Priododd Angharad, merch Owain Gwynedd. Mae Gerallt Gymro yn cofnodi ei fod wedi cael ei berswadio gan yr eglwys i ysgaru Angharad yn 1188; gan fod Owain Gwynedd yn frawd i fam Gruffudd roedd y berthynas rhyngddynt yn rhy agos i ganiatau priodas yn ôl rheolau'r eglwys. Mae Brut y Tywysogion yn ei ddisgrifio fel Yr haelaf o holl tywyssogion kymry. Gadawodd ddau fab, Madog ac Owain.
Llyfryddiaeth
John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)