Tsieina

Tsieina
Zhōnghuá Rénmín Gònghéguó
中华人民共和国
MathGwlad
Enwyd ar ôlQin, Chu, Yelang, Khitan people, Jin, Tuoba, Dahe, Brenhinllin Han, Northern Wei, Rinan, Qi, Chengdu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau35°N 105°E Edit this on Wikidata
Map
Pwnc yr erthygl hon yw y gwareiddiad Tsieineeg a'r ardal ddaearyddol yn nwyrain Asia. Os am ystyron eraill y gair gweler Tsieina (gwahaniaethu).

Mae Tsieina (hefyd Tseina neu China) (Tsieineeg traddodiadol: 中國, Tsieineeg symledig: 中国, pinyin: "Cymorth – Sain" Zhōngguó ) yn endid gwleidyddol a daearyddol yn nwyrain Asia.

Mae'n wlad yn Nwyrain Asia ac yn weriniaeth sosialaidd un blaid unedol dan arweiniad Plaid Gomiwnyddol Tsieina (CPC). Hi yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1.4 biliwn. Mae Tsieina'n dilyn un amser safonol sef UTC + 08: 00 er ei fod, mewn gwirionedd, yn rhychwantu pum cylchfa amser daearyddol ac yn ffinio â 14 gwlad, yr ail fwyaf o unrhyw wlad yn y byd, ar ôl Rwsia. Mae ei harwynebedd oddeutu 9.6 miliwn cilometr sgwâr (3.7 miliwn milltir2), hi yw trydedd neu bedwaredd wlad fwyaf y byd. Rhennir y wlad yn swyddogol yn 23 talaith (Saesneg: province, Mandarin: Shěng-jí xíngzhèngq), pum rhanbarth ymreolaethol, a phedair bwrdeirefyn Beijing (y brifddinas), Tianjin, Shanghai (y ddinas fwya), a Chongqing, yn ogystal â dau ranbarth gweinyddol arbennig: Hong Cong a Macu.

Daeth Tsieina i'r amlwg fel un o wareiddiadau cynta'r byd, ym masn ffrwythlon yr Afon Felen (y Huang He) ynng Ngwastadedd Gogledd Tsieina. Roedd Tsieina yn un o bwerau economaidd mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y rhan fwyaf o'r ddwy fileniwm o 1g tan y 19g. Am filoedd o flynyddoedd, roedd system wleidyddol Tsieina wedi'i seilio ar frenhiniaeth etifeddol absoliwt, neu linach (dynasty), gan ddechrau gyda llinach Xia yn 21g CC. Ers hynny, mae Tsieina wedi ehangu, chwalu ac ail-uno sawl gwaith. Yn y 3g CC, adunodd y Qin y rhan fwyaf o Tsieina a sefydlu'r ymerodraeth Tsieineaidd gyntaf sef Brenhinllin Qin. Gwelodd Brenhinllin Han a'i holynodd (206 ÔC-220 ÔC) beth o'r dechnoleg fwyaf datblygedig ar yr adeg honno, gan gynnwys cynhyrchu papur a'r cwmpawd, ynghyd â gwelliannau amaethyddol a meddygol, powdwr gwn ac argraffu yn ystod Brenhinllin Tang (618-907) a Brenhiniaeth y Song Gogleddol (960–1127).

Ymledodd diwylliant Tang yn eang drwy Asia, wrth i'r Ffordd y Sidan newydd ddod â masnachwyr gyn belled â Mesopotamia a Chorn Affrica.

Dioddefodd Brenhinllin Qing yn drwm dan ormes imperialaeth tramor, negis Lloegr. Dyma linach olaf Tsieina, a sail tiriogaethol ar gyfer y Tsieina fodern. Cwympodd brenhiniaeth Tsieineaidd ym 1912 gyda Chwyldro 1911, pan ddisodlodd Gweriniaeth Tsieina (ROC) Brenhinllin Qing. Ymosododd Ymerodraeth Japan ar Tsieina yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1948 arweiniodd Rhyfel Cartref Tseina at rannu tiriogaethau pan sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Tseiniaidd (CCP), dan arweiniad Mao Zedong, Weriniaeth Pobl Tsieina ar dir mawr Tsieina tra enciliodd Kuomintang dan arweiniad llywodraeth ROC i ynys Taiwan. Yn 2021 roedd y PRC a'r ROC ill dau'n honni mai nhw yw unig lywodraeth gyfreithlon Tsieina, gan arwain at anghydfod parhaus hyd yn oed ar ôl i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod y PRC fel y llywodraeth sqyddogol.

