Roedd Buellt (weithiau Buallt) yn deyrnas gynnar a chantref yn ne canolbarth Cymru (deheubarth Powys heddiw), i'r gogledd o fryniau Eppynt. Ystyr yr enw Buellt yw 'porfa gwartheg'.
Gorweddai Buellt yng ngorllewin y rhanbarth canoloesol a elwir Rhwng Gwy a Hafren. Roedd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd ar lannau deheuol Afon Wysg.
Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol rhannwyd cantref Buellt yn bedwar cwmwd, sef :
Enwir y cymydau hyn ar ôl eu canolfannau lleyg, a safai yn nyffryn Irfon neu'n agos iddo. Yn yr un ardal ceir canolfannau eglwysig y cantref, sef eglwysi Llanafan Fawr a Maesmynis, mam eglwys Buellt.
Hanes
Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Ymddengys ei bod yn deyrnas annibynnol yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Tua'r flwyddyn 800, cafodd ei chyplysu â Gwerthrynion gan y brenin Ffernfael. Roedd pendefigion Buellt yn credu eu bod yn ddisgynyddion i'r brenin Gwrtheyrn. Ceir cofnod am hyn yn yr Historia Brittonum gan Nennius. Dyna'r cwbl a wyddys am hanes Buellt cyn diwedd yr 11g.
Erys Buellt yn adnabyddus am bennod dywyll yn hanes Cymru pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ger Cilmeri (Pont Irfon) ym Muellt ar 11 Rhagfyr1282. Enillodd y traddodiad am frad a chynllwyn yn erbyn y tywysog yr enw "bradwyr Buellt" ar drigolion yr ardal.