu i fod yn ddylanwad cryf ar lawer o wledydd Ewrop gan eu harwain i gredu bod eu gwlad hwy yn well na gwledydd eraill. Arweiniodd hefyd at wneud arweinwyr y gwahanol wledydd yn benderfynol ac ymosodol a chredu y bydden nhw’n ennill petaen nhw’n mynd i ryfel.
Cynghreiriau gwahanol – roedd y cytundebau gwahanol rhwng nifer o wledydd Ewrop, er enghraifft, yr Entente Driphlyg (1907) rhwng Prydain, Ffrainc a Rwsia, wedi cynyddu’r tensiwn gan eu bod wedi eu llunio er mwyn rhwystro’r Almaen rhag dod yn rhy bwerus yn Ewrop.
Y ras arfau – Prydain oedd â’r llynges fwyaf yn y byd ar ddechrau’r 20g ond roedd Wilhelm II a’r Almaen yn benderfynol o gael y gorau ar ei gefnder. Aeth yr Almaen ati i adeiladu llawer o longau rhyfel dros gyfnod o 20 mlynedd i geisio cystadlu â Phrydain.
Cystadleuaeth am dir dramor – ar ddiwedd y 19eg ganrif creodd y gystadleuaeth rhwng gwledydd yn Ewrop am dir yn Affrica fwy o densiwn yn Ewrop.[3]
Prif Frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn wrthdaro byd eang wnaeth gychwyn yn Ewrop a lledu ar draws y byd. Yn Ewrop roedd dau brif ffrynt i’r ymladd, sef Ffrynt y Dwyrain a Ffrynt y Gorllewin. Ymladdodd y rhan fwyaf o’r Cymry ar Ffrynt y Gorllewin. Tu allan i Ewrop bu brwydrau mawr yn Affrica a’r Dwyrain Canol.
Lansiodd Llywodraeth Prydain apêl yn Awst 1914 i geisio annog 100,000 o ddynion rhwng 19 a 38 mlwydd oed i ymuno â’r fyddin. Defnyddiwyd posteri, papurau newydd a chyfarfodydd lleol i berswadio pobl i ymuno. Cafwyd ymateb da i’r ymgyrch recriwtio ar ddechrau’r rhyfel ac ymunodd llawer o ddynion o Gymru â’r fyddin.
Pam ymuno?
Roedd dynion oedd yn ymuno â’r fyddin yn cael eu gweld fel dynion dewr ac arwrol. Roedd dynion oedd yn gwrthod mynd i ymladd yn cael eu gweld fel bradwyr. Doedd y rhan fwyaf o’r milwyr ddim yn deall beth oedd yn eu hwynebu ar y llinell flaen. Doedden nhw ddim yn sylweddoli pa mor erchyll oedd yr ymladd a’r amodau byw yn y ffosydd. Y farn gyffredin oedd y byddai’r rhyfel wedi gorffen erbyn Nadolig 1914. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai rhyfel byr fyddai hwn, ac nid rhyfel fyddai’n para am 4 mlynedd. Roedd rhai dynion yn gweld y rhyfel fel cyfle i fynd ar antur fawr, heb ddeall beth oedd o’u blaenau. Ymunodd rhai eraill gan ei fod yn gyfle i gael hwyl a gweld y byd, i ddianc rhag eu swyddi diflas a bywyd gartref, ac yn gyfle i ymladd dros eu gwlad a’r ymerodraeth.
Trefnodd y Llywodraeth bod swyddfeydd recriwtio yn cael eu hagor ar draws Prydain a swyddogion recriwtio yn cael eu penodi i reoli’r swyddfeydd hynny. Byddai’r rhingyll neu'r sarjant yn bresennol hefyd yn y swyddfeydd er mwyn hybu’r ymgyrch recriwtio a’i gwneud hi’n haws i rai oedd yn ymuno. Erbyn Rhagfyr 1914 roedd 62,000 o Gymry wedi ymuno â’r fyddin.[5]
Bataliynau Cyfeillion
Aeth llawer o ddynion i’r rhyfel gyda’u ffrindiau. Roedd criw o ddynion o’r un dref neu weithle yn medru sefydlu bataliwn eu hunain. Uned o filwyr mewn byddin yw bataliwn.
