Mae "Henry V" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am y ddrama gan William Shakespeare, gweler
Harri V (drama).
Harri V (9 Awst neu 16 Medi 1387 – 31 Awst 1422) oedd brenin Lloegr o 20 Mawrth 1413 hyd ei farwolaeth.
Ganwyd ef yn Nhrefynwy, yn fab i Harri, Dug Caerhirfryn, a'i wraig gyntaf, Mary de Bohun. Fel Tywysog Cymru, brwydrodd yn erbyn gwrthryfelwyr Owain Glyn Dŵr, gan dderbyn craith barhaol ar ei wyneb o saeth yn ystod brwydr Amwythig yn 1403.[1][2]
Mae Henry yn cael ei gofio’n arbennig am ennill brwydr Agincourt yn 1415.[3] Priododd Harri â Catrin o Valois (merch Siarl VI, brenin Ffrainc) ar 2 Mehefin 1421 yn Eglwys Sant Ioan yn Troyes.
Plant
Cyfeiriadau