Mae'r wlad yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac yn aelod o sawl sefydliad fel Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd, Cronfa'r Ffordd y Sidan, y Banc Datblygu Newydd, Sefydliad Cydweithredol Shanghai, a'r Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr Rhanbarthol, ac mae hefyd yn aelod o BRICS, y G8 + 5, y G20, APEC, ac Uwchgynhadledd Dwyrain Asia.

Mae ymhlith yr isaf o holl wledydd y byd mewn mesuriadau rhyngwladol o ran: rhyddid sifil, tryloywder ei llywodraeth, rhyddid y wasg, rhyddid crefydd a lleiafrifoedd ethnig. Mae awdurdodau Tsieineaidd wedi cael eu beirniadu gan wleidyddol ac actifyddion hawliau dynol am gam-drin hawliau dynol ar raddfa fawr, gan gynnwys gormes gwleidyddol, sensoriaeth dorfol, monitro torfol o'u dinasyddion ac atal protestiadau mewn modd treisgar.

Ar ôl diwygiadau economaidd ym 1978, a'i mynediad i Sefydliad Masnach y Byd yn 2001, daeth economi Tsieina yn wlad ail-fwyaf trwy Gynnyrch Mewnwladol Crynswth enwol yn 2010 a thyfodd i'r mwyaf yn y byd o ran PPP yn 2014. Tsieina yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, y genedl ail gyfoethocaf yn y byd, a gwneuthurwr ac allforiwr mwya'r byd. Mae gan y genedl fyddin sefydlog gryfaf yn y byd - Byddin Rhyddid y Bobl - y gyllideb amddiffyn ail-fwyaf, ac mae'n wladwriaeth arfau niwclear gydnabyddedig. Caiff ei chyfri'n uwch-bŵer posib oherwydd ei heconomi fawr a'i grym milwrol.

Geirdarddiad

Benthyciodd y Gymraeg y gair Tsieina o'r Saesneg China ers yr 16g; fodd bynnag, nid y gair hwn a ddefnyddiwyd gan y Tsieineaid eu hunain yn ystod y cyfnod hwn. Mae ei darddiad wedi cael ei olrhain trwy'r Bortiwgaleg, Maleieg a Pherseg čin (چین) yn ôl i'r gair Sansgrit cīna (चीन), a ddefnyddir yn yr India hynafol.[1]

Defnyddiwyd cīna yn gyntaf yn yr ysgrythur Hindŵaidd gynnar, gan gynnwys y Mahābhārata (5g CC) a Deddfau Manu (2g CC).[2] Yn 1655, awgrymodd Martino Martini fod y gair China yn deillio yn y pen draw o enw Brenhinllin Qin (221–206 CC).[2][3] Er bod defnydd mewn ffynonellau Indiaidd yn rhagflaenu'r frenhiniaeth hon, rhoddir y tarddiad hwn mewn amryw ffynonellau o hyd.[4] Mae tarddiad y gair Sansgrit yn destun dadl, yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen.[1] Ceir awgrymiadau niferus gan gynnwys yr enwau ar gyfer Yelang a thalaith Jing neu Chu.[2][5]

Hanes

Cynhanes

Crochenwaith 10,000 mlwydd oed, diwylliant Ogof Xianren (18000-7000 BCE)

Ceir tystiolaeth archeolegol sy'n awgrymu bod hominidau cynnar yn byw yn Tsieina 2.25 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP).[6] Darganfuwyd ffosiliau hominid Dyn Peking (Homo erectus pekinensis), Homo erectus a ddefnyddiai dân,[7] mewn ogof yn Zhoukoudian ger Beijing; dyddiwyd y gweddillion yma i rhwng 680,000 a 780,000 o flynyddoedd yn ôl.[8] Darganfuwyd dannedd ffosiledig Homo sapiens (dyddiedig i 125,000-80,000 CP) yn Ogof Fuyan yn Sir Dao, Hunan.[9] Gwyddom fod ysgrifennu cynnar yn bodoli yn Jiahu tua 7000 CC,[10] a hefyd yn Damaidi tua 6000 BCE, Dadiwan rhwng 5800 a 5400 BCE, a Banpo a ddyddiwyd i'r 5ed mileniwm CC. Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu mai symbolau Jiahu (7fed mileniwm BCE) oedd y system ysgrifennu Tsieineaidd gynharaf.[10]

