Clerigwr Cymreig a fu'n dal swydd Esgob Bangor ond heb gydnabyddiaeth Archesgob Caergaint oedd Arthur o Enlli.
Ar farwolaeth yr esgob Meurig, penododd Owain Gwynedd Arthur i'r esgobaeth tua 1165. Gwrthododd Archesgob Caergaint ei gysegru, felly trefnodd Owain i Arthur gael ei gysegru yn Iwerddon.
Mae ei enw yn awgrymu cysylltiad ag Ynys Enlli ac felly mae'n bosibl ei fod yn frodor o ardal Llŷn, Gwynedd.