Prif arweinydd gwrthryfel Cymreig 1294-95 a Thywysog Cymru, elwir weithiau 'Gwrthryfel Madog', oedd Madog ap Llywelyn (fl.1277 - 1312). Gyda Cynan ap Maredudd yn y Canolbarth a Maelgwn ap Rhys y De, llwyddodd am gyfnod i ryddhau rhannau o Gymru o afael y Saeson fel arweinydd gwrthryfel cenedlaethol a ymladdwyd ar draws Gymru.
Mewn ymateb daeth Edward I i ogledd Cymru, gan gyrraedd Castell Conwy ar Ŵyl San Steffan 1294, ond i gael ei hun dan warchae yno am ddeg diwrnod ym mis Ionawr. Adferodd y brenin ei awdurdod serch hynny ond parhaodd y gwrthryfel am gyfnod. Yna, pan oedd ef, Madog, a'i wŷr ar eu ffordd i lawr i Bowys yn 1295, cafodd ei drechu gan Iarll Warwig ym Mrwydr Maes Maidog.
Ildiodd Madog ar ddiwedd 1295. Ni wyddys beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Cymerodd y Saeson 74 o wystlon o Sir Gaernarfon a Meirionnydd i sicrhau heddwch ar ôl i'r gwrthryfel ddarfod ond nid yw enw Madog yn eu plith.