Credai’r llywodraeth fod hyn yn syniad da er mwyn annog mwy o ddynion i ymuno â’r lluoedd arfog. Y broblem amlwg oedd y gallai criw mawr o ddynion o’r un dref gael eu lladd ar yr un pryd pan oedd eu bataliwn yn ymladd mewn brwydr.[5]
Capeli ac eglwysi
Cyn y rhyfel roedd bron pawb yng Nghymru yn aelod o Gapel neu Eglwys. Bu rhai o gapeli ac eglwysi Cymru yn annog dynion i ymuno â’r lluoedd arfog ac roedd John Williams, Brynsiencyn, Ynys Môn, yn weinidog Methodistaidd yn amlwg iawn yn yr ymgyrch recriwtio, yn enwedig yn rhai o ardaloedd mwyaf Cymraeg a gwledig Cymru. Byddai'n pregethu yn ei ddillad milwrol a'i goler gron ac yn annog dynion i ymuno â'r fyddin, gan ddadlau bod Prydain yn ymladd brwydrau cyfiawn yn y rhyfel. Roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno â'r fyddin erbyn mis Mai 1915.[5]
Propaganda
Penderfynodd Llywodraeth Prydain ddefnyddio propaganda er mwyn sicrhau bod bobl Prydain yn rhoi pob cefnogaeth i ymdrech ryfel y wlad. Defnyddiwyd nifer o ddulliau i gyfathrebu pa mor bwysig oedd hi i’r bobl gefnogi’r
ymgyrch a sut roedden nhw’n medru helpu.
Y cyfryngau – gweithiodd y Llywodraeth gyda busnesau’r stryd fawr, fel W. H. Smith, i ddosbarthu pamffledi. Roedd papurau newydd darluniadol yn adrodd am y rhyfel mewn ffordd arwrol ond yn gwneud yn fach o erchyllterau’r rhyfel a nifer y bywydau a gollwyd.
Posteri – roedd posteri recriwtio yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o bropaganda. Y thema fwyaf cyffredin oedd gwladgarwch a oedd yn apelio ar bawb i ‘wneud eu rhan’. Roedd y posteri yn cynnwys lluniau oedd yn annog dynion cyffredin i ymuno â’r lluoedd arfog ac yn portreadu dynion balch, hapus yn mynd i ymladd dros eu gwlad. Roedd themâu eraill yn cynnwys ofn goresgyniad, erchyllterau’r Almaenwyr a rhai posteri yn targedu menywod yn y gobaith y bydden nhw’n annog dynion i fynd i ymladd.
Propaganda erchyllterau – roedd adroddiadau papur newydd am yr ‘Hun’ yn cyflawni gweithredoedd erchyll yng Ngwlad Belg ac yn dangos barbariaeth yr Almaenwyr yn ddramatig ond yn gwbl ddychmygol. Cynhyrchwyd poster ym mis Rhagfyr 1914 o’r enw Remember Scarborough a oedd yn dangos y dref yn cael ei bomio gan ladd 18 o bobl, yn cynnwys plant a baban 14 mis oed.
Cefnogaeth pobl enwog – siaradodd gwleidyddion fel Winston Churchill mewn ralïau ac fe ddangosodd y Brenin Siôr V ei gefnogaeth i’r ymgyrch ryfel drwy apelio ar bobl Prydain i ddod ynghyd.
Ffilmiau – ffilm a gynhyrchwyd ym mis Rhagfyr 1915 oedd Britain Prepared ac fe’i dosbarthwyd yn genedlaethol. Roedd hon yn ffilm filwrol oedd yn hybu’r syniad o gryfder a phenderfyniad Prydain. Dangoswyd y ffilm am chwe wythnos yn Theatr yr Empire yn Llundain a chafodd fersiwn fyrrach ei chynhyrchu i’w dangos mewn sinemau ar draws y wlad.[6]
Consgripsiwn
Erbyn 1916 roedd angen mwy o ddynion i fynd i ymladd yn y rhyfel. Roedd miloedd o ddynion wedi cael eu lladd mewn brwydrau anferth ar Ffrynt y Gorllewin, ac roedd angen milwyr yn eu lle. Ond erbyn 1916 doedd dynion ddim mor awyddus i fynd i ryfel gan eu bod nhw bellach wedi clywed beth oedd yn eu hwynebu.
