Gelwid ef yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owain ap Gruffudd arall a deyrnasai yn yr un cyfnod, Owain Cyfeiliog. Gwelodd ei deyrnasiad adfywiad mawr yng Ngwynedd a Chymru ac mae Brut y Tywysogion yn cyfeirio ato wrth yr enw Owain Fawr.
Erbyn tua 1118 yr oedd Gruffudd yn rhy hen i arwain mewn rhyfel ei hun, ond gallodd ei feibion Cadwallon ap Gruffudd, yr hynaf o feibion Gruffudd, Owain ac yn ddiweddarach Cadwaladr ap Gruffudd, ymestyn ffiniau Gwynedd ymhell i'r dwyrain. Yn 1123, ymosododd Cadwallon ac Owain ar gantref Meirionnydd, a oedd yn perthyn i Deyrnas Powys ar y pryd. Yn 1124 cipiasant gantref Dyffryn Clwyd o ddwylo Powys a'i adfer i Wynedd. Mewn ymgyrch ddiweddarach, lladdwyd Cadwallon gan fyddin o Bowys mewn brwydr yng nghwmwd Nanheudwy, ger Llangollen, yn 1132 (gweler Brwydr Nanheudwy).[1] Atalwyd cynnydd tiriogaethol Gwynedd am gyfnod ar ôl hynny.[angen ffynhonnell]
Etifeddodd Owain y rhan fwyaf o'r deyrnas ar farwolaeth Gruffudd yn 1137, ond gyda Cadwaladr yn dal Meirionnydd a Cheredigion. Yn 1143 lladdodd gwŷr Cadwaladr Anarawd ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, trwy frad. Roedd amheuaeth gref fod hyn ar orchymyn Cadwaladr. Ymatebodd Owain trwy yrru ei fab Hywel ab Owain Gwynedd i gymeryd tiroedd Cadwaladr yng Ngheredigion oddi arno. Ffôdd Cadwaladr i Iwerddon lle cyflogodd lynges gan Lychlynwyr Dulyn. Glaniodd yn Abermenai yn 1144 i geisio gorfodi Owain i dychwelyd ei diroedd. Ymddengys i Gadwaladr adael y Daniaid a dod i gytundeb a'i frawd. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o'i diroedd ym Meirionnydd gan Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan. Wedi cweryl arall rhwng Cadwaladr ac Owain, alltudiwyd Cadwaladr i Loegr.[angen ffynhonnell]
Yn y diwedd, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Steffan a Matilda; sef fod Steffan i fod ar yr orsedd hyd ei farwolaeth, ond mai mab Matilda oedd i'w olynu. Daeth ef i'r orsedd yn 1154 fel Harri II. Ceisiodd Harri II oresgyn Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 gyda byddin o tua 30,000 o filwyr, a chyda chefnogaeth Madog ap Maredudd o Bowys a brawd Owain, Cadwaladr ap Gruffudd. Bu bron i Harri gael ei ladd ym Mrwydr Cwnsyllt, ar safle ger Bryn y Glo, lle bu'r Cymry'n fuddugol. Wedi'r frwydr, enciliodd Owain tua'r gorllewin. Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym Môn gan y Cymry lleol a lladd Henry FitzRoy, mab gordderch Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Er i Owain gael cryn lwyddiant yn filwrol, gwnaeth gytundeb heddwch a'r brenin, gan dalu gwrogaeth iddo a chytuno y byddai Cadwaladr ap Gruffudd yn cael ei diroedd yn ôl. Collodd Owain ei afael ar Degeingl a Iâl.[angen ffynhonnell]
Bu farw Madog ap Maredudd yn 1160, gan roi cyfle i Owain ymestyn ei ffiniau tua'r dwyrain eto. Yn 1163, gwnaeth gynhrair a Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth. Ymosododd Harri II eto yn 1163 a 1165. Yn 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw ymreolaeth y Gymru frodorol yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Ymgynullodd byddin yr Angefiniaid yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arhosai’r Cymry yr ochr arall i Fynydd y Berwyn.[angen ffynhonnell]
Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru. Roedd mintai o’r Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Angefiniaid gyrraedd naill ai Aberceiriog neu Ddyffryn Ceiriog, ymosodasant ar flaengad byddin yr Angefiniaid gyda nifer o ddewrion yn syrthio ar y ddwy ochr. Gellir cyfeirio at y rhagod fel Brwydr Coed Ceiriog. Yn bwysicach byth roedd y tywydd yn erbyn Harri. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben.[angen ffynhonnell] Ar ôl ffoi yn 1165, gorchmynodd Harri llurgunio a chrogi 22 o Gymry.[2]
Wedi methiant yr ymgyrch yma, ni cheisiodd y brenin ymgyrchu yn erbyn Cymru eto. Yn 1167, cafodd Owain gymorth Rhys ap Gruffudd i gipio castell Rhuddlan.[3]
Teitl Tywysog Cymru
Disgrifiodd Owain Gwynedd ei hun fel "Owinus, rex Wallie" (Owain, brenin Cymru) yn ei lythr cyntaf o dri at frenin Ffrainc; yr ymdrech cyntaf gan arweinydd Cymreig i sefydlu perthynas diplomataidd gyda brenin cyfandirol. Yn 1163, dim ond 4 mis ar ol cyfarfod Woodstock, dechreuodd ddisgrifio'i hun fel "Tywysog y Cymry". Mewn ymateb, ysgrifennodd Thomas Beckett mewn llythyr at y Pab Alecsander III, "the Welsh and Owain who calls himself prince" ac fod "the lord king was very moved and offended". Dywed yr awdur Roger Turvey fod newid hyn yn un arwyddocaol i Owain ac y byddai ef a'r brenin Harri yn gwybod yn iawn fod "princeps" yn cyfeirio at lywodraethwr sofran gwlad yng nghyfraith Rhufeinig. Dywed Huw Price fod y newid yn arwydd o wrthod israddoldeb i'r brenin tra bod J. Beverly Smith yn awgrymu mai adlewyrchu ei safle fel arweinydd di-gwestiwn Cymru oedd Owain. Dywed Sean Duffy fod y teitl wedi'i newid i anwybyddu Harri.[4]
Perthynas â'r eglwys
Daeth Owain i wrthdrawiad a'r Pab ac Archesgob Caergaint, Thomas Becket, am ddau reswm. Un rheswm oedd fod Owain yn mynnu rheolaeth dros yr eglwys yn ei deyrnas, yn arbennig penodiad Esgob Bangor. Ar farwolaeth yr esgob Meurig, penododd Owain Arthur o Enlli i'r esgobaeth tua 1165. Gwrthododd Archesgob Caergaint ei gysegru, felly trefnodd Owain i Arthur gael ei gysegru yn Iwerddon.[angen ffynhonnell]
Eglwys Gadeiriol Bangor
Man gorffwys Owain Gwynedd
Llun manwl o'i gladdgell
Cofeb i Owain Gwynedd
Yr ail reswm oedd fod Owain wedi priodi ei gyfnither, Cristin, rhywbeth a waherddid gan ddeddfau'r Eglwys. Rhoddwyd pwysau ar Owain i ysgaru Cristin, ond gwrthododd, ac o ganlyniad cafodd ei ysgymuno gan y Pab.
Bu farw Owain Gwynedd ar yr 28ain o Dachwedd 1170, a chafodd ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol ym Mangor er ei fod yn dal wedi ei esgymuno. Ymddengys i'w gorff gael ei symud o'r eglwys i'r fynwent yn ddiweddarach.
Ymddengys mai Rhun oedd ffefryn ei dad, ac mai ef a fwriadwyd fel ei olynydd. Fodd bynnag, bu ef farw yn gynamserol yn 1146. Cred rhai ysgolheigion fod Hywel wedi ei fwriadu fel olynydd Owain yn dilyn marwolaeth ei frawd. Fodd bynnag, pan fu farw Owain, gwrthwynebwyd Hywel gan feibion Cristin, Dafydd a Rhodri. Ffôdd Hywel i Iwerddon, a dychweld gyda byddin i geisio hawlio'r deyrnas, ond gorchfygwyd ef a'i ladd gan wŷr Dafydd a Rhodri ym Mrwydr Pentraeth. Rhannwyd y deyrnas rhwng Dafydd a Rhodri.
Canwyd clodydd Owain gan nifer o feirdd, yn arbennig Gwalchmai ap Meilyr, oedd yn fardd llys iddo. Ystyrir Marwnad Owain (1170) yn un o gerddi gorau Cynddelw Brydydd Mawr. Canodd Llywelyn Fardd iddo hefyd. Cred llawer o ysgolheigion mai Owain oedd yn gyfrifol am gomisiynu bywgraffiad o'i dad, Historia Gruffud vab Kenan.