Rheol dynastig gynnar

Yinxu, adfeilion prifddinas Brenhinllin Shang hwyr (o'r 14g CC)

Yn ôl traddodiad Tsieineaidd, y brenhinllyn cyntaf oedd y Xia, a ddaeth i'r amlwg tua 2100 CC.[11] Roedd llinach Xia yn nodi dechrau system wleidyddol o frenhiniaeth etifeddol, neu linach, a barhaodd am mileniwm gyfan.[12] Ystyriwyd y linach yn ffuglen chwedlonol gan haneswyr nes i dystiolaeth gwyddonol drwy archaeoleg ddod o hyd i safleoedd cynnar yn yr Oes Efydd yn Erlitou, Henan ym 1959.[13] Mae'n parhau i fod yn aneglur ai olion llinach Xia neu ddiwylliant arall o'r un cyfnod yw'r safleoedd hyn.[14] Brenhinllin olynol Shang yw'r cynharaf i gael ei gadarnhau gan gofnodion cyfoes.[15] Roedd y Shang yn rheoli gwastadedd yr Afon Felen (Huang He) yn nwyrain Tsieina o'r 17g i'r 11g CC.[16]

Gorchfygwyd y Shang gan y Zhou, a deyrnasodd rhwng yr 11g a'r 5g CC. Yn y pen draw, daeth rhai tywysogaethau i'r amlwg o'r Zhou gwan, nad oeddent bellach yn ufuddhau'n llawn i frenin Zhou, ac a oedd yn rhyfela'n barhaus gyda'i gilydd dros gyfnod o 300 mlynedd. Erbyn cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar o'r 5ed - 3g CC, dim ond saith talaith bwerus oedd ar ôl.[17]

Tsieina Ymerodrol

Mae ymerawdwr cyntaf Tsieina, Qin Shi Huang, yn enwog am iddo uno waliau'r Taleithiau Rhyfelgar i ffurfio Mur Mawr Tsieina. Mae'r rhan fwyaf o'r strwythur presennol, fodd bynnag, yn dyddio i linach Ming.

Daeth Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar i ben yn 221 CC ar ôl i Frenhinllyn Qin orchfygu'r chwe theyrnas arall, aduno Tsieina a sefydlu trefn ddominyddol awtocrataidd. Cyhoeddodd y Brenin Zheng o Qin ei hun yn Ymerawdwr Cyntaf llinach Qin. Deddfodd ddiwygiadau cyfreithiiol Qin ledled Tsieina, gan safoni cymeriadau (ysgrifen) Tsieineaidd, mesuriadau safonol, lled ffyrdd (h.y., hyd echelau cart), ac arian cyfred. Gorchfygodd ei linach lwythau Yue yn Guangxi, Guangdong, a Fietnam.[18] Dim ond pymtheng mlynedd y parhaodd llinach Qin, gan ddymchwel yn fuan ar ôl marwolaeth yr Ymerawdwr Cyntaf, wrth i’w bolisïau awdurdodol, llym arwain at wrthryfel eang.[19][20]

Teyrnasoedd Ffiwdal

Ymerodraeth Tsieina

Yn dilyn Gwrthyfel Xinhai, ymddiswyddodd yr Ymerodres Longyu ar ran yr ymerawdwr olaf, Puyi, ar 12 Chwefror 1912.

Yn 1949 rhannwyd Tsieina yn ddwy wladwriaeth:

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "China". Oxford English Dictionary.
  2. 2.0 2.1 2.2 Wade, Geoff.
  3. Martino, Martin, Novus Atlas Sinensis, Vienna 1655, Preface, p. 2.
  4. Bodde, Derk (1978). Denis Twitchett; Michael Loewe (gol.). The Cambridge History of China: Volume 1, The Ch'in and Han Empires, 221 BC – AD 220. t. 20. ISBN 978-0-521-24327-8.
  5. Yule, Henry (1866). Cathay and the Way Thither. tt. 3–7. ISBN 978-81-206-1966-1.
  6. Ciochon, Russell; Larick, Roy (1 Ionawr 2000). "Early Homo erectus Tools in China". Archaeology (magazine). Cyrchwyd 30 Tachwedd 2012.
  7. "The Peking Man World Heritage Site at Zhoukoudian". UNESCO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2016. Cyrchwyd 6 Mawrth 2013.
  8. Shen, G.; Gao, X.; Gao, B.; Granger, De (March 2009). "Age of Zhoukoudian Homo erectus determined with (26)Al/(10)Be burial dating". Nature 458 (7235): 198–200. Bibcode 2009Natur.458..198S. doi:10.1038/nature07741. ISSN 0028-0836. PMID 19279636. https://www.semanticscholar.org/paper/d502c36487e27d90c7962fc60d28c48ab16c8f0e.
  9. Rincon, Paul (14 Hydref 2015). "Fossil teeth place humans in Asia '20,000 years early'". BBC News. Cyrchwyd 14 Hydref 2015.
  10. 10.0 10.1 Rincon, Paul (17 April 2003). "'Earliest writing' found in China". BBC News. Cyrchwyd 14 Ionawr 2020.
  11. Tanner, Harold M. (2009). China: A History. Hackett Publishing. tt. 35–36. ISBN 978-0-87220-915-2.
  12. Xia–Shang–Zhou Chronology Project by People's Republic of China
  13. "Bronze Age China". National Gallery of Art. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2013.
  14. China: Five Thousand Years of History and Civilization. City University of HK Press. 2007. t. 25. ISBN 978-962-937-140-1.
  15. Pletcher, Kenneth (2011). The History of China. Britannica Educational Publishing. t. 35. ISBN 978-1-61530-181-2.
  16. Fowler, Jeaneane D.; Fowler, Merv (2008). Chinese Religions: Beliefs and Practices. Sussex Academic Press. t. 17. ISBN 978-1-84519-172-6.
  17. "Warring States". Encyclopædia Britannica.
  18. Sima Qian, Translated by Burton Watson.
  19. Bodde, Derk. (1986).
  20. Lewis, Mark Edward (2007). The Early Chinese Empires: Qin and Han. London: Belknap Press. ISBN 978-0-674-02477-9.
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau

Read other articles:

الصفحه دى يتيمه, حاول تضيفلها مقالات متعلقه لينكات فى صفحات تانيه متعلقه بيها. سيد محمود جلال معلومات شخصيه اسم الولاده (بالعربى: سيد محمود جلال إبراهيم الوداعي)  الميلاد 5 نوفمبر 1980 (43 سنة)[1][2]  البحرين  الطول الجنسيه الحياة العمليه الفرق نادى السيليه (2005–2006)ن

 

Atsushi Hashimoto (橋本 淳code: ja is deprecated , Hashimoto Atsushi, lahir 14 Januari 1987) adalah seorang aktor asal Jepang. Dia mulai berkarier di dunia film sejak tahun 2004, dan dia dikenal dengan peran-perannya dalam serial tokusatsu dan drama: sebagai Kai Ozu / MagiRed dalam serial Super Sentai Mahou Sentai Magiranger, sebagai Yuichi Ezaki dalam Hanbun no Tsuki ga Noboru Sora, dan sebagai Hosomatsu / Raiden dalam Chou Ninja Tai Inazuma!. Atsushi Hashimoto sekarang berada di bawah ma...

 

Ronifibrato Nombre (IUPAC) sistemático 3-{[2-(4-clorofenoxi)-2-metilpropanoil]oxi}propil nicotinatoIdentificadoresNúmero CAS 42597-57-9Código ATC C10AB07PubChem 68671ChemSpider 61925UNII W86I18X716ChEMBL 153983Datos químicosFórmula C19H20NClO5 Peso mol. 377,819 g/mol SMILESO=C(OCCCOC(=O)C(Oc1ccc(Cl)cc1)(C)C)c2cccnc2 InChIInChI=1S/C19H20ClNO5/c1-19(2,26-16-8-6-15(20)7-9-16)18(23)25-12-4-11-24-17(22)14-5-3-10-21-13-14/h3,5-10,13H,4,11-12H2,1-2H3Key: AYJVGKWCGIYEAK-UHFFFAOYSA-N Sinóni...

Kap Verde Botschaft Kap Verdes in Deutschland Logo Staatliche Ebene bilateral Stellung der Behörde Botschaft Aufsichts­behörde(n) Außenministerium Bestehen seit 1997 in der Bundesrepublik Deutschland Unmittelbar vorher 1975–1990 in der DDR Hauptsitz Deutschland Berlin Botschafter Emanuel Henrique Semedo Duarte Website Botschaft Kap Verdes in Deutschland Botschaftsgebäude Stavangerstraße 16 Die Botschaft Kap Verdes in Berlin ist die diplomatische Vertretung der Republik Kap Ve...