Penderfynodd y Llywodraeth gyflwyno Deddf Gorfodaeth Filwrol yn Ionawr 1916 oedd yn golygu bod yn rhaid i bob dyn rhwng 18 a 41 mlwydd oed ymuno â’r lluoedd arfog. Gair arall sy’n cael ei ddefnyddio am orfodaeth filwrol yw Consgripsiwn. Dim ond dynion mewn swyddi allweddol, sef swyddi oedd yn bwysig i’r ymgyrch ryfel, oedd yn cael osgoi ymuno â’r lluoedd arfog. Roedd y rhain yn cynnwys glowyr, gweithwyr mewn ffatrïoedd arfau, meddygon a ffermwyr.[5]
Llinell Amser Recriwtio
1914
1915
1916
1918
Awst 4
Prydain yn datgan rhyfel yn erbyn
yr Almaen
Gweddill Awst
Dechrau recriwtio; dynion yn
ymuno â’r fyddin yn wirfoddol
Rhagfyr
62,000 o ddynion o Gymru
wedi ymuno â’r lluoedd arfog
Ionawr
1,000,000 o ddynion
o Brydain wedi ymuno â’r
lluoedd arfog
Ionawr
Consgripsiwn yn dechrau; pob dyn sengl
rhwng 18 a 41 oed yn cael eu galw i
gofrestru i fynd i ymladd
Mai
Dynion priod yn cael eu gorfodi i
gofrestru i fynd i ymladd
Tachwedd
273,000 o Gymry wedi ymladd yn y rhyfel
Tachwedd 11
Diwrnod Cadoediad yn dynodi diwedd y
rhyfel a’r ymladd
Gwrthwynebwyr Cydwybodol
Roedd dynion a oedd yn gwrthwynebu ymuno â’r lluoedd arfog yn cael eu galw’n wrthwynebwyr cydwybodol. Credent na allai eu cydwybod ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn rhyfel. Credent hyn am resymau gwahanol, oedd yn cynnwys daliadau crefyddol, gwleidyddol neu foesol.
Nid oedd y mwyafrif o bobl y cyfnod ym Mhrydain yn dangos unrhyw gydymdeimlad â safiad gwrthwynebwyr cydwybodol, gan eu gweld fel llwfrgwn a bradwyr nad oedd yn fodlon aberthu eu bywydau dros eu gwlad. Byddent yn aml yn cael eu cyhuddo o fod yn anwladgarol ac yn gachgwn. Roedd yn gyffredin iddynt gael eu cywilyddio yn gyhoeddus gyda merched yn rhoi pluen wen iddynt. Roedd y bluen wen yn symbol o lwfrdra.
Byddai cais y gwrthwynebydd cydwybodol i gael ei eithrio o wneud gwasanaeth milwrol yn cael ei gyflwyno gerbron tribiwnlys lleol. Os byddai’n cael ei eithrio rhag gwneud gwasanaeth milwrol byddai’n gwneud gwasanaeth heb frwydro, er enghraifft, gweithio gyda’r Corfflu Meddygol (R.A.M.C) neu fel negesydd neu yrrwr ambiwlans ar faes y gad. Medrai hefyd gael ei anfon i wneud gwaith sifiliaidd yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau neu ‘waith o bwysigrwydd cenedlaethol’ mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu gyda’r Y.M.C.A.[7]
Roedd y bardd a’r archdderwydd Cynan (Albert Evans-Jones) yn wrthwynebydd cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ond cyfrannodd at yr ymgyrch ryfel drwy ymuno â’r Corfflu Meddygol fel cludwr elor yn Ffrainc. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon yn 1921 am ei gerdd ‘Mab y Bwthyn’ a oedd yn sôn am ei brofiadau yn y rhyfel.[8] Ymhlith y Cymry blaenllaw eraill oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y bardd o Gwm Tawe, sef 'Gwenallt' (David James Jones) a dau o heddychwyr mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, sef George Maitland Lloyd Davies a'r bargyfreithiwr o Aberystwyth, Ithel Davies.[9][10]
Rôl David Lloyd George
Yn fuan wedi decrau'r Rhyfel Byd Cyntaf cafodd David Lloyd George ei benodi yn Weinidog Arfau. Llwyddodd i gynyddu cyflenwad yr arfau oedd yn cyrraedd milwyr Prydain ar y ffrynt ymladd drwy wella cynhyrchiant diwydiant.
Roedd Lloyd George yn areithiwr gwych, a defnyddiodd y ddawn hon yn ystod ei ymgyrchoedd recriwtio wrth deithio ar draws Cymru. Yn aml pwysleisiai wladgarwch a byddai’n cyfeirio at bwysigrwydd unigolion yn hanes Cymru, fel Llywelyn ein Llyw Olaf ac Owain Glyndŵr wrth geisio cyffroi'r Cymry i ymuno yn y rhyfel er mwyn amddiffyn ‘y gwledydd bach’. Roedd yn bwysig, meddai, bod gwlad fach Cymru yn rhoi help i wlad fach arall fel Gwlad Belg, yr ymosododd Ymerodraeth Awstria-Hwngari arni.
