Arfbeisiau Cymru
Arfbais Llywelyn ap Gruffudd , yn y Chronica Majora
Mae'r erthygl hon yn rhestru rhai o arfbeisiau hanesyddol Cymru . Am restr o faneri Cymreig, gweler yma .
Ceir dau fath o arfbais, arfbais personol yr unigolyn (arglwydd neu uchelwr fel arfer) ac arfbais a oedd yn perthyn i deyrnas neu ran o'r wlad.
Arfbeisiau personol Tywysogion Cymru
Baner
Dyddiad
Defnydd
Disgrifiad
1267-83, 1400au
Arfbais bersonol, gwreiddiol Tywysog Cymru . Daeth yn faner Tywysogaeth Cymru yn nheyrnasiad Llywelyn Fawr .
Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill.
c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282
Arfbais bersonol Llywelyn ap Gruffudd
Tri llew coch ar drithroed ar faes llwyd. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr arfbais gan dîm pêl-droed Lloegr!
13g
Baner Dafydd ap Gruffudd , brawd Llywelyn II .
Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant).
14eg - 15g -
Arfbais Glyndŵr
Arfau Gwynedd : llewod yn sefyll ar undroed (regardant ), gydag arfau Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr
1100 - 1170
Arfbais Owain Gwynedd (priodolwyd)
Tri eryr aur ar faes gwyrdd. Roedd yr arfbais hon hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgynyddion Owain sef y teulu Anwyl o Dywyn .
c.1055–1137
Arfbais bersonol Gruffudd ap Cynan . (priodolwyd, heb ffynhonnell)
Tri llew llwyd ar drithroed (passant ), ar faes coch.
Arfbeisiau Teyrnasoedd Cymru
Baner
Dyddiad
Defnydd
Disgrifiad
c. 1200 - heddiw
Arfbais Teyrnas Gwynedd ac arfbais draddodiadol Aberffraw a Llywelyn Fawr .
Llewod coch drithroed (passant ) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill.
?
Teyrnas Powys ac yn ddiweddarach: Powys Wenwynwyn . Yn draddodiadol, hon oedd arfbais Llŷs Mathrafal .
Llew coch tywyll yn sefyll ar undroed (regardant ), ar gefndir melyn.
1191-1236
Arfbais Powys Fadog sef y rhan ogleddol o Deyrnas Powys ; yn wreiddiol: arfbais Madog ap Gruffydd Maelor . Argent, a lion Sable armed and langed Gules .
Llew du yn sefyll ar undroed (regardant ), ar gefndir gwyn.
?
Cysylltir yr arfbais hon gyda Theyrnas Deheubarth .
Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant ), ar gefndir coch, gydag ymyl pigog, melyn.
?
Arfbais Teyrnas Gwent
Hanner chwith glas, hanner dde yn ddu, gyda thair Fleurs-de-Lis aur .
975 - 1010
Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren gan gynnwys: Maelienydd , Elfael , Ceri , Gwerthrynion , Cwmwd Deuddwr a Buellt ). Arfbais Elystan Glodrydd , sylfaenydd 5ed Llinach Frenhinol Cymru.
Gules, a lion rampant regardant Or.
1010 ->
Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren . Arfbais Cadwgan ap Elystan Glodrydd
Tri mochyn gwyllt
?
Arfbais Teyrnas Ceredigion
Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant ) yn edrych yn ôl, ar gefndir gwyn.
o 1045 ymlaen
Arfbais Teyrnas Morgannwg a'u sefydlydd, sef Iestyn ap Gwrgant .
Tri chevronels argent gwyn ar faes coch.
hyd at 920
Arfbais Teyrnas Dyfed
Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant ), gyda phedwar rhosyn aur o'i ddeutu, ar gefndir glas.
Pymtheg Llwyth Gwynedd
Mae'r arfbeisiau canlynol i'w gweld mewn ystafell arbennig yn Erddig wedi'u creu ar gyfer perchennog y tŷ, Philip Yorke (1743 - 1804) a oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr ar arfbeisiau Cymru.[ 1] [ 2]
Unigolion eraill
Yr Eglwys yng Nghymru
Siroedd
Arfbais
Dyddiad
Defnydd
Disgrifiad
Mawrth 2014
Baner Sir Fôn
Tri llew aur ar ddwy goes, ar gefndir coch gyda chevronel aur
2012
Tarian Sir Gaernarfon
Tair eryr aur mewn rhes ar gefndir gwyrdd.
Heb ei chofrestru
Tarian Ceredigion
Llew aur ar ddwy goes, ar gefndir du.
2013
Tarian De Morgannwg
Tair chevronel wen ar gefndir coch
?
Tarian Sir Forgannwg (traddodiadol)
Tair chevron goch ar gefndir melyn a thair rhosyn coch.
2015
Tarian Sir Feirionnydd
Tair gafr arian ar ddwy goes, gyda haul aur ar gefndir glas.
2011
Tarian Sir Fynwy
Tair Fleur-de-Lis aur ar gefndir glas a du.
Heb ei chofrestru
Tarian Sir Drefaldwyn
Tri phen mul arian ar gefndir du.
2015
Tarian Sir y Fflint
Croes ddu arf gefndir arian gyda phedwar Brân Goesgoch , un ym mhob cornel.
1988
Tarian Sir Benfro
Croes aur ar gefndir glas, gyda rhosyn Tuduraidd coch a gwyn yn y canol.
-
Tarian Sir Faesyfed
Pen baedd ar gefndir glas a melyn (streips llorweddol).
-
Tarian Sir Clwyd
Llew du ar ddwy goes, gyda dwy streipen donnog uwch ei ben a dwy frân uwch y rhain.
-
Tarian Ddir Ddinbych
Llew du ar ddwy goes; uwch ei ben ceir dwy streipen las a hanner
-
Tarian Sir Gaerfyrddin
Dau lew melyn ar gefndir coch, gyferbyn â'i gilydd a dwy ddraig goch ar gefndir melyn gyferbyn â'i gilydd.
-
Tarian Sir Dyfed
Tri llew melyn ym mhob cornel ar gefndiroedd gwahanol: du, coch a glas.
hyd at 1996
Tarian Gwynedd
Gafr wen ar gefndir glas ac uwch ei phen, ceir dau lew yn sefyll ac un yn y canol ar ddwy goes.
Arall
Prifysgol Cymru
Arfbais a grewyd yn ddiweddar i goffáu
Dewi Sant
Arfbeisiau Saeson a Normaniaid yng Nghymru
Hugh le Despenser (yr hynaf)
Gilbert de Clare
teulu
Brewys (de Braose), Arglwydd Bramber a Gŵyr
Barwn 1af Grey o Wilton
Ail Farwn Grey o Wilton
Hugh de Kevelioc, 5ed Iarll Caer
Bernard de Newmarket, Arglwydd Brycheiniog
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
↑ The Royal Tribes of Wales, Philip Yorke (1743 ~1804) (cyhoeddwyd yn 1887 yn Wrecsam)
↑ A Pedigree of the Royal Tribes of Wales, Roderick D. Davies (1999); gweler fersiwn ar-lein ar wefan archive.org: yma
Dolennau allanol