 

Disambiguazione – Se stai cercando le regioni autonome precedenti all'indipendenza, vedi Regione Autonoma del Sudan Meridionale. Sudan del Sud (dettagli) (dettagli) (EN) Justice, Prosperity, Liberty, (IT) Giustizia, Prosperità, Libertà Sudan del Sud - Localizzazione Dati amministrativiNome completoRepubblica del Sudan del Sud Nome ufficialeRepublic of South Sudan Lingue ufficialiInglese Altre linguearabo, lingue nilo-sahariane, juba, nuer, zande CapitaleGiuba  (372.410 ab. ...

 

John Reid (Juni 2007) John Reid, Baron Reid of Cardowan (* 8. Mai 1947 in Bellshill, Lanarkshire, Schottland) ist ein britischer Politiker der Labour Party, der nicht nur mehrfach Minister war, sondern seit 2007 auch Vorsitzender des Fußballvereins Celtic Glasgow ist. Biografie Nach dem Besuch der St. Patrick’s High School in Coatbridge studierte er zunächst an The Open University, ehe er ein Studium der Geschichte an der University of Stirling absolvierte und dort einen Bachelor of ...

この記事は検証可能な参考文献や出典が全く示されていないか、不十分です。出典を追加して記事の信頼性向上にご協力ください。(このテンプレートの使い方)出典検索?: 公立学校共済組合九州中央病院 – ニュース · 書籍 · スカラー · CiNii · J-STAGE · NDL · dlib.jp · ジャパンサーチ · TWL(2022年12月) 公立学校共済組合九州中...

 

Race in Buriram, Thailand Buriram MarathonDatelater JanuaryLocationBuriram, ThailandEvent typeRoadDistanceMarathon, Half marathon, 10 kmPrimary sponsorChangEstablished2017Course recordsMen: 2:10:23 David Barmasai (2020)Women: 2:37:52 Sharon Cherop (2020)Official siteBuriram MarathonParticipants3,390 finishers (2022)4,291 (2021)5,218 (2020)6,548 (2019)3,581 (2018)1,220 (2017) The Buriram Marathon is held every February at the Chang International Circuit in Buriram, northeastern Thailand. Its t...

 

Logo index.hu Index.hu adalah salah satu portal internet dalam bahasa Hungaria yang paling berpengaruh dan populer dengan jumlah pembaca harian yang melebihi satu juta orang.[1] Index didirikan pada tahun 1995 dengan nama Internetto.hu. Dari segi politik, situs ini berhaluan tengah dan cenderung liberal dalam berbagai isu-isu sosial. Saingan utamanya adalah situs Origo.hu hingga akhirnya Origo dijual kepada pebisnis yang dekat dengan pemerintahan Fidesz pada tahun 2015. Beberapa layan...

El Circo de Calder Autor Alexander CalderCreación 1926 y 1931Ubicación Museo Whitney de Arte Estadounidense (Estados Unidos)Material AlambreDimensiones 137,2 centímetros x 239,4 centímetros[editar datos en Wikidata] El Circo de Calder, Calder's Circus o Cirque Calder es la primera gran obra del artista estadounidense Alexander Calder creada en París entre 1926 y 1931. Es una representación artística de un circo, formada por esculturas de alambre montadas para desempeñar las ...

 

1919–1920 self-proclaimed state Arab Kingdom of Syriaالمملكة العربية السورية (Arabic)al-Mamlakah al-‘Arabīyah as-Sūrīyah1919–1920 Flag Emblem Anthem: سوريا يا ذات المجدO Syria, Who Owns the Glory[1]The Arab Kingdom of Syria at its greatest extent in January 1920CapitalDamascus33°30′47″N 36°17′31″E / 33.51306°N 36.29194°E / 33.51306; 36.29194Common languagesArabicDemonym(s)SyrianGovernmentUnitary...

 

Omid NooshinOmid NooshinBornOmid Nooshin(1974-05-02)May 2, 1974Guildford, Surrey, England, UKDied15 January 2018 (aged 43)London England, UKNationalityBritishOccupationDirectorYears active1994–2017 Omid Nooshin (02 May 1974 - 15 January 2018) was an English film director and writer. He was best known for his debut independent feature film Last Passenger. Early life Nooshin was born in Guildford, Surrey, in 1974, the son of Hoshyar Nooshin, Emeritus Professor of Space Structures at...

