Disgrifiodd Owain Gwynedd ei hun fel "Owinus, rex Wallie" (Owain, brenin Cymru) yn ei lythr cyntaf o dri at frenin Ffrainc; yr ymdrech cyntaf gan arweinydd Cymreig i sefydlu perthynas diplomataidd gyda brenin cyfandirol. Yn 1163, dim ond 4 mis ar ol cyfarfod Woodstock, dechreuodd ddisgrifio'i hun fel "Tywysog y Cymry". Mewn ymateb, ysgrifennodd Thomas Beckett mewn llythyr at y Pab Alecsander III, "the Welsh and Owain who calls himself prince" ac fod "the lord king was very moved and offended". Dywed yr awdur Roger Turvey fod newid hyn yn un arwyddocaol i Owain ac y byddai ef a'r brenin Harri yn gwybod yn iawn fod "princeps" yn cyfeirio at lywodraethwr sofran gwlad yng nghyfraith Rhufeinig. Dywed Huw Price fod y newid yn arwydd o wrthod israddoldeb i'r brenin tra bod J. Beverly Smith yn awgrymu mai adlewyrchu ei safle fel arweinydd di-gwestiwn Cymru oedd Owain. Dywed Sean Duffy fod y teitl wedi'i newid i anwybyddu Harri.[2]
Diwedd y ddefnydd Gymreig
Yn dilyn uno Cymru dan reolaeth tywysogion Llywelyn, arweiniodd Brenin Edward I o Loegr 15,000 o ddynion i gipio Cymru yn dilyn sawl ymdrech aflwyddiannus gan frenhinoedd Lloegr i gadw gafael ar Gymru. Arweiniwyd y Cymry gan Llywelyn ap Gruffydd a wnaeth hefyd ymgais i recriwtio mwy o filwyr Cymreig yn y canolbarth.[3][4]
Yn 1267, adnabyddywd Llywelyn fel tywysog Cymru annibynol gan goron Lloegr yng Nghytundeb Maldwyn a adnabyddodd hefyd hawl i lywelyn dderbyn wrogaeth gan yr uchelwyr brodorol. Llywelyn oedd yr unig dywysog i goron Lloegr ei adnabod yn y modd hyn ond roedd yn rhaid iddo dalu 25,000 o farciau er gwaethaf ei incwm a oed o bosib o gwmpas 5,000 o farciau. Yn y pendraw, gwrthododd Llywelyn dalu a gwrthododd dalu gwrthogaeth i Edward. Goresgynodd fyddin Edward ac ennill brwydr yn ei erbyn gan orfodi termau llym Cytundeb Aberconwy gan golli tir a llawer o arian. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — gan gynnwys cestyll Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech.[5]
Yn 1282, fe wnaeth trethi newydd a cham-drin gan swyddogion lleol y goron arwain at wrthryfel Cymreig. Cynigwyd iarllaeth Seisnig i Llywelyn ond ymatebodd Llywelyn fod pobl Eryri yn;
“
anfodlon gwneud gwrogaeth i ddieithryn y mae ei iaith, ei arferion a'i ddeddfau yn gwbl anghyfarwydd iddynt. Os pe bai hynny'n digwydd gallent gael eu caethiwo am byth a chael eu trin yn greulon.
”
Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. [5] Lladdwyd Llywelyn ym Mrwydr Pont Orewin gan filwyr o Loegr mewn tric cudd yn ôl un ffynhonnell. Roedd Llywelyn dan yr argraff ei fod yn mynd yno ar gyfer trafodaethau. Parediwyd pen Llywelyn trwy Lundain a'i osod ar bigyn Tŵr Llundain gyda choron sarhaus o ddail llawryf.[6]
Dal Dafydd
Casglodd Dafydd benaethiaid Gwynedd yngyd yn Ninbych i geisio ail-ddechrau rhyfel egniol ond ni chafodd fawr o lwyddiant. Curwyd Dafydd ger Dolbadarn gan Iarll Warwick. Ciliodd Dafydd gan ddioddef o newyn ac oerni i Nanhysglain ger Bera Mawr. Ar 21 Mehefin 1283, bradychwyd y criw gan Einion ap Ifor, Esgob Bangor, Gronwy ab Dafydd a'u cludo i Gastell Rhuddlan ac Edward. Cymerwyd Dafydd dan warchodlu cryf i Amwythig a chafwyd ef yn euog o flaen 100 o farwniaid, 11 iarll ac Edward ei hun.[7] Ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg.[8]
Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd gan gynnwys rhan tybiedig o groes Iesu Grist i gysegr Edward y Cyffeswr yn Abaty Westminster er mwyn dangos fod coron Lloegr wedi cymeryd coron Cymru.[8]
"Tywysog y Cymry"; y person cyntaf i ddefnyddio'r arddull hon i ddynodi annibyniaeth, sofraniaeth a goruchafiaeth dros lywodraethwyr brodorol eraill.[13][14][15]
Cyfeirir ato gan groniclwyr Cymraeg a Saesneg fel "Tywysog Cymru". Daliodd "dywysogaeth" Cymru ond defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac arglwydd yr Wyddfa", gydag Aberffraw yn awgrymu goruchafiaeth dros Gymru gyfan a gwrogaeth gan bob Brenin arall[20]
Lladdwyd gan filwyr o Loegr dan gochl trafodaethau heddwch ar 11 Rhagfyr 1282 yn 59 oed. Parêdiwyd ei ben ar bolyn o amgylch Llundain a'i roi ar dwr Llundain.[24]
Llusgwyd drwy'r stryd gan geffyl cyn cael ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteri yn Amwythig ar 3 Hydref 1283 ar ôl cael ei ddal gan filwyr Lloegr. Rhoddwyd ei ben ar bolyn wrth pen ei frawd.
Rheolaeth Seisnig yn dechrau ar ôl lladd Llywelyn & Dafydd ap Gruffydd
Bu farw 1415, yn 55-56 mlwydd oed ac fe gladdwyd yn gyfrinachol.
Tywysogion anfrodorol, Seisnig
Enwyd mab brenin Lloegr, a anwyd yng Nghaernarfon yn "Dywysog Cymru" yn 1301 a pherchnogwyd holl diroedd y teuluoedd a rhyfelodd yn erbyn y goron Seisnig. Mewn ymateb i gwymp Teyrnas Gwynedd, dywedodd un bardd, "Ac yna taflwyd Cymru oll i'r llawr".[5]
Roedd defnydd o'r teitl yn parhau hefyd erbyn yr 17g. Yn 1616, fe wnaed Charles I yn Dywysog Cymru yng ngastell Ludlow. Disgrifir Cymru fel 'dominion and principalities of Wales and the marches" a statws yr orsedd fel "princely throne of Wales" gan awdur yn yr un flwyddyn.[29]
Yn 1911, penderfynodd bwyllgor yn San Steffan fod Cymru yn dywysogaeth ac nid yn frenhiniaeth ac felly ni ddylid cynnwys arfau Cymru yn arfau y Deyrnas Unedig. Yn 1912, ychwanegwyd arfbais Cymru i gymryd lle un Saxony ar standard (baner) "Tywysog Cymru".[30]