Roedd Ranulf II (gelwir hefyd yn Ranulf le Meschin neu Ranulf de Gernon) (1099–1153) yn arglwydd Eingl-Normanaidd a etifeddodd iarllaeth Caer ar farwolaeth ei dad Ranulf le Meschin, 3ydd Iarll Caer, yn Lloegr. Roedd yn ddisgynnydd uchelwyr o Bayeux yn Normandi.
Cofir Ranulf am ei ran ym mrwydr Lincoln yn 1141 a hefyd am y cymorth a rhoddodd i Harri II, brenin Lloegr, pan geisiodd y brenin hwnnw oresgyn Teyrnas Gwynedd yn dilyn Brwydr Cwnsyllt lle cafodd Harri ei drechu gan Owain Gwynedd yn 1157.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!