Roedd awydd Lloyd George i hybu cyfraniad Cymru tuag at y rhyfel yn cael ei adlewyrchu yn y gefnogaeth a roddodd i sefydlu Corfflu’r Fyddin Gymreig neu’r 38ain Adran Gymreig fel y cafodd ei hadnabod yn ddiweddarach. Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai’r corfflu yn denu hyd at 50,000 mewn nifer ond cafodd llawer o’r recriwtiaid Cymreig eu galw i gatrawdau eraill.
Yng Ngorffennaf 1916 bu’r 38ain Adran Gymreig yn ymladd gyda chatrawdau eraill o Gymru, fel Cyffinwyr De Cymru, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ym Mrwydr Coed Mametz a oedd yn rhan o Frwydr y Somme yng ngogledd ddwyrain Ffrainc. Dioddefodd yr adran golledion enfawr a beirniadwyd hi’n hallt oherwydd diffyg hyfforddiant ac arweinyddiaeth wael.
Penodwyd ef hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Rhyfel yng Ngorffennaf 1916 yn dilyn marwolaeth yr Arglwydd Kitchener ac erbyn Rhagfyr 1916 roedd yn Brif Weinidog Prydain. Ef yw'r Cymro cyntaf, a'r unig Gymro hyd yn hyn, i fod yn Brif Weinidog Prydain. Adnabuwyd ef fel ‘y dyn a enillodd y rhyfel’ ac roedd yn un o arweinyddion y Cynghreiriaid, gyda Ffrainc a’r UDA, a fu’n llunio Cytundeb Versailles yn 1919.[11][12]
Doc Penfro
Defnyddiwyd gynnau mawr, sef magnelau a gynnau peiriant fel rhan o’r dulliau rhyfela ar y tir, ac ar y môr defnyddiodd Prydain a’r Almaen longau mawr rhyfel o’r enw Dreadnoughts yn ogystal â llongau tanfor. Bu rôl bwysig gan Ddociau Penfro, sir Benfro, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fel un o iardiau'r Llynges Frenhinol lle adeiladwyd llongau rhyfel a gynfadau.[13][14]
Bywyd ar y Ffrynt Cartref
Roedd disgwyl i bawb yn y gymdeithas gyfrannu at yr ymgyrch ryfel, yn ddynion a merched, ac roedd disgwyl hyd yn oed i blant chwarae eu rhan ar y Ffrynt Cartref drwy wneud gwaith gwirfoddol ac elusennol fel casglu arian i brynu nwyddau ar gyfer y milwyr ar y ffrynt ymladd, casglu wyau a gwlân a gweithio ar y ffermydd.[15]
Er mwyn ceisio cael rheolaeth lawnach dros fywydau pobl Prydain pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas yn 1914. Yn Saesneg cai’r ddeddf hon ei hadnabod fel DORA (Defence of the Realm Act). Golygai’r ddeddf hon bod y Llywodraeth yn medru rheoli oriau gwaith ac oriau hamdden pobl, cwmnïau a busnesau ar draws Cymru (a Prydain) er mwyn sicrhau bod holl ymdrechion y deyrnas yn canolbwyntio ar helpu’r ymgyrch ryfel.
Roedd Deddf Amddiffyn y Deyrnas yn rhoi pwerau newydd i’r Llywodraeth i reoli bron pob agwedd ar fywyd y deyrnas - er enghraifft, amaethyddiaeth, peirianneg a’r pyllau glo, llongau, porthladdoedd a dociau. Roedd modd hefyd rheoli trafnidiaeth fel heolydd a’r rheilffyrdd a meddiannu cyflenwadau nwy, dŵr a thrydan er mwyn helpu’r ymgyrch ryfel.