South Korean politician The Right HonourableMoon Hee-sang문희상Speaker of the National AssemblyIn office13 July 2018 – 29 May 2020PresidentMoon Jae-inDeputyLee Ju-youngJoo Seung-yongPreceded byChung Sye-kyunSucceeded byPark Byeong-seugChairman of the New Politics Alliance for DemocracyInterimIn office28 September 2014 – 9 February 2015Preceded byPark Young-sun (Interim)Succeeded byMoon Jae-inChairman of the Democratic PartyInterimIn office9 January 2013 – 4...

 

Subcompact automobile For other uses, see Vega (disambiguation). Motor vehicle Chevrolet Vega1971 Chevrolet VegaOverviewManufacturerChevrolet (General Motors)Also calledVega 2300Production1970–1977Model years1971–1977AssemblyUnited States: Lordstown, Ohio (Lordstown Assembly); South Gate, California (South Gate Assembly)Canada: Quebec (Sainte-Thérèse Assembly)DesignerGM & Chevrolet design staffs chief stylist, Bill MitchellBody and chassisClassSubcompactBody style2-do...

 

Governing body of amateur boxing in Pakistan. This article needs additional citations for verification. Please help improve this article by adding citations to reliable sources. Unsourced material may be challenged and removed.Find sources: Pakistan Boxing Federation – news · newspapers · books · scholar · JSTOR (July 2015) (Learn how and when to remove this template message) Pakistan Boxing Federationپاکستان باکسنگ فیڈریشنSportAmat...

Warlords of Mars redirects here. For the book by Edgar Rice Burroughs, see The Warlord of Mars. 2005 studio album by The Dandy WarholsOdditorium or Warlords of MarsStudio album by The Dandy WarholsReleasedSeptember 13, 2005RecordedApril 2004 – January 2005StudioThe Odditorium, Portland, Oregon, United StatesGenrePsychedelic rock[1]Length62:09LabelCapitolProducer Courtney Taylor-Taylor Gregg Williams The Dandy Warhols chronology The Black Album/Come On Feel The Dandy Warhols(...

 

Ballymaloe Cookery SchoolKitchen garden at Ballymaloe, County CorkEstablished1983FocusCookery schoolOwnerAllen familyLocationShanagarry, County Cork, IrelandCoordinates51°51′35″N 8°01′55″W / 51.8596°N 8.0320°W / 51.8596; -8.0320 The Ballymaloe Cookery School (ba-lee-ma-LOO) is a privately run cookery school in Shanagarry, County Cork, Ireland, that was opened in 1983. It is run by Darina Allen, a celebrity chef, cookery book author and pioneer of the slow f...

 

Union française. Territorien nach Status: Mutterland und Übersee-Départements Überseeterritorien Assoziierte Territorien Schraffiert: Assoziierte Staaten (Unabhängigkeit vor 1958) Nach dem Zweiten Weltkrieg schuf Frankreich 1946 die Union française (Französische Union) mit dem Ziel, sein Kolonialreich nach dem Vorbild des britischen Commonwealth of Nations umzugestalten. Am Beispiel der Französischen Union und des Commonwealth orientierte sich wiederum die Nied...

Piolo Jose PascualPiolo Pascual in 2008.LahirPiolo José Norkis Pascual12 Januari 1977 (umur 47)Manila, FilipinaNama lainPJPekerjaanAKtor, musisi, model dan produserTahun aktif1994-sekarangTinggi5'10½ Piolo Jaime Pascual (lahir 12 Januari 1977) adalah aktor, musisi, model dan produser asal Filipina. Filmografi Aktor Tahun Film Peran Penghargaan 1993 The Vizconde Massacre Story (God Help Us!) Jussi Leino 1997 Batang PX 1999 Esperanza: The Movie Brian Nominated—FAMAS Award fo...

 

Peter Andrew Comensoli Arcebispo da Igreja Católica Arcebispo de Melbourne Info/Prelado da Igreja Católica Hierarquia Papa Francisco Atividade eclesiástica Diocese Arquidiocese de Melbourne Nomeação 29 de junho de 2018 Entrada solene 1 de agosto de 2018 Predecessor Dom Denis Hart Mandato 2018 - atualidade Ordenação e nomeação Ordenação presbiteral 22 de maio de 1992por Dom William Edward Murray Nomeação episcopal 20 de abril de 2011 Ordenação episcopal 8 de junho de 2011Catedr...

 

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!