Roedd ganddi’r pŵer hefyd i sensora’r wasg er mwyn rheoli’r wybodaeth oedd yn cael ei chyhoeddi i’r cyhoedd. Roedd felly yn gyfrifol am gyflwyno propaganda. Galluogodd y pwerau newydd hyn y Llywodraeth i gyflwyno dogni, rheoli oriau ac amodau gwaith y gweithlu a hyd yn oed sut roedd pobl yn treulio eu hamser hamdden. Cafodd gwyliau banc eu hatal am gyfnod, anogwyd pobl i fwyta sglodion gan eu bod yn fwyd rhad a chyflwynwyd Greenwich Mean Time, oedd yn golygu troi’r clociau ymlaen awr yn yr haf er mwyn rhoi mwy o olau dydd i ffermwyr a gweithwyr yn gyffredinol. Penderfynwyd glastwreiddio’r cwrw yn 1914 er mwyn atal pobl rhag meddwi ac i sicrhau nad oeddent yn anwybyddu eu dyletswyddau rhyfel. Perswadiwyd hyd yn oed y teulu brenhinol i newid ei gyfenw o Saxe-Coburg-Gotha i Windsor oherwydd bod yr hen enw o dras Almeinig ac roedd yr un newydd yn swnio’n fwy gwladgarol.[15][16]
Cyfraniad tir Cymru
Defnyddiwyd tir Cymru ar gyfer hyfforddiant milwrol hefyd. Sefydlwyd gwersyll milwrol bach ym Mryn Golau ger Trawsfynydd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn 1906 sefydlwyd safle mwy o faint a mwy parhaol yn Rhiw Goch. Daeth yn bwysig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel llety i filwyr ond hefyd fel maes magnelaeth a gwersyll carcharorion rhyfel.[17] Yn ogystal, defnyddiwyd hen safle distyllfa chwisgi Frongoch, ger y Bala fel gwersyll carcharorion Almaenig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda’r rhai cyntaf yn cyrraedd yn 1915 a’r rhai diwethaf yn gadael yn 1919. Dyma hefyd lle carcharwyd gwrthryfelwyr Gwyddelig Gwrthryfel y Pasg yn 1916.[18]
Effeithiau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru
Pan ddaeth y rhyfel i ben roedd Prydain yn wynebu llawer o broblemau cymdeithasol. Roedd llawer o filwyr oedd wedi cael eu dadfyddino eisiau ail-ymuno â’r gymdeithas ac ail-gydio yn eu hen swyddi neu gael swyddi newydd. Ond bu’r Llywodraeth mor araf yn ceisio datrys y broblem fel y cafwyd terfysgoedd mewn rhannau o Brydain. Er enghraifft, bu terfysg ymysg milwyr o Canada yn ardal y Rhyl. Erbyn Medi 1919 roedd 4 miliwn o filwyr wedi cael eu dadfyddino ac roedd y mwyafrif wedi llwyddo i ganfod swyddi. Un o addewidion y Prif Weinidog, David Lloyd George, i’r milwyr oedd wedi dychwelyd o’r rhyfel oedd adeiladu tai addas ar eu cyfer. Hwn oedd cynllun ‘homes fit for heroes’ y Llywodraeth, sef Cynllun Tai 1919. Er hynny roedd y cynllun yn un costus, ac er mai’r bwriad oedd adeiladu 500,000 o gartrefi, dim ond 213,000 o dai a adeiladwyd. Dyma un ffactor a effeithiodd ar boblogrwydd Lloyd George ac a arweiniodd at ei ymddiswyddiad yn 1922.
Wrth i’r milwyr ddychwelyd adref a llawer ohoynt wedi goroesi erchyllterau’r ffosydd, bu farw miloedd ohonynt ac aelodau o’u teulu oherwydd Pandemig y Ffliw Sbaenaidd a ysgubodd drwy Brydain yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 1918. Bu farw tua 11,500 o ganlyniad i'r Ffliw Sbaenaidd yng Nghymru.
Roedd gweithwyr o Gymru a diwydiant Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr at ymdrech y rhyfel. Glo rhydd o Gymru oedd yn gyrru’r Llynges Brydeinig. Er hynny, ar ddechrau’r 1920au bu dirwasgiad ymysg y diwydiannau trwm fel glo a dur, a oedd wedi bod mor allweddol i’r ymgyrch ryfel. Gyda llai o alw am eu cynnyrch daeth tro ar fyd, gyda chyflogau yn lleihau a diweithdra yn cynyddu.[19]
Llenyddiaeth y Rhyfel
Y bardd Cymraeg a gysylltir yn benodol â'r rhyfel yw Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887–1917), brodor o Drawsfynydd, a aeth yn filwr ym 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn 1917 ac a laddwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem (rhan o Frwydr Passchendaele) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Enillodd gadairEisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi ei ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel Eisteddfod y Gadair Ddu. Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r llinell gofiadwy "Y bardd trwm dan bridd tramor."
Mae nofel Plasau'r Brenin (1934) gan Gwenallt yn seiliedig ar brofiad yr awdur fel carcharor cydwybodol oherwydd iddo wrthwynebu gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar sail ei ddaliadau fel heddychwr. Nofel Gymraeg arall sy'n deillio o gyfnod y rhyfel yw Amser i Ryfel gan T. Hughes Jones.